Eraill

RSS Icon
10 Gorffennaf 2014

Dycnwch a dagrau ar y ffordd i Glasgow

Gyda Gemau’r Gymanwlad yn dechrau’n fuan, bydd S4C yn darlledu dwy raglen nos Iau, 17 a nos Wener, 18 Gorffennaf yn canolbwyntio ar baratoadau rhai o aelodau t?m Cymru. 

Dros y misoedd diwethaf mae'r camerâu wedi bod yn dilyn yr athletwyr i gofnodi'r paratoi, y gwaith caled, yr aberth bersonol; ac i ambell un, y torcalon, ar y daith i'r Alban. Cawn ddilyn eu hynt a'u helynt yn Gemau’r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow, cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C.

Capten t?m Cymru yw’r taflwr siot a’r ddisgen o Ben-y-bont ar Ogwr Aled Siôn Davies. Byddwn yn dilyn Aled wrth iddo baratoi i gipio medalau aur yng Ngemau’r Gymanwlad - gan geisio efelychu’r medalau aur enillodd yng ngemau Paralympaidd Llundain 2012.

"Dwi'n arwain y t?m, a dwi methu aros, mae e’n fraint enfawr i fi. Dwi eisiau dangos i bawb fy mod i’n falch o fod yn Gymro, a sa i’n gallu aros i wisgo top Cymru. Dwi’n edrych ymlaen achos dwi ond yr ail athletwr Paralympaidd i arwain y t?m ar ôl Tanni Grey-Thompson. Does dim llawer o bobl yn gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn gapten ar Gymru yn mynd mewn i Gemau’r Gymanwlad."

Mae Aled, sydd yn 23 oed ac yn byw yng Nghasnewydd, yn obeithiol am ei siawns o gipio’r fedal aur i Gymru yn ei gampau yn y bencampwriaeth.

"Mae’r hyfforddi’n mynd yn grêt, dwi’n fwy pwerus, yn fwy cyflym a dwi wedi torri record y byd yn ddiweddar. Dwi hefyd wedi mwynhau cael y camerâu yn fy nilyn i, dwi’n hoffi rhannu fy mhrofiadau gyda phawb. Dwi wedi rhoi llawer o waith caled i mewn, a dwi eisiau i bawb fy nghefnogi. Dwi wedi bod yn breuddwydio am Hen Wlad fy Nhadau a sefyll ar y podiwm a chael y fedal ers blynyddoedd nawr.  Gobeithio y galla i ddod â’r freuddwyd yn fyw."

Yn ogystal â'r brwdfrydedd a'r dycnwch, bydd y rhaglenni hefyd yn dilyn siom ambell gystadleuydd addawol hefyd. Un person gafodd anaf wrth baratoi tuag at y Gemau yw’r bencampwraig driathlon 25 oed o Abertawe, Non Stanford.

Meddai, "Mae e’n siom anferthol i mi, ers i mi fod yn ifanc iawn dwi wedi bod eisiau cynrychioli Cymru, dwi wedi dyheu am wneud hynny. Dwi’n teimlo fy mod i wedi gadael fy ffrindiau a fy nheulu i lawr. Ond dyna natur y gamp, ac mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar ddod yn well."

Bydd y gyntaf o'r ddwy raglen nos Iau, yn dilyn Non Stanford; y bocsiwr o Orseinon, Zack Davies a phencampwraig saethu Prydain, Coral Kennerley o Landdeiniol, Ceredigion. Bydd yr ail raglen nos Wener yn rhoi sylw i gapten carismatig Tîm Cymru, Aled Siôn Davies; y seiclwr o Gaerdydd, Owain Doull a'r efeilliaid 20 oed o Ddinbych Megan ac Angharad Phillips sy’n chwarae tenis bwrdd.

Meddai Angharad fod bod yn efail yn ei hysgogi hi i fod yn fwy cystadleuol. "Dwi’n meddwl ei fod o’n creu trafferth bod y ddwy ohonom ni'n gystadleuol - rydyn ni'n gallu pwsho ein gilydd i ymarfer yn galed. 'Naethon ni byth meddwl pan gawson ni'r bwrdd tenis fwrdd un Nadolig y byddai o’n newid ein bywydau ni gymaint!"

Gemau'r Gymanwlad: Y Ras i Glasgow

Nos Iau, 17 a nos Wener 18 Gorffennaf 9.30pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk/

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad BBC Cymru Wales

 

Rhannu |