http://www.y-cymro.comY CymroGalwad am gic ym mhen ôl y parchusrwydd bondigrybwyll
CARLOW, yr oeddet wych! Wythnos o chwerthin, creu cerddoriaeth ac yfed gormod o Smithwicks yn ogystal ag ambell drip allan i’r wlad oedd wythnos yr Ŵyl Ban Geltaidd i’n criw bach ni a aeth draw i’r Ynys Werdd yn y fan.

Mi wnaethom ni ganu Bwlch Llanberis ar ein ffidils yng nghysgod cromlech drymaf Ewrop, a bysgio Arglwydd Dyma Fi mewn harmoni 4-rhan ar y stryd fawr – roedd pawb wrth eu boddau.

Tydi dawnsio i berfformiad byw gan Dafydd Iwan ddim yn digwydd yn aml bellach, chwaith. Ond, er mwynhau cymaint, mi gefais fy siomi i’r un graddau gan rai pethau.

Roedd yna gynrychiolaeth wych o bobl ifanc o’r gwledydd Celtaidd eraill, ac mi roeddan nhw yno hefo ni yn canu yn y tafarndai tan berfeddion ac yn perfformio ar y strydoedd.

Dwi wedi dod i nabod llwyth o rai eraill sydd yn rhannu fy niddordebau, ac yr un mor angerddol dros eu hieithoedd a’u diwylliannau bychain eu hunain.

Ac roeddan nhw yno i rannu hynny hefo ni.

Criw hŷn oedd wedi dod draw o Gymru ar y cyfan, a hynny’n teimlo fel petai’n rhyw ‘jolly’ blynyddol neu drip ysgol Sul i gael gweld hen ffrindiau o Gymru yn fwy na’r gwledydd eraill.

Pobl hyfryd, wrth gwrs, ac aml i un o’m cydnabod fy hun, ond nid y gorau i gynrychioli Cymru fel ag y mae hi yn y flwyddyn 2017.

Teimlais fod rhyw ynysigrwydd yn perthyn i gyfran helaeth o’r gynrychiolaeth Gymraeg (dwi ddim o reidrwydd yn cyfeirio atoch CHI) a oedd yn eu cadw nhw draw o fwrlwm y digwyddiadau.

Roedd y rhan fwyaf o’r digwyddiadau Cymreig yn cael eu cynnal yng ngwestai crand y Talbot a’r Seven Oaks allan ar gyrion y dre. Roeddwn i’n teimlo y gallai’r nosweithiau Cymreig bron a bod wedi cael eu cynnal mewn tref yng Nghymru, ac mi fyddai eu dylanwad wedi bod yr un fath – nid oherwydd diffyg talent, ond oherwydd diffyg pobl o’r gwledydd eraill yn y gynulleidfa.

A oedd hyn yn adlewyrchu amharodrwydd y Cymry yn eu parchusrwydd bodlon i wahodd pobl i fewn o’r tu allan i gyd-fwynhau? Yn fy marn i, mae hynny’n ddigon posib. Oes yna snobyddiaeth a theimlo ein bod ni’n well? Garantîd.

Digon gwir yw dweud bod ein hiaith ni dal gennym ni, ac yn gryfach o beth wmbredd na ieithoedd y gwledydd Celtaidd eraill, ond mae sefyllfa’r Gymraeg yn ddrych o sefyllfa’r Wyddeleg fel y mae hi wedi bod o fewn y cof cyfredol.

Ar ben hynny, mae’r Gwyddelod a’r Albanwyr wedi gweld tranc eu hieithoedd eu hunain fwy neu lai, sydd wedi eu sbarduno i frwydro’n galetach fyth dros bethau fel goroesiad eu cerddoriaeth draddodiadol, ac maen nhw ymhell ar y blaen yn hynny o beth.

Roedd yna orbwyslais ar gystadlaethau fel yr Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant hefyd.

