http://www.y-cymro.comY CymroCymry i Rio gan Androw Bennett
YMHLITH y 24 o gystadleuwyr Cymreig sy’n teithio i Frasil ar gyfer Gemau Olympaidd 2016, bydd y seiclwr Geraint Thomas a’r chwaraewr Taekwondo, Jade Jones, yn ceisio ailadrodd eu camp yn Llundain bedair blynedd yn ôl trwy ennill medal aur unwaith eto.

Bydd pump o seiclwyr Cymreig yn cystadlu yn Rio, gyda Thomas yn arwain y ffordd ac Elinor Barker, Ciara Horne, Becky James ac Owain Doull yn gobeithio efelychu campau’r gŵr fu’n rhan o’r tîm gynorthwyodd Chris Froome i ennill ei drydydd Tour de France dros y mis diwethaf.

Mae Thomas yn meddu ar gyfle i ennill ei drydedd fedal aur Olympaidd, ond mae’n debyg taw cynorthwyo Froome i ennill y ras ar yr heol fydd ei brif ddyletswydd y tro hwn yn dilyn llwyddiannau ar y trac yn Beijing (2008) a Llundain (2012).

Jazz Carlin, Georgia Davies, Chloe Tutton ac Ieuan Lloyd yw’r nofwyr o Gymru fydd yn cystadlu YN y dŵr tra bydd Chris Grube a Hannah Mills yn hwylio ar yr wyneb a Chris Bartley, Graeme Thomas a Victoria Thornley yn aelodau o wahanol dimoedd rhwyfo.

Bydd y wraig o’r Coed Duon gafodd ei geni ym Moscow cyn ymfudo i Gymru, Elena Allen, yn cystadlu yn ei thrydedd Gemau Olympaidd wrth saethu colomennod clai ac fe fydd hithau a’i gŵr, Malcolm, sydd hefyd yn ei hyfforddi, yn gobeithio gwella ar ei hymdrechion cynharach.

Bydd y bocsiwr pwysau ysgafn, Joe Cordina, yn gobeithio ychwanegu medal Olympaidd at y fedal aur enillodd e yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow ddwy flynedd yn ôl ac at ei Bencampwriaeth Ewrop y llynedd.

Gyda Helen Jenkins a Non Stanford ymhlith y ffefrynnau yn y ras Triathlon, mawr yw’r gobaith am fedal yn y gystadleuaeth arbennig honno a Natalie Powell yn ferch Gymreig gyntaf i gystadlu ar Judo yn y Gemau Olympaidd ynghyd â gweddill y Cymry’n cystadlu draw yn Rio, mae `na ddigon i’n cadw’n agos at yr holl gyfryngau torfol o wythnos i heno ymlaen.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/4013/
2016-07-28T00:00:00+1:00Athrylith newydd
CYN iddyn nhw gyrraedd Llandrillo-yn-Rhos i wynebu her Swydd Derby yn y Bencampwriaeth dros hanner cynta’r wythnos hon, digon diflas fu ymgyrch Morgannwg yn y ffurf hiraf o gystadlaethau’r Siroedd a hwythau yn eistedd yn anghyfforddus ar waelod yr Ail Adran heb ennill o gwbl tra’n colli deirgwaith a phum gornest heb ganlyniad y naill ffordd na’r llall.

Rhaid troi, fodd bynnag, at ddigwyddiad syfrdanol ar ddiwrnod cyntaf ymweliad blynyddol Morgannwg i Ogledd Cymru, wrth i’r crwt ifanc o Bontarddulais a Gorseinon, Aneurin Donald, glatsio 234 oddi ar 136 pelen yn unig i dorri sawl record.

Trwy gymryd cyn lleied o beli (123) i basio’r 200, llwyddodd yr athrylith newydd hwn i efelychu camp ryfeddol cyn-chwaraewr arall gyda Morgannwg, Ravi Shastri, er taw yn ei famwlad, India, y pasiodd hwnnw’r cyfanswm o 200.

Yn fatiwr ymosodol greddfol, trawodd Donald 26x4 a 15x6 yn ei fatiad ddydd Sul a hynny’n arwain at iddo fod yr ifancaf o bum mlynedd i sgorio dros 200 mewn un batiad i Forgannwg a thorri record John Hopkins.

Gwelwyd pa mor hyderus yw Donald wrth iddo gyrraedd 100, 150 a 200 trwy daro’r bêl yn yr awyr a thros y ffin am 6 rhediad bob tro a sefydlu record newydd i Forgannwg am y nifer o 6au mewn batiad.

Ar ôl i Forgannwg gronni cyfanswm o 518 a bowlio Swydd Derby allan am 177 yn eu batiad cyntaf hwythau, gorfodwyd yr ymwelwyr i fatio am yr eildro a chyrraedd 413 am 6 wiced erbyn diwedd y chwarae nos Fawrth a hynny’n sicr o arwain at ddiwrnod diddorol echdoe.I lawer o ddilynwyr mwyaf pybyr criced, gemau’r Bencampwriaeth dros bedwar diwrnod yw’r ffurf orau o’r gamp ond yn y ddwy ffurf arall y bu Morgannwg yn fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn y tymor hwn.

Ar ôl ennill tair (yn erbyn Caerloyw, Sussex a Chaint) o’u pedair gornest yng Nghwpan Undydd y Royal London a dim ond colli i Middlesex hyd yn hyn, mae Morgannwg yn ail yn Adran y De cyn ymweliad i Taunton drennydd i herio Gwlad yr Haf ac yna, ddeuddydd yn ddiweddarach, i Chelmsford i wynebu Essex, y tîm sydd ar y brig ar hyn o bryd.

O ran y gystadleuaeth 20 pelawd, llwyddodd Morgannwg i ennill 7 a cholli ond 3 o’u 11 gornest hyd yn hyn a chronni 15 pwynt i sicrhau’r ail safle tu ôl i Gaerloyw (19 pwynt) cyn croesawu Gwlad yr Haf i Gaerdydd heno a theithio i Hove i herio Sussex nos Iau nesaf.

