Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Nid monopoli’r syrcas yw ffwlbri

Annwyl Olygydd,

O’R diwedd yr ydym yn gwybod!

Ar Pawb a’i Farn, Mawrth 9, o Ddrefach, Llanelli, cyhoeddodd Y Blaid fod ein cenedl ‘am y tro cyntaf ers chwe chanrif’ wedi ail-afael yn awenau Annibyniaeth.

O Saunders, Hwre! Dylet fod heddiw yn byw. Rhaid dathlu.

A’r ‘turn-out’ yn y ‘polls’ ond yn 36.5% (ac un o bob tri o’r pleidleiswyr yn erbyn rhoi mwy o rym i’r Cynulliad) beth allwn ddathlu?

‘Today’, medde Walpole, ‘they are ringing the bells. Tomorrow, they will be wringing their hands.’

Yn wahanol i’r Alban… a’r Iwerddon Unedig a fydd (!)... tynged y Cymry yw bod yn rhwymedig i olwynion cerbyd y Saeson hyd ddiwedd yr Oes – nid diwedd y byd: fel y bydd Lloegr ei hun yn rhwymedig i’r gymanfa gythreulig ‘a chwythir ymaith fel man us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf.’

O gyfeiriad arall y daw rhyddid i Gymru (Gwêl Daniel 2:34,35).

Yn y cyfamser cofiwn, wrth weld Llywydd ac Aelodau Etholedig y Cynulliad yn ymddwyn fel estrys Job... ‘am na roddes Duw iddi ddoethineb’... nad monopoli’r Syrcas yw ffwlbri.

Gruffydd Thomas,

Fforest, Pontarddulais

Rhannu |