Byddai grwpiau yn cael eu cyflwyno fel ‘so and so, and they have won many prizes at the National Eisteddfod,’ neu ‘so and so, and they’re always on S4C.’ Fel petai hynny yr unig fesurydd o safon sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Tydi’r pethau yma ddim o bwys mawr i’r gynulleidfa ryngwladol – adloniant ydi beth mae’r rheini am ei gael, ac os ydym ni am gyfyngu ein hunain i’r rhai sydd yn cystadlu am wobrau eisteddfodol yna mae hi’n dywyll iawn arnom ni, ac mae peryg i bobl feddwl ein bod ni’n byw mewn rhyw fath o ffantasi Fictorianaidd.

Mae angen i’r Cymry gael eu gweld yn canu ac yn perfformio o dan amgylchiadau llai ffurfiol – yn y pybs (a thrwy hynny, nid bar crand y Seven Oaks dwi’n ei olygu) ac ar y strydoedd; mae angen i’r Cymry fod yn gwneud i’n diwylliant gwerin ni edrych yn cŵl.

Nid dweud ydw i bod angen colli’r hen draddodiadau – mi’r ydw i yr un mor danbaid drostyn nhw a neb, fel y bydd y rhai ohonoch sy’n fy adnabod yn gwybod yn iawn, ond mae angen edrych y tu hwnt i’r corau a’r partïon cerdd dant a’r dawnswyr gwerin.

Does dim rhaid wrth ffedog a het wirion i ddawnsio gwerin – mi fedrwch ddawnsio gwerin yn eich dillad bob dydd yn lle bynnag y mynnwch chi, a does dim rhaid wrth gennin pedr blastig a chrys du na bod yn rhan o gôr i ganu.

Mae yna broblem yn y ffaith mai pwyllgor yng Nghymru sy’n ‘dewis’ y gynrychiolaeth oddi yma bob blwyddyn.

Gall deimlo braidd wedyn fel bod y siop ar gau os nad ydych chi’n nabod y bobl iawn, ac mi fuaswn yn mynd mor bell a dweud nad oes diffyg sail i’r teimlad hwnnw, chwaith.

Dylai mynd i gynrychioli Cymru mewn gwlad Geltaidd arall fod yn ddewis sydd gan bawb, ond mae’n bur amlwg i mi mai’r un bobl sy’n troi i fyny ar y bws yn nociau Dulyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, a beth sy’n gynhyrchiol am hynny?

Mae’r partïon a’r corau sy’n mynd bob blwddyn yn wych iawn iawn, ond ni ddylai’r ddelwedd honno ein diffinio.

Galwad ydi’r darn yma felly yn fwy na dim. Galwad am gic ym mhen ôl y parchusrwydd bondigrybwyll a galwad i’r bobl ifanc niferus hynny sy’n teimlo’n gryf dros eu diwylliant a’u traddodiadau godi pac am wythnos a dŵad draw i Derry flwyddyn nesaf ar gyfer yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Dŵad am sesh, a dŵad hefyd i ganu caneuon hen a newydd fel ei gilydd, a phrofi ar lwyfan ryngwladol nad breuddwydion sydd wedi encilio i fyd y genhedlaeth hŷn yw ein hiaith a’n diwylliant.

Rydan ni’n wlad sydd ar ganol profi adfywiad aruthrol yn ein cerddoriaeth ein hunain.

Mae angen i ni ddangos hynny i’n cefndryd Celtaidd hefyd, rhag ofn i ni gael ein gadael ar ôl.

Llun: Y bardd a'r cerddor Iestyn Tyne

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5239/
2017-04-28T00:00:00+1:00Neb yn dal unrhyw ddig am gynnwys cyfrol Operation Julie
DDEUGAIN mlynedd yn ôl daeth ymgyrch Operation Julie i ben gyda charchariad 17 o ddiffynyddion am gyfanswm o 130 o flynyddoedd. Yn ystod yr ymgyrch i gael hyd i wneuthurwyr a gwerthwyr LSD yng nghanolbarth Cymru a Llundain canfuwyd 6 miliwn tab o’r cyffur. Arestiwyd 120 o bobl a chanfuwyd gwerth £100 miliwn ynghyd â chelc arian o £800,000 mewn cyfrifon banc yn y Swistir.