Rhaid edmygu gallu cricedwyr i addasu o un ffurf i un arall mor aml y dyddiau hyn a, beth bynnag oedd y canlyniad yn Llandrillo echdoe, mae’n sicr fod gennym ninnau Gymry gyfnod cyffrous o’n blaen gydag Aneurin Donald yn mynd i hawlio’r penawdau batio dros y blynyddoedd nesaf, o gofio na fydd e’n cyrraedd ei 20 mlwydd oed tan 20 Rhagfyr eleni.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/3990/
2016-07-27T00:00:00+1:00Popeth ar loeren?
Â minnau heb gyfeirio wythnos diwethaf at Gêm Brawf gyntaf Cyfres Y Lludw yn dechrau yng Nghaerdydd echdoe, mae criced rhyngwladol yn rhywbeth y mae llawer yn ei ddilyn mewn print neu ar bob math o gyfarpar technegol heblaw teledu yn hytrach na thanysgrifio i sianel lloeren.

Mae’r rhan fwyaf o ddarllediadau campau cyfoes ar y math hwnnw o ddarllediad erbyn hyn, er bod `na rai digwyddiadau sy’n cael eu cyfri’n o gymaint o bwys cenedlaethol fel eu bod yn cael eu neilltuo ar gyfer sianeli daearol.

Tra bod digwyddiadau fel Ffeinal Cwpan yr FA, Pencampwriaeth Tenis Lawnt Wimbledon a Phencampwriaeth Agored Golff Prydain a’r Gemau Olympaidd yn cael eu cyfrif yn ddigon pwysig i’w cadw’n agored i bawb sy’n meddu ar deledu heb orfod talu mwy na phris thrwydded y BBC, ryn ni Gymry wedi hen golli gemau rhyngwladol ein tîm pêl droed cenedlaethol.

Yn y cyfamser, yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, ryn ni’n gallu gwylio gemau’n tîm rygbi cenedlaethol yng Nghyfres yr Hydref bob blwyddyn heb orfod talu tanysgrifiad ychwanegol.

Ac ydy, mae’n wir bod dilyn hynt a helynt Pencampwriaeth Chwe Gwlad Ewrop a Chwpan Rygbi’r Byd yn ddigon hawdd yn yr un modd ond mae’n ddigon posib na fydd y sefyllfa’n parhau tu hwnt i 2017, gyda hyd yn oed y Gemau Olympaidd yn llygadu gwerthu eu darpariaeth i gwmnïau lloeren.

Pan sefydlwyd cystadlaethau rygbi Ewrop bron 20 mlynedd yn ôl, aeth y sylwebaethau byw mwy neu lai yn syth at gwmnïau lloeren a dim ond uchafbwyntiau sydd ar gael i ddilynwyr y gamp ar deledu daearol.

Er i’r PRO12 gadw’n ffyddlon i deledu daearol tan yn weddol ddiweddar yn wahanol i Uwch Gynghrair Aviva yn Lloegr, mae nifer o gemau byw’r PRO12 bellach ar gael i danysgrifwyr yn unig a’r arian sy’n deillio o hynny yn rhan bwysig o gyllideb y Rhanbarthau Cymreig ac aelodau eraill y gynghrair.

Ers tro byd, mae teithiau Llewod Rygbi’r Undeb, ynghyd â gornestau cynghrair Rygbi XIII wedi gwerthu eu heneidiau am grocbris i’r cwmnïau teledu lloeren, er bod cystadleuaeth Cwpan Rygbi XIII i’w weld ar y BBC.

O ddeall datganiadau diweddar y llywodraeth yn San Steffan, bydd `na fwy a mwy o gyfyngu ar allu’r BBC i gystadlu yn y farchnad i ddarlledu digwyddiadau fel Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn fyw er gwaetha’r cysylltiad traddodiadol.

Dim ond uchafbwyntiau, fel sydd i’w gweld ar hyn o bryd, o gemau pêl droed, gemau rygbi Ewrop a seiclo ar S4C fydd ar gael ymhen dim i rheiny ohonom sydd heb yr awydd i dalu crocbris ychwanegol i bris trwydded teledu.

Bydd llawer yn cofio clywed James, mab Rupert Murdoch, yn honni mewn darlith yng Ngŵyl Teledu Caeredin rai blynyddoedd yn ôl taw dyma fyddai dyfodol darlledu’r campau yn y pen draw ac mae’n ymddangos yn fwy tebygol fod hynny ar y gorwel agos iawn.

Hyd yn hyn, gwelwyd rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn rhywbeth oedd wedi ei neilltuo ym Mhrydain ar gyfer y BBC, ond, o glywed datganiadau achlysurol Prif Weithredwr y Chwe Gwlad a’r Llewod, John Feehan, mae’n amlwg nad oes sicrwydd y bydd hynny’n parhau.

Byddai gweld y Bencampwriaeth yn diflannu o’r gwasanaethau yn siom i lawer, ond mae’n debyg y bydd yn rhywbeth na fydd gennym ddewis ond i’w dderbyn, fel y gwnaethpwyd gyda gemau pêl droed yng nghynghreiriau Lloegr ac yn achos Gemau Prawf criced.

Diolch byth, felly, am ddyfalbarhad S4C hyd yn hyn yn darlledu nifer o gemau pêl droed Uwch Gynghrair Cymru, ond, yn sgîl y cyfyngu arfaethedig ar eu cyllid, tybed faint o amser sydd `na cyn na fydd unrhyw chwaraeon byw ar deledu daearol?

http://www.y-cymro.com/eraill/i/2610/
2015-07-09T00:00:00+1:00Dim pêl i seiclwyr
Â minnau wedi’m magu yn Llangennech, nepell o bentre’r Bynea, falle dylwn fod yn dipyn o seiclwr o feddwl bod `na glwb seiclo llwyddiannus wedi bod yno ers iddo gael ei ffurfio ar Ddydd Llun y Pasg 1937.

Doedd gen i ddim diddordeb yn y gamp, fodd bynnag, yn bennaf am nad oedd `na bêl i’w chicio, ei phasio, ei tharo, ei bowlio neu i’w lluchio ac felly, i’m meddwl ifanc, doedd `na ddim pwrpas i fynd o gwmpas trac neu dros lonydd gwledig ar ddwy olwyn .

Doedd gen i ddim diddordeb mewn tenis lawnt chwaith, falle ar ôl gweld effaith y gamp ar fy mam wedi iddi golli dau ddant wrth gael ei tharo gan raced pan yn chwarae gêm ddwbl gyda chyfeilles iddi.

Tipyn o syndod, felly, i rai, fydd gweld fy sylw wedi ei hoelio ers dydd Llun a thros y tair wythnos nesaf ar ddwy gamp sydd yn llawn mor gyffrous â gemau rygbi, pêl droed a chriced, y campau a ddenodd fy sylw gyntaf nôl yn y 1950au.

