Eraill
Llwybr beicio mynydd
Mae llwybrau beicio mynydd Coed-y-Brenin – sy'n enwog drwy’r byd beicio fel y prawf eithaf ar ddyn a pheiriant – ar fin ennill to newydd o gefnogwyr ymysg dechreuwyr ar y gamp.
Bydd llwybr “meithrin” unigryw newydd yn agor y penwythnos yma ochr yn ochr â llwybrau eiconig fel Y Tarw a Bwystfil y Brenin, fydd yn golygu y gall plant ifanc a beicwyr ag anableddau ymuno gydag arbenigwyr a llowcwyr adrenalin yn y Fecca i feicwyr mynydd y tu allan i Ddolgellau yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae llwybr newydd – o’r enw Y Tarw Bach – yn cadarnhau safle Comisiwn Coedwigaeth Cymru fel y gyrchfan beicio mynydd wirioneddol gynhwysol gyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn wedi bod yn cael ei gynllunio am dros dair blynedd ac mae’n ffurfio rhan o bartneriaeth Canolfan Ragoriaeth Eryri dan arweiniad Cyngor Gwynedd, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gydgyfeiriol Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Croeso Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Clustnodir bron i £500,000 i’r llwybr newydd, sy’n cael ei adeiladu yn ôl meini prawf dylunio penodol a anelir at gyflwyno grŵp hollol newydd o bobl i gyffro beicio mynydd yng nghoetiroedd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae gan gam cyntaf y Tarw Bach ddwy ddolen yr ychwanegir atynt wrth i’r prosiect gael ei gwblhau yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r ddolen gyntaf yn 3km o hyd gyda 50m o waith dringo arni, sy’n mynd allan o ganolfan ymwelwyr CC Cymru ar hyd y “Camau Cyntaf” cyn mynd i lawr at y “Llithrffordd” aml-ysgafellog ysgubol, camp beirianyddol a dyluniol anhygoel wedi ei cherfio yn ochr y mynydd. Yna mae hi’n dychwelyd i’r ganolfan ar hyd ffordd yn y goedwig ar lawr y dyffryn, gan ddilyn llwybr Afon Eden.
Mae’r ail ddolen yn parhau o ben y Llithrffordd ac yn dilyn ffordd wastad yn y goedwig at faes parcio Pont Cae’n y Coed, lle gall beicwyr edmygu’r golygfeydd anhygoel ar hyd ceunant Afon Mawddach cyn dal ati ar hyd llwybrau unigol “Jwrasig” a “Tax Return” ac ymuno â ffordd y goedwig yn ôl at y dechrau, wedi mynd dros 5km gyda 90m o ddringo.
Dywedodd Graeme Stringer Rhodiwr Hamdden CC Cymru, “Rhoesom brawf ar amrywiaeth fawr o feiciau ar y llwybr i sicrhau bod yr ystod ehangaf o ddefnyddwyr, o blant ar feiciau olwynion bach at feiciau mynydd cydio ynghyd ac addasol, gan gynnwys beiciau mynydd tandem, yn gallu mynd ar hyd-ddo.
“Credaf fod yr elfen ddylunio hon yn gwneud y prosiect yn unigryw yn y DU yn yr awydd i gyflwyno hwyl beicio mynydd i gymaint o bobl â phosibl.”
Mae modrwy trwyn tarw fawr dri metr o ddur gwrthstaen wedi ei dylunio gan y cerflunydd byd enwog o Gymru Gideon Petersen yn nodi dechrau llwybr y Tarw Bach, gyda’r enw arno’n talu teyrnged i orffennol gyrru gwartheg yr ardal yn ogystal â’r cysylltiad gyda’r “brawd mawr” – llwybr heriol y Tarw.
Adeiladwyd nifer o finotoriaid haearn wyth droedfedd o daldra – creaduriaid mytholegol sy’n hanner dyn a hanner tarw – gan Gideon ac maent wedi eu cuddio yma ac acw ar hyd y llwybr, gydag “olion carnau” arian yn rhoi’r unig gliwiau i’w presenoldeb.
Mae’r Tarw Bach wedi ei raddio’n llwybr glas (canolraddol) ond, fel yr eglurodd y Rhodiwr Beiciau Mynydd Andy Braund, mae’r nodweddion arbennig gan gynnwys yr adrannau traciau unigol 1.5 metr o led gydag uchafswm graddiant o 5% yn ei wneud yn addas i bob gallu.
Dywedodd, “Mae’r holl nodweddion llwybr glas y byddech yn eu disgwyl ganddo ond maent wedi’u dylunio i gyd i fod yn rhai cynyddol ac felly mae’n addas i bob beiciwr, o famau a thadau sydd am fynd â’r plant ar feiciau cydio ynghyd, beicwyr beiciau mynydd addasol gydag anableddau, at feicwyr newydd brwd sydd am ddatblygu eu sgiliau ac sy’n anelu at feicio ar hyd y llwybrau a raddolir yn goch ac yn ddu.
“Bydd dechreuwyr yn gallu rolio neu bedlian dros bob un ohonynt ond, gyda chyfarwyddyd ac ymarfer, bydd beicwyr yn gallu dysgu sut mae pwyso drosodd, pwmpio’r roler i gael mwy o gyflymder a hyd yn oed godi eu holwynion oddi ar y ddaear i gael ychydig mwy o hwyl a sbri.
“Mae’r cyfan ynghylch dysgu sgiliau trin beiciau newydd, rhai sylfaenol a chanolraddol, a chael hwyl, ac yna fynd yn eich blaen at lwybrau caletach.”
Bydd y prosiect yn cymryd dwy flynedd arall i’w gwblhau, gydag ariannu ychwanegol yn dod gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear a Phartneriaeth Dwristiaeth Canolbarth Cymru.
Gall ymwelwyr gael y ddiweddaraf am y datblygiadau drwy dudalen Facebook Coed-y-Brenin ar wefan Comisiwn Coedwigaeth Cymru.