Eraill
Edrych ymlaen at criced byw ar S4C
Fe fydd S4C yn darlledu rhagor o gemau byw yn y gystadleuaeth ugain pelawd Twenty20 eto eleni wrth i’r Sianel ddarlledu pedair o gemau Dreigiau Morgannwg yng nghwpan Twenty20 Friends Provident 2011.
Bydd y pedair gêm yn cael eu dangos yn fyw o Stadiwm Swalec Caerdydd yn y gyfres Criced gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn y Middlesex Panthers nos Wener, 3 Mehefin.
Bydd tair gêm fyw Twenty20 arall yn dilyn, gyda’r camerâu yno ar gyfer y gêm yn erbyn Caint, (Sadwrn, 11 Mehefin), Hampshire Hawks (Gwener, 17 Mehefin) a Surrey Lions (Gwener, 1 Gorffennaf) wrth i’r haf o chwaraeon dwymo ar S4C.
Bydd cricedwr chwedlonol Morgannwg a Lloegr Robert Croft wrth galon y cyfan. Bydd e’n cael cwmni tîm profiadol o sylwebwyr, gohebwyr ac arbenigwyr.
"Roedd yna ymateb gwych i gemau byw Morgannwg ar S4C yng nghystadleuaeth y Twenty20 y tymor diwethaf. Mae’n grêt gweld criced byw 'nôl ar deledu yng Nghymru - mae’n hwb fawr nid yn unig i’r gêm heddiw ond i’r dyfodol hefyd. I lawer o wylwyr ifanc, hwn fydd eu blas cyntaf nhw o griced a gobeithio y gwnaiff e ysbrydoli nhw i ddilyn a chwarae’r gêm. Roedd e’n wefr bod yn rhan o sioe fyw y llynedd, yn dod â holl gyffro’r achlysur i’r gwyliwr gartre'," meddai Robert Croft, 40 oed, sy’n gricedwr rhyngwladol uchel ei barch.
Mae Croft, sydd yn ei 26ain tymor gyda Morgannwg, yn credu y gall y Dreigiau wneud yn dda yn y gystadleuaeth eleni.
"Mae’n rhaid cael momentwm ar yr amser iawn er mwyn gwneud yn dda yn y gystadleuaeth hon. Fe ddechreuon ni'n wych y llynedd ond o’n ni ffaelu cynnal y peth. Mae gyda ni’r dalent i wneud yn dda - rhaid cofio inni faeddu’r tîm ddaeth yn bencampwyr yn y pen draw, Hampshire Hawks, yn Stadiwm Swalec y tymor diwethaf," meddai Robert Croft, y troellwr a chwaraeodd 21 prawf i Loegr rhwng 1996 a 2001.
"Mae’r chwaraewyr yn flwyddyn yn henach ac felly’n deall y gêm yn well ac mae’r talisman Mark Cosgrove yn dod yn ei ôl. Rwy’n credu bod anelu at gael gêm gartref yn rownd y chwarteri yn nod realistig ac unwaith 'dych chi yn y rowndiau 'knockout', mae unrhywbeth yn bosibl."
Bydd y rhaglen Criced ar gael hefyd ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn sylwebu bydd y sylwebwyr a’r dilynwyr criced brwd Huw Llywelyn Davies a John Hardy. Byddant yn cael cymorth yr ystadegydd Alun Wyn Bevan a fydd hefyd yn blogio ar y we, s4c.co.uk/criced.
Criced: Morgannwg v Middlesex
Nos Wener 3 Mehefin 19:15, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.co.uk/criced
Bandlydan: s4c.co.uk/clic
Cynhyrchiad Tinopolis ar gyfer S4C