Colofnwyr

RSS Icon
04 Mawrth 2011
Paul Griffiths

Amser a ddengys

NEWYDDION da i gychwyn, gyda’r cyhoeddiad yr wythnos hon mai Arwel Gruffydd sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog fydd Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru. Fe gofiwch mai Arwel fu’n gyfrifol am gyfarwyddo’r cynhyrchiad llwyddiannus o ‘Llwyth’ rai misoedd yn ôl, felly mae’r gobaith a’r ffydd yn fawr, am arlwy amrywiol a gweledigaeth ac arweiniad deallus a dramatig. Llongyfarchiadau mawr ar ei benodiad, ac amser a ddengys…

Ac wrth sôn am lwyddiannau, rhaid imi annog pob un ohonoch i fentro i’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain i weld y campwaith theatrig, ‘Frankenstein’ sydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ffilm, Danny Boyle. Boyle oedd yn gyfrifol am y ffilm ‘Slumdog Millionaire’ a gipiodd cymaint o wobrau rai blynyddoedd yn ôl.

Gogoniant y cynhyrchiad ydi gweledigaeth a synnwyr dramatig cryf Boyle, sydd, drwy ei dîm profiadol sef y cynllunydd set Mark Tildesley, y cynllunydd goleuo Bruno Poet a chynllunydd gwisgoedd Suttirat Anne Larlarb, yn mynd â ni ar daith drwy’r blynyddoedd, yn gronolegol a daearyddol i gorneli pellaf y byd. Cipiodd y cynhyrchiad fy ngwynt mewn mannau, wrth imi syllu’n gegrwth at fawredd yr hyn oedd yn cael ei gyfleu ar y llwyfan o’m blaen. Anghofiai fyth, tra byddai fyw, yr olygfa sy’n cyfleu’r Chwyldro Diwydiannol, wrth i’r peth gosaf at drên yn llawn o drugareddau hyrddio’i ffordd yn llawn pobol ag arfau a stem i ganol y gynulleidfa, gan fwrw ei gysgodion prysur ar gefn y llwyfan. Yn gyfeiliant i’r cyfan, trac sain wreiddiol sy’n gyfuniad perffaith o synau a cherddoriaeth gan y grwp Underworld.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |