Llythyrau

RSS Icon
11 Mawrth 2011

Cyfres ddrama well nag Alys

Annwyl Olygydd

Anghytunaf â barn Lyn Ebenezer yn ei golofn, Chaiff neb na dim ei choncro, 4 Mawrth, mai “Alys yw’r gyfres ddrama orau ar unrhyw sianel ar hyn o bryd” gan y tybiaf mai ‘The Killing’ (Forbrydelsen) a ddarlledwyd gyntaf yn Nenmarc yn 2007, ac a ddangosir ar BBC4 ar nos Sadwrn ddylai gael y teitl hwnnw.

Ceir ynddi’r holl rinweddau, os nad mwy a nododd yn ei erthygl sef: stori iasol a chyffrous, sgriptio crefftus, cyfarwyddo cynnil ac actio gwir ddeallus, dirdynnol a naturiol.

Ni amharir ychwaith ar fwynhad y gwylio gan yr is-deitlau na’r gerddoriaeth gefndirol. Os rhywbeth, mae fel magnet yn eich tynnu fewn fwyfwy i’r stori. Mae’n berl. Felly, hon – i mi – yw’r gyfres ddrama orau a welais ar deledu Prydeinig ers tro byd, a mawr obeithiaf y gwnaiff BBC4 ddarlledu’r ail a’r drydedd gyfres hefyd.

Siriol Haf

Tregaron

Rhannu |