Llythyrau

RSS Icon
18 Mawrth 2011

Ydi hynny’n deg Mr Bebb?

Annwyl Olygydd,

Cafodd Guto Bebb AS fodd i fyw ar raglen Dylan Jones y dydd o’r blaen. Roedd yn llygad ei le, wrth gwrs, wrth ddwyn ein sylw at yr elfennau annheg sy’n perthyn i bensiynau’r sector cyhoeddus. (Yn ddiddorol iawn, wnaeth o ddim crybwyll mai’r hyn sy’n cymell y Torïaid yw eu hawydd i breifateiddio popeth a bod pensiynau’r sector cyhoeddus yn debygol o wneud hynny’n fwy anodd iddynt.)

Ond gan ei fod yn gymaint o arbenigwr ar y math yma o annhegwch tybiedig, tybed a fedr o ein goleuo ynghylch rhai mathau eraill? Braf fyddai cael clywed ei farn mewn perthynas â’r canlynol:

? Mae’r Torïaid a’r Blaid Lafur rhyngddyn nhw wedi creu yn yr ynysoedd hyn gymdeithas sydd gyda’r fwyaf anghyfartal yn y byd. Yma mae’r 10% cyfoethocaf yn meddu ar 273 gwaith yn fwy o gyfoeth na’r 10% tlotaf. Y tro diwethaf y bu yma gymaint o anghyfartaledd oedd yn ystod oes Charles Dickens. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

? Mae’r banciau mawr a’u staff barus wedi creu anrhefn sydd yn mynd i andwyo bywydau pawb ohonom. Yn 2009-10 cafodd 4,500 o weithwyr Dinas Llundain daliadau bonws o £1m neu ragor yr un gan alluogi rhai ohonyn nhw i fuddsoddi £250,000 yn eu cronfeydd pensiwn (a derbyn ad-daliad treth o £100,000 yr un ar ôl gwneud hynny). Eleni, cafodd Bob Diamond o Fanc Barclays daliad o £6.5m. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

? Mae dosbarthiad cyfoeth yn yr ynysoedd hyn yn anwastad iawn, a’r rhan fwyaf ohono wedi ei ganoli yn Ne Ddwyrain Lloegr. Yn Llundain mae’r incwm gros (y pen) ar gyfartaledd yn £19,038. Yng Nghymru y ffigwr cyfatebol yw £13,038. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

? Mae’r 5 allan o’r 10 ardal lle mae diweithdra ar ei uchaf (Castell Nedd/ Porth Talbot/ Rhondda Cynon Taf/ Blaenau Gwent/ Caerffili) yng Nghymru, gwlad sy’n cynnwys dim ond 3 miliwn o’r 62 miliwn sy’n byw yn yr ynysoedd yma. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

? Yn ôl y Swyddfa Archwilio Genedlaethol nid yw 30% o gwmnïau mwyaf yr ynysoedd hyn yn talu’r un ddimai o dreth gorfforaethol nac unrhyw drethi eraill ac o’r herwydd mae pawb arall ohonom gymaint â hynny yn dlotach. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

? Mae 65% o holl diroedd yr ynysoedd hyn yn eiddo i 0.3% o’i phoblogaeth. Oherwydd hynny mae tir adeiladu yn afresymol o ddrud ac o ganlyniad mae’n tai gyda’r lleiaf eu maint yn y byd Gorllewinol. Ydi hynny’n deg, Mr Bebb?

Mae’n amlwg bod Guto yn ŵr llafar a galluog, ond bob tro y byddaf yn gwrando arno’n siarad byddaf yn meddwl am rybudd George Orwell: ‘Pan fydd y Torïaid yn dechrau swnio’n ddeallus mae’n bryd i chi sicrhau bod eich wats yn dal i fod am eich harddwn a’r newid mân yn dal i fod yn eich poced.’

Geraint Richards,

Prestatyn

Rhannu |