Eraill
Athrylith newydd
CYN iddyn nhw gyrraedd Llandrillo-yn-Rhos i wynebu her Swydd Derby yn y Bencampwriaeth dros hanner cynta’r wythnos hon, digon diflas fu ymgyrch Morgannwg yn y ffurf hiraf o gystadlaethau’r Siroedd a hwythau yn eistedd yn anghyfforddus ar waelod yr Ail Adran heb ennill o gwbl tra’n colli deirgwaith a phum gornest heb ganlyniad y naill ffordd na’r llall.
Rhaid troi, fodd bynnag, at ddigwyddiad syfrdanol ar ddiwrnod cyntaf ymweliad blynyddol Morgannwg i Ogledd Cymru, wrth i’r crwt ifanc o Bontarddulais a Gorseinon, Aneurin Donald, glatsio 234 oddi ar 136 pelen yn unig i dorri sawl record.
Trwy gymryd cyn lleied o beli (123) i basio’r 200, llwyddodd yr athrylith newydd hwn i efelychu camp ryfeddol cyn-chwaraewr arall gyda Morgannwg, Ravi Shastri, er taw yn ei famwlad, India, y pasiodd hwnnw’r cyfanswm o 200.
Yn fatiwr ymosodol greddfol, trawodd Donald 26x4 a 15x6 yn ei fatiad ddydd Sul a hynny’n arwain at iddo fod yr ifancaf o bum mlynedd i sgorio dros 200 mewn un batiad i Forgannwg a thorri record John Hopkins.
Gwelwyd pa mor hyderus yw Donald wrth iddo gyrraedd 100, 150 a 200 trwy daro’r bêl yn yr awyr a thros y ffin am 6 rhediad bob tro a sefydlu record newydd i Forgannwg am y nifer o 6au mewn batiad.
Ar ôl i Forgannwg gronni cyfanswm o 518 a bowlio Swydd Derby allan am 177 yn eu batiad cyntaf hwythau, gorfodwyd yr ymwelwyr i fatio am yr eildro a chyrraedd 413 am 6 wiced erbyn diwedd y chwarae nos Fawrth a hynny’n sicr o arwain at ddiwrnod diddorol echdoe.I lawer o ddilynwyr mwyaf pybyr criced, gemau’r Bencampwriaeth dros bedwar diwrnod yw’r ffurf orau o’r gamp ond yn y ddwy ffurf arall y bu Morgannwg yn fwyaf llwyddiannus hyd yn hyn y tymor hwn.
Ar ôl ennill tair (yn erbyn Caerloyw, Sussex a Chaint) o’u pedair gornest yng Nghwpan Undydd y Royal London a dim ond colli i Middlesex hyd yn hyn, mae Morgannwg yn ail yn Adran y De cyn ymweliad i Taunton drennydd i herio Gwlad yr Haf ac yna, ddeuddydd yn ddiweddarach, i Chelmsford i wynebu Essex, y tîm sydd ar y brig ar hyn o bryd.
O ran y gystadleuaeth 20 pelawd, llwyddodd Morgannwg i ennill 7 a cholli ond 3 o’u 11 gornest hyd yn hyn a chronni 15 pwynt i sicrhau’r ail safle tu ôl i Gaerloyw (19 pwynt) cyn croesawu Gwlad yr Haf i Gaerdydd heno a theithio i Hove i herio Sussex nos Iau nesaf.
Rhaid edmygu gallu cricedwyr i addasu o un ffurf i un arall mor aml y dyddiau hyn a, beth bynnag oedd y canlyniad yn Llandrillo echdoe, mae’n sicr fod gennym ninnau Gymry gyfnod cyffrous o’n blaen gydag Aneurin Donald yn mynd i hawlio’r penawdau batio dros y blynyddoedd nesaf, o gofio na fydd e’n cyrraedd ei 20 mlwydd oed tan 20 Rhagfyr eleni.