Eraill
Cymry i Rio gan Androw Bennett
YMHLITH y 24 o gystadleuwyr Cymreig sy’n teithio i Frasil ar gyfer Gemau Olympaidd 2016, bydd y seiclwr Geraint Thomas a’r chwaraewr Taekwondo, Jade Jones, yn ceisio ailadrodd eu camp yn Llundain bedair blynedd yn ôl trwy ennill medal aur unwaith eto.
Bydd pump o seiclwyr Cymreig yn cystadlu yn Rio, gyda Thomas yn arwain y ffordd ac Elinor Barker, Ciara Horne, Becky James ac Owain Doull yn gobeithio efelychu campau’r gŵr fu’n rhan o’r tîm gynorthwyodd Chris Froome i ennill ei drydydd Tour de France dros y mis diwethaf.
Mae Thomas yn meddu ar gyfle i ennill ei drydedd fedal aur Olympaidd, ond mae’n debyg taw cynorthwyo Froome i ennill y ras ar yr heol fydd ei brif ddyletswydd y tro hwn yn dilyn llwyddiannau ar y trac yn Beijing (2008) a Llundain (2012).
Jazz Carlin, Georgia Davies, Chloe Tutton ac Ieuan Lloyd yw’r nofwyr o Gymru fydd yn cystadlu YN y dŵr tra bydd Chris Grube a Hannah Mills yn hwylio ar yr wyneb a Chris Bartley, Graeme Thomas a Victoria Thornley yn aelodau o wahanol dimoedd rhwyfo.
Bydd y wraig o’r Coed Duon gafodd ei geni ym Moscow cyn ymfudo i Gymru, Elena Allen, yn cystadlu yn ei thrydedd Gemau Olympaidd wrth saethu colomennod clai ac fe fydd hithau a’i gŵr, Malcolm, sydd hefyd yn ei hyfforddi, yn gobeithio gwella ar ei hymdrechion cynharach.
Bydd y bocsiwr pwysau ysgafn, Joe Cordina, yn gobeithio ychwanegu medal Olympaidd at y fedal aur enillodd e yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow ddwy flynedd yn ôl ac at ei Bencampwriaeth Ewrop y llynedd.
Gyda Helen Jenkins a Non Stanford ymhlith y ffefrynnau yn y ras Triathlon, mawr yw’r gobaith am fedal yn y gystadleuaeth arbennig honno a Natalie Powell yn ferch Gymreig gyntaf i gystadlu ar Judo yn y Gemau Olympaidd ynghyd â gweddill y Cymry’n cystadlu draw yn Rio, mae `na ddigon i’n cadw’n agos at yr holl gyfryngau torfol o wythnos i heno ymlaen.