Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Wedi 3 yn adnodd pwysig

Annwyl Olygydd,

MAE’R si ar led fod S4C am gael gwared ar Wedi 3. Mae Wedi 3 ac Wedi 7 yn rhan mor bwysig o’r sianel ac o fywyd a diwylliant Cymru gan ei fod yn rhoi sylw i bob agwedd o fywyd bob dydd ac yn adnodd pwysig i rai sydd adref yn y prynhawn. Does dim llawer o amser i ddarbwyllo S4C bod angen cadw’r rhaglen werthfawr yma felly ymunwch gyda ni i geisio achub Wedi 3.

Mae rhaglenni Wedi 7 ac Wedi 3 yn cynnig gwasanaeth unigryw i’r gwylwyr, mae’n enghraifft berffaith o wasanaeth cyhoeddus, ac maent yn ymhyfrydu yn dod a straeon o gymunedau lleol i bobl ar hyd a lled Cymru. Os hoffech chi ddangos eich cefnogaeth, cysylltwch â S4C i ddweud eich bod chi am gadw Wedi 3 ac Wedi 7 – gwifren@s4c.co.uk neu 0870 600 4141, neu ysgrifennwch at Arwel Ellis Owen, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5DU.

Alun Ifans

Rhannu |