Eraill

RSS Icon
18 Medi 2014

Coroni dwy Gymraes yn bencampwyr byd

Dim ond ers pythefnos mae Clwb wedi ymddangos ar S4C ond yn y cyfnod byr yma mae dwy Gymraes wedi eu coroni'n Bencampwyr Byd.

Daeth y cyntaf yn fyw ar y rhaglen wrth i Manon Carpenter o Gaerffili daflu ei hun i lawr mynydd yn Norwy ar gefn ei beic yn gynt nag unrhyw ferch arall yn y byd er mwyn ychwanegu Pencampwriaeth Lawr Mynydd y Byd at ei choron Cwpan y Byd yn yr un gamp.

Roedd Manon yn ôl ar Clwb ddydd Sul diwethaf wrth iddi ddod â'i Siwmper Enfys enwog yn ôl i Gymru ar gyfer cymal olaf Cyfres Lawr Mynydd Prydain ym Mharc Beicio Cymru, Merthyr Tudful …ac er ei bod eisoes wedi ennill y gyfres, bu rhaid iddi fodloni ar sefyll ar ail reng y podiwm yn ras ola'r tymor!

Nos Lun cawsom yr ail bencampwraig wrth i  Ellen Allen o Gasnewydd sicrhau medal aur fel rhan o dîm saethu Skeet Prydain ym Mhencampwriaethau Saethu'r Byd yn Granada, Sbaen. Yn ogystal ag aur fel rhan o'r tîm, daeth Allen o fewn trwch blewyn i gipio'r bencampwriaeth unigol hefyd ond bu rhaid iddi fodloni ar y fedal arian ar ôl saethu un targed yn llai na'r Americanes, Brandy Drozd.

Pwy fydda'i wedi meddwl byddai gan Gymru Bencampwyr Byd Beicio Lawr Mynydd a Saethu Skeet?

Dau gamp digon anghyffredin syn sicr ddim yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau. A dyna yw ein nôd ni ar Clwb; i geisio dod â mwy o'r campau lleiafrifol i sylw'r cyhoedd Cymreig. 

Mae 'na glybiau chwaraeon gwahanol yn bodoli led led Cymru.
Rydym ni eisoes wedi ymweld â chlwb Codi Pwysau Caergybi sydd ag aelodau o garfanau Cymru a Phrydain Fawr yn ymarfer o dan lygaid barcud Ray Williams, enillodd fedal aur ei hun yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin ym 1970.

A chawsom noson arbennig yn Neuadd Capel Methodistaidd Sblot yn cyfarfod Clwb Cleddyfa Russell Swords, sydd ag aelodau o bob oedran yn cyfarfod yn wythnosol i ymarfer y gamp fonheddig ac urddasol o dan arweiniaeth Peter Russell.

Yn ogystal â'r diweddraf o'n taith o amgylch clybiau chwaraeon Cymru bydd IronMan Cymru o Ddinbych y Pysgod yn mynd â'n bryd ni ddydd Sul - y gamp honno lle mae'r athletwyr yn cyfuno tair camp mewn un gan nofio 2.4 milltir, seiclo 112 o filltiroedd ac yna rhedeg marathon! 

Bydd 'na gêm bêl-droed fyw o Uwch Gynghrair Cymru Corbett Sports hefyd rhwng Airbus UK a Chaerfyrddin, hynt a helynt Gareth Bale yn La Liga, Gweilch v Caeredin yn y Guinness Pro 12 a'r gorau o rygbi Ffrainc yn y Top 14.
 

Llun: Manon Carpenter

Rhannu |