Tristwch, wrth reswm, yw gorfod nodi nad oes Cymro neu Gymraes o fri ymhlith y mawrion sydd yn cystadlu yn Wimbledon eleni, rhywbeth sy’n rhaid i ni ei dderbyn yn flynyddol er i’n gwlad fechan gynhyrchu ambell seren wib yn y byd tenis lawnt o bryd i’w gilydd.

Falle na fydd enw Mike Davies a aned yn Abertawe ym 1936 yn gyfarwydd i lawer o ieuenctid Cymru heddiw, ond mae’n amheus a fu unrhyw un, wedi iddo fwynhau gyrfa gymedrol fel chwaraewr, yn fwy allweddol yn y chwyldro a droes yn gamp yn un broffesiynol ac agored o’r 1960au ymlaen.

Un o’m cyfoedion innau oedd y diweddar Gerald Battrick, gyda JPR Williams yn ei ddilyn, yn bencampwyr tenis ifainc, y ddau wedi eu geni ym Mhenybont-ar-Ogwr yn eu tro ym 1947 a 1949.

Er i JPR ddatblygu’n un o gewri byd y bêl hirgron yn dilyn cyfnod addawol fel chwaraewr tenis, enillodd Battrick Bencampwriaeth Tenis Agored yr Iseldiroedd ym 1971 ynghyd â chynrychioli Prydain yng Nghwpan Davis.

Yn wyneb diffyg Cymry blaenllaw yn chwarae yn Ne Orllewin Llundain, daw tipyn o gysur o weld dau Gymro yfory ar daith fwya’r byd seiclo pan fydd y Tour de France yn cychwyn yn Utrecht yng ngwlad yr Iseldiroedd.

Mae enw Geraint Thomas yn ddigon cyfarwydd ledled ein gwlad bellach, wedi iddo ennill medalau aur dros Brydain yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012 ac un aur i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd.

Thomas oedd y seiclwr ifancaf yn y Tour de France yn 2007 ac mae e wedi cystadlu pedair o weithiau eraill ers hynny hefyd â’i safle yn gorffen yn 22ain y llynedd yn arddangos i’r dim ei fod ymhlith mawrion y gamp erbyn hyn.

Am y tro cyntaf erioed, fodd bynnag, mae `na ddau Gymro yn cymryd rhan yn y Tour, gyda Luke Rowe, fel Thomas, yn enedigol o Gaerdydd ac yn llawn haeddu ei le yn nhîm Sky.

Gwarchod a gwasanaethu Chris Froome, arweinydd Tîm Sky, fydd gwaith pennaf Thomas a Rowe dros y tair wythnos nesaf cyn i’r Tour gyrraedd ei derfyn ar y Champs-Élysées ar 26 Gorffennaf, ond mae’n ddigon posib y caiff y ddau Gymro ambell gyfle i serennu mewn grŵp fydd yn datgysylltu oddi wrth y peloton.

Creodd Thomas argraff ffafriol yn ddiweddar ar y Tour de Suisse, gan orffen yn ail, bum eiliad yn unig y tu ôl i’r buddugwr, Simon Špilak o Slofenia a hynny yn sicr o fod yn baratoad delfrydol ar gyfer y Tour.

Mae Rowe hefyd wedi datblygu’n seiclwr o fri a’n gobaith ni fel Cymry yw y gall yntau a Thomas ddenu’r sylw dros gyfnod y Tour a, pwy a ŵyr, falle daw’r diwrnod pan fedrwn ddathlu buddugoliaeth Gymreig yn y Tour de France, y Giro d’Italia neu’r Vuelta a España.

Gyda’r holl gyffro mewn dau gamp dros yr wythnos nesaf, bydd rhaid dewis pa un i’w gwylio ar deledu a hynny’n dwyn i gof dyfeisydd y “llygaid cathod” ar ein ffyrdd, sef y diweddar Percy Shaw o Halifax yn Swydd Efrog.

Arferai Shaw gadw sawl teledu ymlaen ym mhob ystafell yn ei gartref rhag ofn y byddai’n colli rhywbeth o bwys ar un o’r sianelau oedd ar gael ym mlynyddoedd olaf ei fywyd.

Bu Shaw farw yn 86 mlwydd oed ym 1976 pan nad oedd y nifer o sianelau ar gael yn fychan o gymharu â 2015 a thra gallwn feddwl amdano a’i gannoedd o sgriniau petai yn fyw heddiw, dim ond un ar y tro fydd ymlaen yn ein lolfa ninnau dros y dyddiau nesaf a’r botymau’n cael eu gwasgu’n weddol gyson wrth i’r cyffro gynyddu yn SW19 ac ar y Cyfandir.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/2595/
2015-07-03T00:00:00+1:00Coroni dwy Gymraes yn bencampwyr byd
Dim ond ers pythefnos mae Clwb wedi ymddangos ar S4C ond yn y cyfnod byr yma mae dwy Gymraes wedi eu coroni'n Bencampwyr Byd.

Daeth y cyntaf yn fyw ar y rhaglen wrth i Manon Carpenter o Gaerffili daflu ei hun i lawr mynydd yn Norwy ar gefn ei beic yn gynt nag unrhyw ferch arall yn y byd er mwyn ychwanegu Pencampwriaeth Lawr Mynydd y Byd at ei choron Cwpan y Byd yn yr un gamp.

Roedd Manon yn ôl ar Clwb ddydd Sul diwethaf wrth iddi ddod â'i Siwmper Enfys enwog yn ôl i Gymru ar gyfer cymal olaf Cyfres Lawr Mynydd Prydain ym Mharc Beicio Cymru, Merthyr Tudful …ac er ei bod eisoes wedi ennill y gyfres, bu rhaid iddi fodloni ar sefyll ar ail reng y podiwm yn ras ola'r tymor!

Nos Lun cawsom yr ail bencampwraig wrth i Ellen Allen o Gasnewydd sicrhau medal aur fel rhan o dîm saethu Skeet Prydain ym Mhencampwriaethau Saethu'r Byd yn Granada, Sbaen. Yn ogystal ag aur fel rhan o'r tîm, daeth Allen o fewn trwch blewyn i gipio'r bencampwriaeth unigol hefyd ond bu rhaid iddi fodloni ar y fedal arian ar ôl saethu un targed yn llai na'r Americanes, Brandy Drozd.

Pwy fydda'i wedi meddwl byddai gan Gymru Bencampwyr Byd Beicio Lawr Mynydd a Saethu Skeet?

