Eraill

RSS Icon
19 Hydref 2011

Simon Jones yn ail-ymuno â Morgannwg

Heddiw (Mercher 19 Hydref), cyhoeddodd Simon Jones ei fod yn dychwelyd i Gymru ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r clwb lle ddechreuodd ei yrfa, Morgannwg.

Ymadawodd Simon – un o aelodau tîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Lludw yn 2005 – â’r Dreigiau yn 2007 i ymuno â Worcestershire. Yn 2010, fe arwyddodd i glwb Hampshire cyn dychwelyd i Forgannwg am gyfnod eleni gan chwarae yn ymgyrchoedd 20/Pelawd Friends Life a Clydesdale Bank40.

Yn ystod yr ymgyrch 20/Pelawd ddiwethaf, roedd Jones ymhlith tri o gricedwyr rhanbarthol wnaeth gyrraedd cyflymder bowlio o 94mph. Ymddangosodd mewn deg gêm 20/Pelawd a thair gêm CB40 i Forgannwg gan gymryd 13 wiced yn ystod chwe wythnos ar fenthyg o Hampshire.

Meddai Simon, sy’n 32 oed: “Rwy’n falch iawn cael ymuno â Morgannwg. Mae’r clwb criced wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd a’r bwriad nawr yw helpu’r clwb i lwyddo yn y ddwy flynedd nesaf ac i chwarae’n rheolaidd. Ar ôl treulio pedair blynedd hapus dros y ffin, mae’n braf cael ddychwelyd adref i Gymry a bod yn agos i deulu a ffrindiau.

“Mae’r tymhorau diwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn imi fel chwaraewr oherwydd anafiadau ac rwy’n falch iawn i allu rhoi’r cyfnod hwnnw tu cefn ifi. Hefyd, mae chwarae i Loegr eto yn freuddwyd ac rwy’n hyderus fod gen i’r gallu a’r sgiliau i brofi fy hun ar y lefel uchaf posib eto ac i brofi ambell berson yn anghywir.”

Ychwanegodd Colin Metson, Rheolwr Gyfarwyddwr Criced Morgannwg: “Rydym yn hapus iawn i groesawu Simon Jones nôl i Glwb Criced Morgannwg. Fe wnaeth argraff fawr arnom ni ar y cae ac oddi arni pan ddaeth ar fenthyg o Hampshire yn gynharach eleni ac rydym yn falch iawn o’i gael yn ôl yn barhaol yn Stadiwm Swalec.”

Mae Simon, ei ddarpar-wraig Justine a’i feibion Harvey (4) a Charlie (3) bellach wedi ymgartrefu yn St Nicholas, Bro Morgannwg. Mae Simon a Justine yn priodi ym mis Rhagfyr.

Rhannu |