Mae hanes Operation Julie yn darllen fwy fel nofel gyffrous nag ydyw o ran ffeithiau.

Daeth mannau fel Carno, Tregaron a Llanddewibrefi i sylw byd eang. A’r rhyfeddod yw, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, na chlywch chi fawr ddim casineb na drwgdeimlad tuag at y rhai a fu’n ganolog i’r fenter o gynhyrchu a gwerthu’r cyffur.

Yn ystod ymgyrch yr heddlu roeddwn i’n byw yn Aberystwyth ac yn treulio llawer o amser nôl yma yn y Bont. Ond wyddwn i ddim byd am y busnes nes i’r arestio ddigwydd. Eto i gyd, wrth edrych yn ôl, yr oedd yna gliwiau.

Un prynhawn yn y Talbot yn Nhregaron fe wnaeth cyfaill i mi adrodd stori ryfedd iawn. Roedd dieithrin yn y bar ychydig nosweithiau cynt wedi cynnig arian mawr iddo am ofalu am fag a gariai’r dieithryn. Gwrthod wnaeth fy nghyfaill am y gofidiai fod arfau yn y bag.

Cofiaf fod ym mar y Clwb Chwaraeon yn Aber un noson a chriw o tua dwsin o ddynion swnllyd a meddw yno. Credwn mai criw yn perthyn i rhyw glwb rygbi oedd yno’n dathlu. Dim ond fisoedd wedyn y canfum mai aelodau o heddlu cudd Operation Julie oedden nhw.

Erbyn heddiw mae hanes Operation Julie wedi troi’n rhan o chwedloniaeth. A’r gwir amdani yw fod llawer iawn o’r ‘ffeithiau’ wedi eu gorliwio ac yn wir rai wedi eu seilio ar gelwydd. Yn ei gyfrol, pwysleisia Dick Lee, un o brif swyddogion yr ymgyrch berygl LSD.

Cyfeiria at ferch ifanc a fu farw o effeithiau’r cyffur. Yr hyn na cheir yw nad yr LSD a gyhyrchid yng Ngharno oedd hwnnw. Y puraf oll yw’r cyffur, y lleiaf peryglus y mae, ac roedd LSD Richard Kemp, a drigai yn Nhregaron bron iawn yn bur gant y cant.

Gwneir môr a mynydd o’r ‘ffaith’ i Operation Julie roi terfyn ar y farchnad LSD yn fyd-eang. Y gwir amdani oedd fod LSD wedi ail-ymddangos hyd yn oed cyn i’r achos ym Mryste ddod i ben. Tolcio’r farchnad dros dro wnaeth Operation Julie.

Fy mwriad wrth ysgrifennu hanes Operation Julie yn 2010 oedd dangos sut y bu i fewnfudo’r chwech a’r saithdegau newid cymeriad cymunedau cefn gwlad yn llwyr.

Roedd yna dri math o fewnfudwyr. Criw’r ‘Good Life’ oedd rhai. Roedd y rhain gan fwyaf wedi prynu hen fwthyn diarffordd yng nghefn gwlad Ceredigion er mwyn tyfu llysiau.

Ymlid breuddwyd a wnai’r rhan fwyaf o’r rhain gan gael eu dadrithio’n fuan iawn.

Iypis oedd yr ail garfan, pobl gefnog wedi ymddeol yn gynnar a gwerthu eu cartrefi dinesig am grocpris a phrynu bwthyn cefn gwlad am bris bitw. Maen nhw’n dal i lifo tuag yma.

Yn drydydd roedd yr hipis, pobl ifanc gan fwyaf wedi cael lond bol ar fateroliaeth. Mynd a dod a wnai llawer. Dewisodd eraill aros gan droi hen furddunod yn gartrefi. Roedd y mwyafrif mawr o’r rhain yn bobl ifanc deallus

Weithiau ceid dau neu’r tri categori’n toddi’n un. Dyna’i chi’r cemegydd disglair a greai’r cyffur, Richard Kemp a’i bartner, Christine Bott. Roedd ef yn raddedig o Goleg Caergrawnt tra hi’n feddyg. Prynasant fwthyn Penlleinau ym Mlaencaron am £9,000.