Dau gamp digon anghyffredin syn sicr ddim yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau. A dyna yw ein nôd ni ar Clwb; i geisio dod â mwy o'r campau lleiafrifol i sylw'r cyhoedd Cymreig.

Mae 'na glybiau chwaraeon gwahanol yn bodoli led led Cymru.

Rydym ni eisoes wedi ymweld â chlwb Codi Pwysau Caergybi sydd ag aelodau o garfanau Cymru a Phrydain Fawr yn ymarfer o dan lygaid barcud Ray Williams, enillodd fedal aur ei hun yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin ym 1970.

A chawsom noson arbennig yn Neuadd Capel Methodistaidd Sblot yn cyfarfod Clwb Cleddyfa Russell Swords, sydd ag aelodau o bob oedran yn cyfarfod yn wythnosol i ymarfer y gamp fonheddig ac urddasol o dan arweiniaeth Peter Russell.

Yn ogystal â'r diweddraf o'n taith o amgylch clybiau chwaraeon Cymru bydd IronMan Cymru o Ddinbych y Pysgod yn mynd â'n bryd ni ddydd Sul - y gamp honno lle mae'r athletwyr yn cyfuno tair camp mewn un gan nofio 2.4 milltir, seiclo 112 o filltiroedd ac yna rhedeg marathon!

Bydd 'na gêm bêl-droed fyw o Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports hefyd rhwng Airbus UK a Chaerfyrddin, hynt a helynt Gareth Bale yn La Liga, Gweilch v Caeredin yn y Guinness Pro 12 a'r gorau o rygbi Ffrainc yn y Top 14.

Llun: Manon Carpenter

http://www.y-cymro.com/eraill/i/2196/
2014-09-18T00:00:00+1:00Dycnwch a dagrau ar y ffordd i Glasgow
Gyda Gemau’r Gymanwlad yn dechrau’n fuan, bydd S4C yn darlledu dwy raglen nos Iau, 17 a nos Wener, 18 Gorffennaf yn canolbwyntio ar baratoadau rhai o aelodau t?m Cymru.

Dros y misoedd diwethaf mae'r camerâu wedi bod yn dilyn yr athletwyr i gofnodi'r paratoi, y gwaith caled, yr aberth bersonol; ac i ambell un, y torcalon, ar y daith i'r Alban. Cawn ddilyn eu hynt a'u helynt yn Gemau’r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow, cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C.

Capten t?m Cymru yw’r taflwr siot a’r ddisgen o Ben-y-bont ar Ogwr Aled Siôn Davies. Byddwn yn dilyn Aled wrth iddo baratoi i gipio medalau aur yng Ngemau’r Gymanwlad - gan geisio efelychu’r medalau aur enillodd yng ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

"Dwi'n arwain y t?m, a dwi methu aros, mae e’n fraint enfawr i fi. Dwi eisiau dangos i bawb fy mod i’n falch o fod yn Gymro, a sa i’n gallu aros i wisgo top Cymru. Dwi’n edrych ymlaen achos dwi ond yr ail athletwr Paralympaidd i arwain y t?m ar ôl Tanni Grey-Thompson. Does dim llawer o bobl yn gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn gapten ar Gymru yn mynd mewn i Gemau’r Gymanwlad."

Mae Aled, sydd yn 23 oed ac yn byw yng Nghasnewydd, yn obeithiol am ei siawns o gipio’r fedal aur i Gymru yn ei gampau yn y bencampwriaeth.

"Mae’r hyfforddi’n mynd yn grêt, dwi’n fwy pwerus, yn fwy cyflym a dwi wedi torri record y byd yn ddiweddar. Dwi hefyd wedi mwynhau cael y camerâu yn fy nilyn i, dwi’n hoffi rhannu fy mhrofiadau gyda phawb. Dwi wedi rhoi llawer o waith caled i mewn, a dwi eisiau i bawb fy nghefnogi. Dwi wedi bod yn breuddwydio am Hen Wlad fy Nhadau a sefyll ar y podiwm a chael y fedal ers blynyddoedd nawr. Gobeithio y galla i ddod â’r freuddwyd yn fyw."

Yn ogystal â'r brwdfrydedd a'r dycnwch, bydd y rhaglenni hefyd yn dilyn siom ambell gystadleuydd addawol hefyd. Un person gafodd anaf wrth baratoi tuag at y Gemau yw’r bencampwraig driathlon 25 oed o Abertawe, Non Stanford.

Meddai, "Mae e’n siom anferthol i mi, ers i mi fod yn ifanc iawn dwi wedi bod eisiau cynrychioli Cymru, dwi wedi dyheu am wneud hynny. Dwi’n teimlo fy mod i wedi gadael fy ffrindiau a fy nheulu i lawr. Ond dyna natur y gamp, ac mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar ddod yn well."

Bydd y gyntaf o'r ddwy raglen nos Iau, yn dilyn Non Stanford; y bocsiwr o Orseinon, Zack Davies a phencampwraig saethu Prydain, Coral Kennerley o Landdeiniol, Ceredigion. Bydd yr ail raglen nos Wener yn rhoi sylw i gapten carismatig Tîm Cymru, Aled Siôn Davies; y seiclwr o Gaerdydd, Owain Doull a'r efeilliaid 20 oed o Ddinbych Megan ac Angharad Phillips sy’n chwarae tenis bwrdd.

Meddai Angharad fod bod yn efail yn ei hysgogi hi i fod yn fwy cystadleuol. "Dwi’n meddwl ei fod o’n creu trafferth bod y ddwy ohonom ni'n gystadleuol - rydyn ni'n gallu pwsho ein gilydd i ymarfer yn galed. 'Naethon ni byth meddwl pan gawson ni'r bwrdd tenis fwrdd un Nadolig y byddai o’n newid ein bywydau ni gymaint!"

Gemau'r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow

Nos Iau, 17 a nos Wener 18 Gorffennaf 9.30pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad BBC Cymru Wales

http://www.y-cymro.com/eraill/i/2133/
2014-07-10T00:00:00+1:00Jwdo'n cyffroi Jade
Mae pencampwr jwdo ifanc o Abertawe'n gobeithio herio am fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Jade Lewis, 19 oed o'r Gendros, yn croesi ei bysedd y bydd hi'n cael ei dewis i fod ar dîm Cymru pan gaiff ei gyhoeddi ddydd Mawrth 29 Ebrill.

