Llythyrau

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Ein tywysoges ni yw Kate

Annwyl Olygydd,

Hoffwn ddiolch yn fawr i S4C am addo rhoi sylw teilwng i’r briodas fawr hirddisgwyliedig sydd ar y gweill ym mis Ebrill - dyma’r digwyddiad pwysicaf ddaw i’n rhan ni yng Nghymru eleni. Llawer pwysicach na’r rygbi di-ben-draw a welir ar y sianel fel arfer.

A chwarae teg i Kate am siarad Cymraeg a chanu’n hanthem mor berffaith wythnos diwethaf ar Ynys Môn. Ein tywysoges ni yw hon, a bendith ar y sianel am wneud y mwyaf ohoni. Efallai mai Kate Roberts yw brenhines ein llên, ond Kate Middleton fydd brenhines y bobl.

Edwin Jones

Rhannu |