I Landdewibrefi chwe milltir i ffwrdd symudodd Alston Hughes o Ganolbarth Lloegr. Yn ŵr tra chymdeithasol ac yn gryn gymêr enillodd ei blwyf yn fuan iawn. Yr hyn na wyddai neb oedd mai ef oedd un o’r prif werthwyr. Ond yr eironi oedd, er nad oedd ond chwe milltir rhwng y gwneuthurwr a’r gwerthwr, ni wyddai’r naill am fodolaeth y llall.

Ers i mi ysgrifennu’r gyfrol deuthum i adnabod tri o’r dynion a garcharwyd. Byddant yn cysylltu â mi’n achlysurol. Rwyf hefyd yn adnabod aelodau o’r heddlu oedd yn rhan o Operation Julie. Does neb o’r naill garfan na’r llall yn dal unrhyw ddig am gynnwys y gyfrol. Teimlaf felly i mi daro nodyn sy’n dderbyniol.

Fel y nodais yn gynharach, ewch i Dregaron neu Landdewibrefi a soniwch am y ‘dynion drwg’ a fu’n cynhyrchu a gwerthu LSD yn eu plith ac ni chlywch unrhyw eiriau croes. Ystyrir nhw’n union fel yr edrychir ar gymeriad lliwgar arall o’r fro ganrifoedd yn gynharach, sef Twm Shôn Cati.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5218/
2017-04-11T00:00:00+1:00Continwwm cyfansoddiadol
Gyda’r Deyrnas Unedig yn wynebu croesffordd wleidyddol o ryw fath, mae Glyndŵr Cennydd Jones yn edrych ar y dewisiadau llywodraethu sydd ar gael i Gymru o fewn ein cymuned ynys

MAE’R adroddiad sy’n dwyn y teitl Y Croesffyrdd Cyfansoddiadol: Ffyrdd Ymlaen ar gyfer y Deyrnas Unedig (Canolfan Bingham ar gyfer Rheolaeth Cyfraith: Mai 2015) yn amlygu bod y “ffin rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei groesi tua 130,000 gwaith bob dydd” a bod “48% y cant o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin.”

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai “y DU yn parhau i fod yn farchnad sengl cwbl integredig gydag arian sengl a’r fframwaith macro-economaidd cyffredin lle mae dinasyddion yn rhydd i fyw, gweithio a masnach heb rwystr cyfreithiol.”

Mae ystyriaethau o’r fath yn hanfodol mewn amgylchedd lle’r na ellir dibynnu mwyach ar yr Undeb Ewropeaidd fel y mecanwaith ar gyfer gweithredu polisïau ac arferion a rennir.

Mae adroddiad arall sy’n dwyn y teitl Newid Undeb y DU: Tuag at Undeb newydd (Canolfan Llywodraethu Cymru, Prifysgol Caerdydd: Chwefror 2015) yn cynghori fod y “partïon i’r Undeb cydnabod rôl ddominyddol Lloegr ynddo … ond bod Lloegr hefyd yn cydnabod bod yr anghymesuredd rhyngddi a’r cenhedloedd eraill o’r fath raddfa fel bod angen tymheru ... trwy gyflwyno amrywiaeth o fecanweithiau sefydliadol.”

Felly, pa opsiynau llywodraethu sydd ar gael i Gymru o fewn ein cymuned ynys?

I barhau ar y cwrs presennol yw derbyn ansicrwydd cyfansoddiadol a bregusrwydd gwleidyddol fel y dangosir gan y trafodaethau diweddar ar y Mesur Cymru 2016-17 yng Nghaerdydd a Llundain, yn ogystal â’r broses ar gyfer sbarduno Erthygl 50 yn Llys Goruchaf y Deyrnas Unedig.

Gall ‘Devomax’ fod yn ateb deniadol i rai, ond hyd yn oed nid yw hyn yn mynd i’r afael â’r amwysedd a chymhlethdod a gyflwynwyd gan uchafiaeth gyffredinol San Steffan a’r heriau cynhenid a gyflwynir gan y model-wladwriaeth unedol – sydd bellach yng nghwmni gysgod syfrdanol Brexit ‘galed’ fydd yn wynebu’r pedair gwlad.