Enillodd Jade, sy'n hyfforddi yng Nghlwb Jwdo'r Gendros yng Nghlwb Cymunedol y Gendros, yn y categori dan 52kg yng Nghwpan Iau Ewrop.

Er ei bod yn cynrychioli Prydain Fawr yn y categori iau, ei nod yw cynrychioli Cymru yn yr uwch-dîm.

Mae Jade yn gobeithio dilyn yn ôl traed ei hyfforddwr, Mark O'Connor, sydd wedi cynrychioli Cymru mewn jwdo yng Ngemau'r Gymanwlad yn y gorffennol.

Meddai'r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Pentrehafod, "Rwyf wedi bod yn ymarfer jwdo am oddeutu 11 mlynedd bellach. Roedd fy hyfforddwr, Mark, a'm tad, Anthony, yn adnabod ei gilydd pan oeddent yn iau ac yna roeddent yn byw mewn strydoedd agos at ei gilydd, felly dyna sut ces i fy nenu.

"Nid oeddwn yn hoff o gampau mwy traddodiadol, ond roeddwn yn dwlu ar jwdo o'r cychwyn cyntaf yn 8 oed. Yr ochr gystadleuol a'r cyfle i ddatblygu yw'r agweddau rwy'n eu mwynhau orau. Bellach rwyf wedi cyrraedd y lefel gyntaf ac rwyf wedi cael y cyfle i gystadlu dramor.

"Os byddaf yn cael fy newis, rwy'n sicr yn meddwl y gallaf ennill medal dros Gymru yn Glasgow. Rwyf wedi cystadlu yn erbyn rhai o'r merched y mae sôn y gallant ennill medal ac rwyf wedi gwella llawer ers cystadlu yn eu herbyn."

Canolfan Gymunedol y Gendros ar Rodfa'r Gendros - Dwyrain yw un o 31 o ganolfannau cymunedol a gynhelir gan Gyngor Abertawe ar draws y ddinas.

Meddai Jade, "Dim ond taith gerdded fer ydyw o'r ardal lle rwy'n byw, felly mae wedi bod yn ddelfrydol i mi ar hyd fy oes. Mae'n lle gwych i hyfforddi - mae pawb yn y ganolfan gymunedol yn glós ac mae llawer yn mynd ymlaen yno ar wahân i jwdo. Byddwn yn annog unrhyw un i fynd i'w ganolfan gymunedol leol oherwydd amrywiaeth y gweithgareddau, clybiau a digwyddiadau sydd ar gael yn agos at gartrefi pobl."

Mae Cyngor Abertawe hefyd yn cynnal 10 Pafiliwn i Bobl Hŷn.

Mae holl adeiladau'r cyngor wedi'u rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol. Ewch i www.abertawe.gov.uk/communitybuildings i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 635412.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/2055/
2014-04-24T00:00:00+1:00Simon Jones yn ail-ymuno â Morgannwg
Heddiw (Mercher 19 Hydref), cyhoeddodd Simon Jones ei fod yn dychwelyd i Gymru ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda’r clwb lle ddechreuodd ei yrfa, Morgannwg.

Ymadawodd Simon – un o aelodau tîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Lludw yn 2005 – â’r Dreigiau yn 2007 i ymuno â Worcestershire. Yn 2010, fe arwyddodd i glwb Hampshire cyn dychwelyd i Forgannwg am gyfnod eleni gan chwarae yn ymgyrchoedd 20/Pelawd Friends Life a Clydesdale Bank40.

Yn ystod yr ymgyrch 20/Pelawd ddiwethaf, roedd Jones ymhlith tri o gricedwyr rhanbarthol wnaeth gyrraedd cyflymder bowlio o 94mph. Ymddangosodd mewn deg gêm 20/Pelawd a thair gêm CB40 i Forgannwg gan gymryd 13 wiced yn ystod chwe wythnos ar fenthyg o Hampshire.

Meddai Simon, sy’n 32 oed: “Rwy’n falch iawn cael ymuno â Morgannwg. Mae’r clwb criced wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa ac yn fy mywyd a’r bwriad nawr yw helpu’r clwb i lwyddo yn y ddwy flynedd nesaf ac i chwarae’n rheolaidd. Ar ôl treulio pedair blynedd hapus dros y ffin, mae’n braf cael ddychwelyd adref i Gymry a bod yn agos i deulu a ffrindiau.

“Mae’r tymhorau diwethaf wedi bod yn rhwystredig iawn imi fel chwaraewr oherwydd anafiadau ac rwy’n falch iawn i allu rhoi’r cyfnod hwnnw tu cefn ifi. Hefyd, mae chwarae i Loegr eto yn freuddwyd ac rwy’n hyderus fod gen i’r gallu a’r sgiliau i brofi fy hun ar y lefel uchaf posib eto ac i brofi ambell berson yn anghywir.”

Ychwanegodd Colin Metson, Rheolwr Gyfarwyddwr Criced Morgannwg: “Rydym yn hapus iawn i groesawu Simon Jones nôl i Glwb Criced Morgannwg. Fe wnaeth argraff fawr arnom ni ar y cae ac oddi arni pan ddaeth ar fenthyg o Hampshire yn gynharach eleni ac rydym yn falch iawn o’i gael yn ôl yn barhaol yn Stadiwm Swalec.”

Mae Simon, ei ddarpar-wraig Justine a’i feibion Harvey (4) a Charlie (3) bellach wedi ymgartrefu yn St Nicholas, Bro Morgannwg. Mae Simon a Justine yn priodi ym mis Rhagfyr.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/641/
2011-10-19T00:00:00+1:00Unrhy un am gêm o dennis?
Bydd llu o sêr ifanc y byd tennis yn dod draw i Ganolfan Tennis Arfon Cyngor Gwynedd rhwng 15 a19 Awst ar gyfer cystadleuaeth ieuenctid sylweddol.

Bydd ymhell dros 140 o chwaraewyr o ledled Prydain i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Tennis Ieuenctid Caernarfon Gradd 3 - sef un o’r cystadlaethau mwyaf yng Nghymru.

Dywedodd Ian Preston, Hyfforddwr Datblygu Tenis Gwynedd:

“Dyma’r bumed flwyddyn o’r fron i ni gynnal y gystadleuaeth ar gyfer chwaraewyr ifanc ac mae wedi tyfu ac yn ennyn diddordeb trwy’r wlad. Mae safon y chwarae yng ngradd 3 yn uchel, a chyda mwy na 140 o ieuenctid yn cymryd rhan mae gennym y nifer uchaf erioed yn cystadlu eleni.

