Eraill

RSS Icon
09 Gorffennaf 2015
Gan ANDROW BENNETT

Popeth ar loeren?

 minnau heb gyfeirio wythnos diwethaf at Gêm Brawf gyntaf Cyfres Y Lludw yn dechrau yng Nghaerdydd echdoe, mae criced rhyngwladol yn rhywbeth y mae llawer yn ei ddilyn mewn print neu ar bob math o gyfarpar technegol heblaw teledu yn hytrach na thanysgrifio i sianel lloeren.

Mae’r rhan fwyaf o ddarllediadau campau cyfoes ar y math hwnnw o ddarllediad erbyn hyn, er bod `na rai digwyddiadau sy’n cael eu cyfri’n o gymaint o bwys cenedlaethol fel eu bod yn cael eu neilltuo ar gyfer sianeli daearol.

Tra bod digwyddiadau fel Ffeinal Cwpan yr FA, Pencampwriaeth Tenis Lawnt Wimbledon a Phencampwriaeth Agored Golff Prydain a’r Gemau Olympaidd yn cael eu cyfrif yn ddigon pwysig i’w cadw’n agored i bawb sy’n meddu ar deledu heb orfod talu mwy na phris thrwydded y BBC, ryn ni Gymry wedi hen golli gemau rhyngwladol ein tîm pêl droed cenedlaethol.

Yn y cyfamser, yn wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, ryn ni’n gallu gwylio gemau’n tîm rygbi cenedlaethol yng Nghyfres yr Hydref bob blwyddyn heb orfod talu tanysgrifiad ychwanegol.

Ac ydy, mae’n wir bod dilyn hynt a helynt Pencampwriaeth Chwe Gwlad Ewrop a Chwpan Rygbi’r Byd yn ddigon hawdd yn yr un modd ond mae’n ddigon posib na fydd y sefyllfa’n parhau tu hwnt i 2017, gyda hyd yn oed y Gemau Olympaidd yn llygadu gwerthu eu darpariaeth i gwmnïau lloeren.

Pan sefydlwyd cystadlaethau rygbi Ewrop bron 20 mlynedd yn ôl, aeth y sylwebaethau byw mwy neu lai yn syth at gwmnïau lloeren a dim ond uchafbwyntiau sydd ar gael i ddilynwyr y gamp ar deledu daearol.

Er i’r PRO12 gadw’n ffyddlon i deledu daearol tan yn weddol ddiweddar yn wahanol i Uwch Gynghrair Aviva yn Lloegr, mae nifer o gemau byw’r PRO12 bellach ar gael i danysgrifwyr yn unig a’r arian sy’n deillio o hynny yn rhan bwysig o gyllideb y Rhanbarthau Cymreig ac aelodau eraill y gynghrair.

Ers tro byd, mae teithiau Llewod Rygbi’r Undeb, ynghyd â gornestau cynghrair Rygbi XIII wedi gwerthu eu heneidiau am grocbris i’r cwmnïau teledu lloeren, er bod cystadleuaeth Cwpan Rygbi XIII i’w weld ar y BBC.

O ddeall datganiadau diweddar y llywodraeth yn San Steffan, bydd `na fwy a mwy o gyfyngu ar allu’r BBC i gystadlu yn y farchnad i ddarlledu digwyddiadau fel Pencampwriaeth Rygbi’r Chwe Gwlad yn fyw er gwaetha’r cysylltiad traddodiadol.

Dim ond uchafbwyntiau, fel sydd i’w gweld ar hyn o bryd, o gemau pêl droed, gemau rygbi Ewrop a seiclo ar S4C fydd ar gael ymhen dim i rheiny ohonom sydd heb yr awydd i dalu crocbris ychwanegol i bris trwydded teledu.

Bydd llawer yn cofio clywed James, mab Rupert Murdoch, yn honni mewn darlith yng Ngŵyl Teledu Caeredin rai blynyddoedd yn ôl taw dyma fyddai dyfodol darlledu’r campau yn y pen draw ac mae’n ymddangos yn fwy tebygol fod hynny ar y gorwel agos iawn.

Hyd yn hyn, gwelwyd rygbi Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn rhywbeth oedd wedi ei neilltuo ym Mhrydain ar gyfer y BBC, ond, o glywed datganiadau achlysurol Prif Weithredwr y Chwe Gwlad a’r Llewod, John Feehan, mae’n amlwg nad oes sicrwydd y bydd hynny’n parhau.

Byddai gweld y Bencampwriaeth yn diflannu o’r gwasanaethau yn siom i lawer, ond mae’n debyg y bydd yn rhywbeth na fydd gennym ddewis ond i’w dderbyn, fel y gwnaethpwyd gyda gemau pêl droed yng nghynghreiriau Lloegr ac yn achos Gemau Prawf criced.

Diolch byth, felly, am ddyfalbarhad S4C hyd yn hyn yn darlledu nifer o gemau pêl droed Uwch Gynghrair Cymru, ond, yn sgîl y cyfyngu arfaethedig ar eu cyllid, tybed faint o amser sydd `na cyn na fydd unrhyw chwaraeon byw ar deledu daearol?

 

Rhannu |