Gall yr ateb, o bosib, orffwys yn “system o lywodraeth ble mae awdurdodau canolog a chenedl gyfansoddol yn cael eu cysylltu mewn perthynas wleidyddol, lle mae pwerau a swyddogaethau yn cael eu dosbarthu i ennill gradd sylweddol o ymreolaeth a gonestrwydd yn yr unedau cenedlaethol. Mewn theori, mae system ffederal yn ceisio cynnal cydbwysedd o’r fath ble mae un lefel o lywodraeth yn methu bod yn ddominyddol i bennu penderfyniad y llall, yn wahanol i system unedol, lle mae’r awdurdodau canolog yn dal blaenoriaeth i’r graddau hyd yn oed o ail-ddylunio neu ei ddileu llywodraethau genedl gyfansoddol ac unedau lleol fel y myn”.

Dyna’r diffiniad o ffederaliaeth a gynigir gan y New Fontana Dictionary of Modern Thought (HarperCollins 2000), gyda’r gair ‘rhanbarthol’ wedi disodli gan y term ‘genedl gyfansoddol’ fel italeiddio at ddiben cyd-destunol yr erthygl hon.

Gallai Ffederasiwn yr Ynysoedd wir ‘fondio’ egwyddorion grymuso a chyfrifoldeb gydag atebolrwydd ac awdurdod i roi eglurder a sefydlogrwydd cyfansoddiadol ar draws y cenhedloedd cyfansoddol a’r cyfan, yn enwedig gyda mecanweithiau sefydledig ar waith, i symud ymlaen buddiannau ar y cyd a datrys anghydfodau.

Byddai hefyd yn manteisio ar y potensial i wireddu arbedion maint mewn rhai swyddogaethau allweddol a gedwir yn ganolog megis arian, amddiffyn, cysylltiadau tramor a marchnad fewnol – yn ogystal â datblygu dylanwad gwleidyddol i ddenu buddsoddiad rhyngwladol.

Mae enghreifftiau o ffederasiynau yn cynnwys yr Almaen a’r Unol Daleithiau.

Gall ateb arall orwedd mewn Cynghrair neu Undeb yr Ynysoedd.

Gellid crynhoi’r model hwn fel math o gydffederasiwn a sefydlwyd gan gytundeb – mewn cyferbyniad i gyfansoddiad federal – sy’n mynd i’r afael â’r buddiannau a rennir yn cynnwys y fasnach fewnol ac arian yn ogystal â chysylltiadau amddiffyn a thramor, os dymunir.

O dan drefniant cydffederasiwn mae’r corff canolog yn gymharol wan, o’i gymharu â Senedd Ffederal, gan y byddai penderfyniadau a wnaed gan ‘Cyngor’ o aelodau o’r cenhedloedd yn dibynnu ar weithredu gan y gwledydd unigol iddynt ddod i rym.

Nid yw’r datganiadau felly’n cyfreithiau sy’n gweithredu’n uniongyrchol ar yr aelodau unigol, ond yn hytrach yn cymryd arnynt gytundebau rhwng cenhedloedd.

Manteision a heriau

Mae Cynghrair neu Undeb yr Ynysoedd yn cyflwyno i bob cenedl manteision a heriau o weithredu fel gwladwriaeth annibynnol o fewn cynghrair ynysoedd-eang.

Byddai cytundeb ar faterion o bryder yn anelu at liniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig â darnio swyddogaethau a oedd gynt yn gyffredin.

Fodd bynnag, byddai ystyriaethau cystadleuol rhwng aelod-cenhedloedd yn cael mwy o amlygrwydd wrth negodi o fewn perthynas cydffederasiwn o fath – wrth gydbwyso yn erbyn model adeiladu consensws a gynigir gan ffederaliaeth.

Yn ogystal, ni fyddai’r gwiryddion arbedi gost trwy weithredu dulliau a rennir yn swyddogol mewn meysydd allweddol yn cael eu sicrhau.