“Bydd rhai o chwaraewyr ifanc gorau’r wlad yn cystadlu, gan gynnwys rhai o’n chwaraewyr ein hunain sy’n cael gwersi yng Nghanolfan Tennis Arfon, gan gynnwys Cai Jones sy’n ymarfer yma gyda’i hyfforddwr Ceryl Jones. Bydd croeso i unrhyw un ddod draw i weld rhai o sêr y dyfodol yn cystadlu yng Nghaernarfon.”

Bydd Cystadleuaeth Tennis Ieuenctid Caernarfon Gradd 3 yn cynnwys cystadleuwyr o dan 8 i fyny hyd at dan 18 – bechgyn a genethod. Bydd y chwarae yn cychwyn am 9.30am bob diwrnod yng Nghanolfan Tennis Arfon ar Ffordd Bethel yng Nghaernarfon. Mae croeso i chi ddod draw i wylio sêr y dyfodol.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/489/
2011-08-11T00:00:00+1:00Llwybr beicio mynydd
Mae llwybrau beicio mynydd Coed-y-Brenin – sy'n enwog drwy’r byd beicio fel y prawf eithaf ar ddyn a pheiriant – ar fin ennill to newydd o gefnogwyr ymysg dechreuwyr ar y gamp.

Bydd llwybr “meithrin” unigryw newydd yn agor y penwythnos yma ochr yn ochr â llwybrau eiconig fel Y Tarw a Bwystfil y Brenin, fydd yn golygu y gall plant ifanc a beicwyr ag anableddau ymuno gydag arbenigwyr a llowcwyr adrenalin yn y Fecca i feicwyr mynydd y tu allan i Ddolgellau yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae llwybr newydd – o’r enw Y Tarw Bach – yn cadarnhau safle Comisiwn Coedwigaeth Cymru fel y gyrchfan beicio mynydd wirioneddol gynhwysol gyntaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn wedi bod yn cael ei gynllunio am dros dair blynedd ac mae’n ffurfio rhan o bartneriaeth Canolfan Ragoriaeth Eryri dan arweiniad Cyngor Gwynedd, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gydgyfeiriol Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Croeso Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Clustnodir bron i £500,000 i’r llwybr newydd, sy’n cael ei adeiladu yn ôl meini prawf dylunio penodol a anelir at gyflwyno grŵp hollol newydd o bobl i gyffro beicio mynydd yng nghoetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan gam cyntaf y Tarw Bach ddwy ddolen yr ychwanegir atynt wrth i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r ddolen gyntaf yn 3km o hyd gyda 50m o waith dringo arni, sy’n mynd allan o ganolfan ymwelwyr CC Cymru ar hyd y “Camau Cyntaf” cyn mynd i lawr at y “Llithrffordd” aml-ysgafellog ysgubol, camp beirianyddol a dyluniol anhygoel wedi ei cherfio yn ochr y mynydd. Yna mae hi’n dychwelyd i’r ganolfan ar hyd ffordd yn y goedwig ar lawr y dyffryn, gan ddilyn llwybr Afon Eden.

Mae’r ail ddolen yn parhau o ben y Llithrffordd ac yn dilyn ffordd wastad yn y goedwig at faes parcio Pont Cae’n y Coed, lle gall beicwyr edmygu’r golygfeydd anhygoel ar hyd ceunant Afon Mawddach cyn dal ati ar hyd llwybrau unigol “Jwrasig” a “Tax Return” ac ymuno â ffordd y goedwig yn ôl at y dechrau, wedi mynd dros 5km gyda 90m o ddringo.

Dywedodd Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden CC Cymru, “Rhoesom brawf ar amrywiaeth fawr o feiciau ar y llwybr i sicrhau bod yr ystod ehangaf o ddefnyddwyr, o blant ar feiciau olwynion bach at feiciau mynydd cydio ynghyd ac addasol, gan gynnwys beiciau mynydd tandem, yn gallu mynd ar hyd-ddo.

“Credaf fod yr elfen ddylunio hon yn gwneud y prosiect yn unigryw yn y DU yn yr awydd i gyflwyno hwyl beicio mynydd i gymaint o bobl â phosibl.”

Mae modrwy trwyn tarw fawr dri metr o ddur gwrthstaen wedi ei dylunio gan y cerflunydd byd enwog o Gymru Gideon Petersen yn nodi dechrau llwybr y Tarw Bach, gyda’r enw arno’n talu teyrnged i orffennol gyrru gwartheg yr ardal yn ogystal â’r cysylltiad gyda’r “brawd mawr” – llwybr heriol y Tarw.

Adeiladwyd nifer o finotoriaid haearn wyth droedfedd o daldra – creaduriaid mytholegol sy’n hanner dyn a hanner tarw – gan Gideon ac maent wedi eu cuddio yma ac acw ar hyd y llwybr, gydag “olion carnau” arian yn rhoi’r unig gliwiau i’w presenoldeb.

Mae’r Tarw Bach wedi ei raddio’n llwybr glas (canolraddol) ond, fel yr eglurodd y Rhodiwr Beiciau Mynydd Andy Braund, mae’r nodweddion arbennig gan gynnwys yr adrannau traciau unigol 1.5 metr o led gydag uchafswm graddiant o 5% yn ei wneud yn addas i bob gallu.

Dywedodd, “Mae’r holl nodweddion llwybr glas y byddech yn eu disgwyl ganddo ond maent wedi’u dylunio i gyd i fod yn rhai cynyddol ac felly mae’n addas i bob beiciwr, o famau a thadau sydd am fynd â’r plant ar feiciau cydio ynghyd, beicwyr beiciau mynydd addasol gydag anableddau, at feicwyr newydd brwd sydd am ddatblygu eu sgiliau ac sy’n anelu at feicio ar hyd y llwybrau a raddolir yn goch ac yn ddu.

“Bydd dechreuwyr yn gallu rolio neu bedlian dros bob un ohonynt ond, gyda chyfarwyddyd ac ymarfer, bydd beicwyr yn gallu dysgu sut mae pwyso drosodd, pwmpio’r roler i gael mwy o gyflymder a hyd yn oed godi eu holwynion oddi ar y ddaear i gael ychydig mwy o hwyl a sbri.

“Mae’r cyfan ynghylch dysgu sgiliau trin beiciau newydd, rhai sylfaenol a chanolraddol, a chael hwyl, ac yna fynd yn eich blaen at lwybrau caletach.”

