Eraill
Dim pêl i seiclwyr
 minnau wedi’m magu yn Llangennech, nepell o bentre’r Bynea, falle dylwn fod yn dipyn o seiclwr o feddwl bod `na glwb seiclo llwyddiannus wedi bod yno ers iddo gael ei ffurfio ar Ddydd Llun y Pasg 1937.
Doedd gen i ddim diddordeb yn y gamp, fodd bynnag, yn bennaf am nad oedd `na bêl i’w chicio, ei phasio, ei tharo, ei bowlio neu i’w lluchio ac felly, i’m meddwl ifanc, doedd `na ddim pwrpas i fynd o gwmpas trac neu dros lonydd gwledig ar ddwy olwyn .
Doedd gen i ddim diddordeb mewn tenis lawnt chwaith, falle ar ôl gweld effaith y gamp ar fy mam wedi iddi golli dau ddant wrth gael ei tharo gan raced pan yn chwarae gêm ddwbl gyda chyfeilles iddi.
Tipyn o syndod, felly, i rai, fydd gweld fy sylw wedi ei hoelio ers dydd Llun a thros y tair wythnos nesaf ar ddwy gamp sydd yn llawn mor gyffrous â gemau rygbi, pêl droed a chriced, y campau a ddenodd fy sylw gyntaf nôl yn y 1950au.
Tristwch, wrth reswm, yw gorfod nodi nad oes Cymro neu Gymraes o fri ymhlith y mawrion sydd yn cystadlu yn Wimbledon eleni, rhywbeth sy’n rhaid i ni ei dderbyn yn flynyddol er i’n gwlad fechan gynhyrchu ambell seren wib yn y byd tenis lawnt o bryd i’w gilydd.
Falle na fydd enw Mike Davies a aned yn Abertawe ym 1936 yn gyfarwydd i lawer o ieuenctid Cymru heddiw, ond mae’n amheus a fu unrhyw un, wedi iddo fwynhau gyrfa gymedrol fel chwaraewr, yn fwy allweddol yn y chwyldro a droes yn gamp yn un broffesiynol ac agored o’r 1960au ymlaen.
Un o’m cyfoedion innau oedd y diweddar Gerald Battrick, gyda JPR Williams yn ei ddilyn, yn bencampwyr tenis ifainc, y ddau wedi eu geni ym Mhenybont-ar-Ogwr yn eu tro ym 1947 a 1949.
Er i JPR ddatblygu’n un o gewri byd y bêl hirgron yn dilyn cyfnod addawol fel chwaraewr tenis, enillodd Battrick Bencampwriaeth Tenis Agored yr Iseldiroedd ym 1971 ynghyd â chynrychioli Prydain yng Nghwpan Davis.
Yn wyneb diffyg Cymry blaenllaw yn chwarae yn Ne Orllewin Llundain, daw tipyn o gysur o weld dau Gymro yfory ar daith fwya’r byd seiclo pan fydd y Tour de France yn cychwyn yn Utrecht yng ngwlad yr Iseldiroedd.
Mae enw Geraint Thomas yn ddigon cyfarwydd ledled ein gwlad bellach, wedi iddo ennill medalau aur dros Brydain yng Ngemau Olympaidd 2008 a 2012 ac un aur i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd.
Thomas oedd y seiclwr ifancaf yn y Tour de France yn 2007 ac mae e wedi cystadlu pedair o weithiau eraill ers hynny hefyd â’i safle yn gorffen yn 22ain y llynedd yn arddangos i’r dim ei fod ymhlith mawrion y gamp erbyn hyn.
Am y tro cyntaf erioed, fodd bynnag, mae `na ddau Gymro yn cymryd rhan yn y Tour, gyda Luke Rowe, fel Thomas, yn enedigol o Gaerdydd ac yn llawn haeddu ei le yn nhîm Sky.
Gwarchod a gwasanaethu Chris Froome, arweinydd Tîm Sky, fydd gwaith pennaf Thomas a Rowe dros y tair wythnos nesaf cyn i’r Tour gyrraedd ei derfyn ar y Champs-Élysées ar 26 Gorffennaf, ond mae’n ddigon posib y caiff y ddau Gymro ambell gyfle i serennu mewn grŵp fydd yn datgysylltu oddi wrth y peloton.
Creodd Thomas argraff ffafriol yn ddiweddar ar y Tour de Suisse, gan orffen yn ail, bum eiliad yn unig y tu ôl i’r buddugwr, Simon Špilak o Slofenia a hynny yn sicr o fod yn baratoad delfrydol ar gyfer y Tour.
Mae Rowe hefyd wedi datblygu’n seiclwr o fri a’n gobaith ni fel Cymry yw y gall yntau a Thomas ddenu’r sylw dros gyfnod y Tour a, pwy a ŵyr, falle daw’r diwrnod pan fedrwn ddathlu buddugoliaeth Gymreig yn y Tour de France, y Giro d’Italia neu’r Vuelta a España.
Gyda’r holl gyffro mewn dau gamp dros yr wythnos nesaf, bydd rhaid dewis pa un i’w gwylio ar deledu a hynny’n dwyn i gof dyfeisydd y “llygaid cathod” ar ein ffyrdd, sef y diweddar Percy Shaw o Halifax yn Swydd Efrog.
Arferai Shaw gadw sawl teledu ymlaen ym mhob ystafell yn ei gartref rhag ofn y byddai’n colli rhywbeth o bwys ar un o’r sianelau oedd ar gael ym mlynyddoedd olaf ei fywyd.
Bu Shaw farw yn 86 mlwydd oed ym 1976 pan nad oedd y nifer o sianelau ar gael yn fychan o gymharu â 2015 a thra gallwn feddwl amdano a’i gannoedd o sgriniau petai yn fyw heddiw, dim ond un ar y tro fydd ymlaen yn ein lolfa ninnau dros y dyddiau nesaf a’r botymau’n cael eu gwasgu’n weddol gyson wrth i’r cyffro gynyddu yn SW19 ac ar y Cyfandir.