Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Ymchwydd mewn hunan hyder

Annwyl Olygydd,

Rhaid i’r Gymraeg fynnu dyfodol beiddgar a dychmygus mewn bydoedd modern – yn enwedig ar y we. Ni da lle gellir gwell! Ond yn y pendraw, credaf fod darllen rhywbeth difyr yn y Gymraeg ar bapur (a chanolbwyntio ar hyn yn unig) yn ymarferiad llawer iachach a challach i’r ymennydd.

Mae Cymru wedi dweud ‘Ie’ yn y refferendwm ar fwy o ddatganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol. Efallai y bydd yr ymchwydd mewn hunan hyder a’r canlyniad positif yma yn arwain at fwy o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Gobeithiaf y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn help i greu byd a bywyd Cymraeg mwy deallus, llengar… Rhaid i ddatblygiadau fel hyn geisio agor y drws unwaith eto i gael papur dyddiol Cymraeg o safon.

Y mae yna amser a lle priodol i bob dim. Ond dyna ni – os yw rhai o’n gwleidyddion yn Senedd Bae Caerdydd yn rhy ddi-glem i ddiffodd eu cyfrifiaduron a chanolbwyntio ar sylwadau pwy bynnag sydd ar ei draed/thraed yn y brif siambr (a gwella ansawdd a lefel bywiogrwydd y drafodaeth), yna pa obaith am help ariannol gan y llywodraeth i greu gwell byd Cymraeg?

Martin Ll Williams,

Deiniolen

Rhannu |