Bydd y prosiect yn cymryd dwy flynedd arall i’w gwblhau, gydag ariannu ychwanegol yn dod gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Phartneriaeth Dwristiaeth Canolbarth Cymru.

Gall ymwelwyr gael y ddiweddaraf am y datblygiadau drwy dudalen Facebook Coed-y-Brenin ar wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

http://www.y-cymro.com/eraill/i/316/
2011-05-26T00:00:00+1:00Edrych ymlaen at criced byw ar S4C
Fe fydd S4C yn darlledu rhagor o gemau byw yn y gystadleuaeth ugain pelawd Twenty20 eto eleni wrth i’r Sianel ddarlledu pedair o gemau Dreigiau Morgannwg yng nghwpan Twenty20 Friends Provident 2011.

Bydd y pedair gêm yn cael eu dangos yn fyw o Stadiwm Swalec Caerdydd yn y gyfres Criced gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn y Middlesex Panthers nos Wener, 3 Mehefin.

Bydd tair gêm fyw Twenty20 arall yn dilyn, gyda’r camerâu yno ar gyfer y gêm yn erbyn Caint, (Sadwrn, 11 Mehefin), Hampshire Hawks (Gwener, 17 Mehefin) a Surrey Lions (Gwener, 1 Gorffennaf) wrth i’r haf o chwaraeon dwymo ar S4C.

Bydd cricedwr chwedlonol Morgannwg a Lloegr Robert Croft wrth galon y cyfan. Bydd e’n cael cwmni tîm profiadol o sylwebwyr, gohebwyr ac arbenigwyr.

"Roedd yna ymateb gwych i gemau byw Morgannwg ar S4C yng nghystadleuaeth y Twenty20 y tymor diwethaf. Mae’n grêt gweld criced byw 'nôl ar deledu yng Nghymru - mae’n hwb fawr nid yn unig i’r gêm heddiw ond i’r dyfodol hefyd. I lawer o wylwyr ifanc, hwn fydd eu blas cyntaf nhw o griced a gobeithio y gwnaiff e ysbrydoli nhw i ddilyn a chwarae’r gêm. Roedd e’n wefr bod yn rhan o sioe fyw y llynedd, yn dod â holl gyffro’r achlysur i’r gwyliwr gartre'," meddai Robert Croft, 40 oed, sy’n gricedwr rhyngwladol uchel ei barch.

Mae Croft, sydd yn ei 26ain tymor gyda Morgannwg, yn credu y gall y Dreigiau wneud yn dda yn y gystadleuaeth eleni.

"Mae’n rhaid cael momentwm ar yr amser iawn er mwyn gwneud yn dda yn y gystadleuaeth hon. Fe ddechreuon ni'n wych y llynedd ond o’n ni ffaelu cynnal y peth. Mae gyda ni’r dalent i wneud yn dda - rhaid cofio inni faeddu’r tîm ddaeth yn bencampwyr yn y pen draw, Hampshire Hawks, yn Stadiwm Swalec y tymor diwethaf," meddai Robert Croft, y troellwr a chwaraeodd 21 prawf i Loegr rhwng 1996 a 2001.

"Mae’r chwaraewyr yn flwyddyn yn henach ac felly’n deall y gêm yn well ac mae’r talisman Mark Cosgrove yn dod yn ei ôl. Rwy’n credu bod anelu at gael gêm gartref yn rownd y chwarteri yn nod realistig ac unwaith 'dych chi yn y rowndiau 'knockout', mae unrhywbeth yn bosibl."

Bydd y rhaglen Criced ar gael hefyd ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn sylwebu bydd y sylwebwyr a’r dilynwyr criced brwd Huw Llywelyn Davies a John Hardy. Byddant yn cael cymorth yr ystadegydd Alun Wyn Bevan a fydd hefyd yn blogio ar y we, s4c.co.uk/criced.

Criced: Morgannwg v Middlesex

Nos Wener 3 Mehefin 19:15, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/criced

Bandlydan: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C

http://www.y-cymro.com/eraill/i/338/
2011-05-26T00:00:00+1:00Gobeithio ailadrodd
TRA bydd miloedd yn heidio o Dde Cymru i Ogledd Llundain ymhen rhyw ddeng niwrnod ar gyfer ffeinal gêmau ailgyfle’r Bencampwriaeth, mae na nifer sylweddol draw ym Mhrifddinas Lloegr dros yr wythnos hon hefyd yn mwynhau gwylio camp sydd dipyn mwy hamddenol na bwrlwm y cae pêl-droed. Dechreuodd y gêm griced bedwar niwrnod rhwng Middlesex a Morgannwg ar faes Thomas Lord ddoe, gyda’r cefnogwyr Cymreig yn gobeithio gweld ailadrodd y gamp o guro’r tîm cartref eleni eto.

Mae’r bythefnos nesa’n hynod brysur i Alviro Petersen a’i garfan o weld taw croesi’r afon Tafwys i faes yr Oval fydd raid erbyn dydd Mawrth i wynebu Surrey (yn cynnwys Tom Maynard, sydd wedi mwynhau dechre deche i’w dîm newydd) cyn teithio i Abington Road yn Northampton wythnos i drennydd am drydedd gornest Bencampwriaeth o’r bron.

Doedd Morgannwg heb guro Middlesex yn Lord’s yn y Bencampwriaeth criced ers 56 mlynedd tan y llynedd gyda’r fuddugoliaeth Gymreig yn dod ym mis Ebrill o fewn 24 awr i lwyddiant yr Adar Gleision yn cyrraedd gêmau ailgyfle’r Bencampwriaeth trwy guro QPR o 1-0 â gôl Joe Ledley’n ennill y dydd yn Loftus Road.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

http://www.y-cymro.com/eraill/i/309/
2011-05-20T00:00:00+1:00Golff yng Nghymru ar ôl Cwpan Ryder
I fanteisio ar etifeddiaeth Cystadleuaeth Cwpan Ryder, mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid ar gyfer Cystadleuaeth Agored Cymru dros y pedair blynedd nesaf.

Y nod yw datblygu Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor fel un o'r prif cystadlaethau ar amserlen y Daith Ewropeaidd.

