Llythyrau
Hanes dilys ynteu ddychymyg llên gwerin
Annwyl Olygydd,
‘DATGELU wyneb Owain Glyndŵr’ meddai pennawd Y Cymro (4 Mawrth 2011) gan gyfeirio at y rhaglen a ddarlledwyd ar S4C ar Ddygwyl Dewi. Honnir hefyd fod y rhaglen yn gynnyrch ymchwil fanwl. Tybed?
Rhaid dechrau gyda’r ddafad honedig ar wyneb Glyndŵr. Yn ôl y rhaglen gellir gweld un debyg dan lygad Owain mewn llun honedig ohono a gedwir yng Nghwrt Llan-gain (Kentchurch Court) yn swydd Henffordd. Yn y rhaglen dyfynnwyd cyfrol A. G. Bradley, Owen Glyndwr (1906) sy’n sôn am gamgymryd corff Tudur, brawd Owain, am Glyndŵr ei hunan, ymhlith lladdedigion brwydr Pwll Melyn (1405): ‘The spirits of the English were sadly damped when the absence of a wart under the left eye, a distinguishing mark of Glyndwr, proclaimed that their joy was premature.’
Rhaid nodi, fodd bynnag, fod Bradley yn camgymryd. Y mae’r holl ffynonellau cynnar sy’n rhoi’r hanes hwn (llawysgrif Panton 53 (cyn 1750), Thomas Carte, A General History of England (1750), Memoirs of Owen Glendowr (1775). a Thomas Pennant, Tours in Wales (1778) yn gytûn mai uwchben llygad Owain y ceid y ddafad: e.e. Panton 53, ‘Owen had a little wart above his eyebrows’; Carte, ‘a wart which Owen had over one of his eyebrows.’ Tebyg i Bradley weld un neu ragor o’r ffynonellau hyn, ond iddo gam-gofio’r hyn a ddarllenodd a lleoli’r ddafad yn y man anghywir ar wyneb Glyndŵr!
Fel yr awgrymodd J. E. Lloyd (1931) mae’n debyg fod yr holl ffynonellau a grybwyllwyd uchod yn deillio yn y pen draw o hanes Glyndŵr fel y’i cofnodwyd gan Robert Vaughan o’r Hengwrt (1592–1666) mewn llawysgrif a ddiflannodd bellach. Yr oedd Vaughan, wrth gwrs, yn sgrifennu dros ddwy ganrif ar ôl dyddiau Owain, ac ni ellir ond dyfalu ai hanes dilys ynteu ddychymyg llên gwerin yw’r sôn am ddafad Glyndŵr.
Mwy sylfaenol na hyn, wrth gwrs, yw mater y darlun yng Nghwrt Llan-gain. Dadleuwyd yn argyhoeddiadol yn 1984 gan Nicholas Rogers, arbenigwr celf o Brifysgol Caergrawnt, mai darlun o ŵr eglwysig, o bosib y Tad Eglwysig Sant Sierôm neu gardinal cyfoes, a beintiwyd yn y bymthegfed ganrif gan arlunydd o Fflandrys (efallai tua 1480–1510) yw darlun Llan-gain. Mae’r ffaith fod y gwrthrych yn dal ysgrifbin a llyfr ac (medd Rogers) yn gwisgo mantell o’r math a gysylltir â chardinaliaid yn gyson â’r dehongliad ohono fel gŵr eglwysig. Mae’n annhebygol iawn mai’r bardd Siôn Cent neu’r cymeriad John (of) Kent o swydd Henffordd yw’r gŵr yn y llun (fel yr honnwyd weithiau). Mae’n fwy annhebygol fyth mai Owain Glyndŵr ydyw.
Cafwyd rhaglen ddifyr ar S4C. Ond, ysywaeth, yr oedd hefyd yn un sylfaenol gamarweiniol a chyfeiliornus.
Gruffydd Aled Williams, Aberystwyth