Llythyrau

RSS Icon
11 Mawrth 2011

Y cyfiawn yn marw dros yr anghyfiawn

Annwyl Olygydd,

Trist iawn i mi oedd gwrando ar y radio beth amser yn ôl ar ddadl rhwng Cristion a Gwyddonydd anghrediniol. Craidd dadl y Gwyddonydd oedd ei fod yn hen bryd i ni anghofio, a rhoi heibio hen bethau fel cynnwys y Beibl. Aeth ymlaen i esbonio fod gwyddoniaeth wedi symud ymlaen, a chrefydd neu Gristnogaeth wedi aros yn ei hunfan.

Ymatebodd y Cristion yn syth gan ddweud fod y Gwyddonydd yn cam resymu, ac egluro nad ydi pethau sydd yn hen o angenrheidrwydd yn anghywir. Ond dyna yw agwedd llawer un bellach. Nid oes angen Duw gan lawer yn yr oes soffistigedig hon!

Y noson wedyn roeddwn yn edrych ar raglen Saesneg oedd yn dangos yr hyn sydd yn mynd ymlaen yn ein trefi, a’n pentrefi berfeddion y nos. Plismyn yn ceisio gwneud eu gorau glas yn ceisio cadw trefn wedi i’r tafarnau a’r clybiau gau. Genethod ifanc yn hanner noethlymun yn ffraeo a chwffio oherwydd eu bod wedi cael gormod i’w yfed. Yr un modd bechgyn ifanc ddim yn gwybod pryn a’i mynd neu ddyfod y maent o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, a llawer ohonynt o dan oed!

Nid oes angen bod yn glyfar i sylweddoli fod rhywbeth mawr o’i le ar ddynoliaeth. Gwreiddyn y cwbl ydi pechod dyn. Mae pawb ohonom yn addoli rhywbeth, fel y dywed y gair wrthym, Lle mae eich trysor yno bydd eich calon hefyd.” Ac os ydi dyn yn mynnu mynd ei ffordd ei hun, does dim ond llanast i ddilyn. Oherwydd dydi’r Duw mawr ddim wedi ein gwneud fel robots. Mae wedi rhoi ewyllys rhydd i bawb ohonom ddewis.

Rwyf newydd ail ddechrau darllen llyfr yr Esgob Ryle, Yr Hen lwybrau, a chael blas mawr arno. Rhaid i ni Gristnogion beidio gwrando nac ystyried syniadau modernwyr, rhyddfrydwyr, gwyddonwyr anghrediniol, na neb arall chwaith. Mae bob peth sydd ei angen arnom yn y Beibl.

Mae rhai pobl yn fodlon cymryd Iesu Grist fel esiampl o sut i fyw, a dyna’r cwbl. Ond mae’r Arglwydd yn llawer mwy na hynny. Pan oedd Iesu Grist yn marw ar y groes roedd ein pechodau ni yn cael eu rhoi arno ef, yn ogystal â digofaint y tad. Mewn gair y “cyfiawn yn marw dros yr anghyfiawn”, a phwy bynnag sy’n gweld eu hangen wedyn ac yn credu ynddo yn cael eu cymodi â Duw. Dyna’r peth pwysicaf a mwyaf tyngedfennol a all ddigwydd i neb ohonom. Bywyd tragwyddol sydd yn dilyn, ac yn dechrau yn y byd hwn. Adnod bwysig iawn yw honno yn 1 Cor: 15-19, “Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist, nyni yw’r mwyaf truenus ymhlith dynion.”

Mae gan bob un ohonom benderfyniadau pwysig i’w gwneud ynglŷn â’n bywydau, ond dyma’r dewis pwysicaf un. Oherwydd un Efengyl sydd, ac mae ymateb bawb ohonom iddi yn rhagymadrodd i wae neu wynfyd.

Tom Jones,

Rhes y Priordy,

Caernarfon

Rhannu |