Fel rhan o'r cais llwyddiannus ar gyfer Cwpan Ryder, mae Gwesty Hamdden y Celtic Manor wedi ymrwymo i gynnal y gystadleuaeth hyd at 2014. Yn dilyn llwyddiant y Cwpan Ryder yn mis Hydref, bydd y ffaith bod nifer o chwaraewyr golff gorau’r byd yn dychwelyd i’r Celtic Manor ar gyfer y gystadleuaeth hon yn siŵr o rhoi hwb i’r ymdrechion i ddenu ymwelwyr golff newydd i Gymru o rannau eraill o'r DU ac o farchnadoedd rhyngwladol allweddol.

Mae astudiaeth effaith economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos bod Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor wedi dod a mwy na £1.5 miliwn y flwyddyn i economi Cymru trwy wylwyr yn gwario ar lety, bwyd, teithio, tocynnau twrnamaint a chostau cysylltiedig

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu grant o hyd at £1.2 miliwn er mwyn helpu i gynnal y digwyddiad.

Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth: "Cyhoeddwyd effaith economaidd Cwpan Ryder ddoe. Fodd bynnag, mae effaith y gystadleuaeth gofiadwy honno’n ymestyn y tu hwnt i’r pedwar diwrnod o gystadlu yn ystod mis Hydref 2010.

"Cafodd ennill yr hawl i gynnal Cwpan Ryder effaith sylweddol ar dwristiaeth golff yng Nghymru. Ers 2002, mae gwerth twristiaeth golff wedi cynyddu o £7 miliwn i £42 miliwn y flwyddyn.

"Mae angen i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar yr etifeddiaeth hon. Byddwn yn ceisio creu portffolio o ddigwyddiadau ar draws Cymru a fydd yn adeiladu ar lwyddiant Cwpan Ryder ac yn hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer twristiaeth golff sy'n gallu cystadlu gydag Iwerddon a'r Alban sydd wedi’u hen sefydlu fel cyrchfannau golff.

"Rwyf hefyd yn falch iawn bod y digwyddiad yn mynd ati'n weithgar i ddenu pobl drwy stondinau arddangos, a ardal gwella sgiliau a ddarperir am ddim i gefnogwyr gan Datblygu Golff Cymru, bydd rhai o brif chwaraewyr proffesiynol y Daith Ewropeaidd hefyd yn cael ei gwahodd i gymryd rhan. Ochr yn ochr â'r prif ddigwyddiad, sefydlwyd Cystadleuaeth Agored Iau y Principality hefyd sy'n cynnwys dros 300 o olffwyr iau dros Gymru gyfan bob blwyddyn. “

Dywedodd Dylan Matthews, Prif Weithredwr y Celtic Manor: "Rydym yn diolch i Lywodraeth Cynulliad Cymru am y cymorth hwn fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i hyrwyddo Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor a rhoi gwerth am arian i’n gwylwyr.

"Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar yr etifeddiaeth o lwyfannu Cwpan Ryder yng Nghymru am y tro cyntaf, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu sêr y Daith Ewropeaidd yn ôl i Celtic Manor ym mis Mehefin. "

Meddai Richard Hills, Cyfarwyddwyr Cwpan Ryder y Daith Ewropeaidd: “Rydym yn croesawu'r gefnogaeth ac arweiniad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cystadleuaeth Agored Cymru y Celtic Manor.

"Mae'r twrnamaint wedi tyfu o ran statws ers iddo gael ei chwarae y tro cyntaf yn 2000 ac eleni fydd y pedwerydd tro i’r gystadleuaeth gael ei chwarae ar gwrs y Twenty Ten lle gipiodd Ewrop y Cwpan Ryder fis Hydref diwethaf.

"Nid yw hyn, wrth gwrs, wedi bod yn bosibl heb weledigaeth Cadeirydd y Celtic Manor, Syr Terry Matthews, ac edrychwn ymlaen at 12fed cystdleuaeth ragorol o Gystadleuaeth Agored Cymru ar y Daith Ewropeaidd Rhyngwladol ym mis Mehefin."

http://www.y-cymro.com/eraill/i/169/
2011-03-24T00:00:00+1:00Binocular i ennill yn Cheltenham
Cyfarfod mawreddog Cheltenham yw uchafbwynt y tymor rasio dros y clwydi a’r cloddiau a thos bedwar niwrnod disgwylir i ddegau o filoedd dyrru i’r cwrs hyfryd yn Swydd Caerloyw i fwynhau gwledd o gystadlu.

Ar bnawn ddydd Mawrth mae’r cyfan yn cychwyn a phrif ras y diwrnod cyntaf yw’r Champion Hurdle dros bellter o ddwy filltir. Rydw i wedi bod yn hoff iawn o Binocular ers cwpwl o flynyddoedd ac rwy’n credu y bydd yn cadw gafael ar ei goron gan fy mod yn credu, er yn ras well na’r llynedd, ei fod yn geffyl gwell eleni.

Unwaith mae o wedi colli y tymor hwn ac roedd hynny yn ei ras gyntaf yn Newbury pan ddaeth yn drydydd tu ôl i Peddlers Cross o stabl Donald McCain ond credaf nad oedd yn gwbl barod bryd hynny a chan taw dim ond pump ceffyl oedd yn y ras roedd y cyflymder yn eithaf araf.

I ddarllen gweddill yr adroddiad CLICIWCH YMA

http://www.y-cymro.com/eraill/i/121/
2011-03-11T00:00:00+1:00Aur ac arian i Geraint

GWELWYD dychweliad llwyddiannus i’r trac gan y seiclwr Cymreig, Geraint Thomas, yn y llun, ym Manceinion wythnos diwethaf wrth iddo ennill medal aur yn aelod o dîm Prydain yn y Ras Ymlid ac un arian yn yr un ddisgyblaeth i unigolion.

Mae Thomas yn arbenigo bellach mewn rasio ar ffyrdd allan yn yr awyr agored, ond dangosodd, fel ei gydymaith yn y tîm Prydeinig, Bradley Wiggins, ei allu i addasu nôl at y trac pan fo angen.

Gwelwyd Wiggins ei hunan ar y trac am y tro cyntaf ers Gêmau Olympaidd Beijing yn 2008 ac roedd buddugoliaeth y Prydeinwyr, yn cynnwys Thomas, Wiggins, Ed Clancy a Steve Burke yn uchafbwynt teilwng i ddiwrnod ola’r tridiau o rasio cyffrous a welwyd yng nghymal diwethaf y tymor yng nghyfres Cwpan Clasurol y Byd bnawn Sul.

Stori lawn yn Y Cymro

http://www.y-cymro.com/eraill/i/14/
2011-02-25T00:00:00+1:00