Llythyrau

RSS Icon
04 Mawrth 2011

Amser rhoi'r rhaglen i Nigel

Annwyl Olygydd,

Onid yw hi’n hen bryd i S4C roi Jonathan Davies ar y domen wastraff? Dyna’r unig le iddo wedi ei sylwadau gwrth-Gymraeg am ymdrechion Nigel Owens i siarad Cymraeg ar y meysydd rygbi. Ond yn hytrach na chael gwared ohono, mae S4C yn parhau i roi llwyfan iddo ar ei raglen salw, undonog, ddiflas bob nos Wener – nid yn unig o flaen pob gêm ryngwladol, ond ar nosweithiau pan nad oes gêm ryngwladol o gwbl!

Am ba hyd y bydd rhaid i ni oddef y fath raglen sgriptiedig, hen ffasiwn, anniddorol yma gan ‘Jiffy’? Onid yw’n bryd rhoi’r rhaglen i Nigel Owens? – gwir seren y sioe a’r gŵr sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i rygbi ac i’r Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dafydd Edwards

 

Llun: Nigel Owens

Rhannu |