Eraill

RSS Icon
24 Ebrill 2014

Jwdo'n cyffroi Jade

Mae pencampwr jwdo ifanc o Abertawe'n gobeithio herio am fedalau yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow ar ddiwedd y flwyddyn.

Mae Jade Lewis, 19 oed o'r Gendros, yn croesi ei bysedd y bydd hi'n cael ei dewis i fod ar dîm Cymru pan gaiff ei gyhoeddi ddydd Mawrth 29 Ebrill.

Enillodd Jade, sy'n hyfforddi yng Nghlwb Jwdo'r Gendros yng Nghlwb Cymunedol y Gendros, yn y categori dan 52kg yng Nghwpan Iau Ewrop.

Er ei bod yn cynrychioli Prydain Fawr yn y categori iau, ei nod yw cynrychioli Cymru yn yr uwch-dîm.

Mae Jade yn gobeithio dilyn yn ôl traed ei hyfforddwr, Mark O'Connor, sydd wedi cynrychioli Cymru mewn jwdo yng Ngemau'r Gymanwlad yn y gorffennol.

Meddai'r cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Pentrehafod, "Rwyf wedi bod yn ymarfer jwdo am oddeutu 11 mlynedd bellach. Roedd fy hyfforddwr, Mark, a'm tad, Anthony, yn adnabod ei gilydd pan oeddent yn iau ac yna roeddent yn byw mewn strydoedd agos at ei gilydd, felly dyna sut ces i fy nenu.

"Nid oeddwn yn hoff o gampau mwy traddodiadol, ond roeddwn yn dwlu ar jwdo o'r cychwyn cyntaf yn 8 oed. Yr ochr gystadleuol a'r cyfle i ddatblygu yw'r agweddau rwy'n eu mwynhau orau. Bellach rwyf wedi cyrraedd y lefel gyntaf ac rwyf wedi cael y cyfle i gystadlu dramor.

"Os byddaf yn cael fy newis, rwy'n sicr yn meddwl y gallaf ennill medal dros Gymru yn Glasgow. Rwyf wedi cystadlu yn erbyn rhai o'r merched y mae sôn y gallant ennill medal ac rwyf wedi gwella llawer ers cystadlu yn eu herbyn."

Canolfan Gymunedol y Gendros ar Rodfa'r Gendros - Dwyrain yw un o 31 o ganolfannau cymunedol a gynhelir gan Gyngor Abertawe ar draws y ddinas.

Meddai Jade, "Dim ond taith gerdded fer ydyw o'r ardal lle rwy'n byw, felly mae wedi bod yn ddelfrydol i mi ar hyd fy oes. Mae'n lle gwych i hyfforddi - mae pawb yn y ganolfan gymunedol yn glós ac mae llawer yn mynd ymlaen yno ar wahân i jwdo. Byddwn yn annog unrhyw un i fynd i'w ganolfan gymunedol leol oherwydd amrywiaeth y gweithgareddau, clybiau a digwyddiadau sydd ar gael yn agos at gartrefi pobl."

Mae Cyngor Abertawe hefyd yn cynnal 10 Pafiliwn i Bobl Hŷn.

Mae holl adeiladau'r cyngor wedi'u rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol. Ewch i www.abertawe.gov.uk/communitybuildings i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 635412. 

Rhannu |