Yn ddiddorol, gallai Cynghrair neu Undeb Ynysoedd wahodd cyfranogiad De Iwerddon os dymunir a hefyd fyddai’n mynd i’r afael â dymuniadau’r Alban os digwydd iddi bleidleisio dros annibyniaeth yn y dyfodol.

Mae’r Undebau’r Benelux ac Ewrop yn enghreifftiau o’r math hwn o ddealltwriaeth.

Mae Cymru fel gwlad annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn fodel sy’n werth archwiliad pellach mewn pryd, ond ni fyddai’n ymarferol os nad buasai Lloegr – bartner cymdeithasol a masnachu mwyaf Cymru – hefyd yn yr UE.

Byddai angen ffurf o Gynghrair neu’r Undeb i fod yn eu lle i hwyluso’r cydberthnasau economaidd a gwleidyddol angenrheidiol.

Pleidleisiodd pobl Cymru hefyd yn erbyn aelodaeth y UE ym mis Mehefin 2016.

Afraid dweud buasai Cymru annibynnol a fyddai yn gweithredu heb gytundebau Ewropeaidd neu ar draws yr ynysoedd yn gwneud fawr ddim i wella safon byw’r boblogaeth.

Mae’r dull hwn yn debygol o fod yn anghynaladwy, gydag ansicrwydd mewn amcanion ac arferion ar y cyd yn annog pobl i beidio buddsoddi mewn busnes – ynghyd â’r tebygrwydd o ddrifft cyffredinol cyfalaf a chyflogaeth tuag at y partner mwyaf i’r dwyrain.

Felly, er mwyn ateb y cwestiwn a ofynnwyd, mae dewisiadau cyfansoddiadol eraill i’r model presennol.

Ym mis Tachwedd 2016, ysgrifennodd yr Arglwydd David Owen allasai Cyngor Ffederal, wedi ei fodelu ar y Bundesrat Almaeneg, helpu i “adfer ein democratiaeth sydd wedi ei ystumio gan yr hawliad ffug o ôl-foderniaeth bod dyddiau’r genedl-wladwriaeth drosto.

Yn hytrach na ymhell o fod drosodd” mae’r Arglwydd Owen yn mynnu bod “hunaniaeth genedlaethol, boed yn yr Alban, Cymru, Iwerddon neu Lloegr, yn haeddu cael ei drysori fel grym i rwymo, nid un cynhennus. Mae’r cyfan yn dibynnu ar p’un a allwn ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir.”

Mae adroddiad arall sy’n dwyn y teitl Ffederal Britain: Yr Achos dros Ddatganoli (Sefydliad Materion Economaidd: 2015) yn archwilio “cyflwr ffederal ... gyda’r Alban ... Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ar wahân, yn genhedloedd o fewn undeb ffederal.

Dylai’r llywodraeth ffederal yn cael nifer cyfyngedig iawn o bwerau, gan gynnwys amddiffyn, materion tramor a rheoli ffiniau a senedd fach a gweithredol.”

Mae’n cadarnhau “ni all unrhyw ateb arfaethedig arall i ‘Cwestiwn Lloegr’ darparu’r un sefydlogrwydd neu ganlyniadau buddiol yn economaidd.”

Mae’r model sydd yn gynyddol gynaliadwy yn gorwedd rhywle rhwng Ffederasiwn ac, ymhen amser, Cynghrair neu Undeb yr Ynysoedd.

O bosib mae gan yr opsiwn cyntaf agweddau o ddiogelwch gyda rhwyd mecanweithiau ar gyfer swyddogaethau craidd a phortffolios polisi i gynorthwyo gwireddu’r arbedion maint a rennir, a hefyd mwy o gyd weithio ar faterion ar y cyd ar draws y cenhedloedd cyfansoddol a’r byd.

Tra bod yr ail opsiwn yn caniatáu adeiladu consensws a negodi rhwng cenhedloedd sydd gyda grym llawn, ond hefyd o bosib ceir rhywfaint o risg drwy ystyriaethau cystadleuol ac anghydfodau perthnasoedd yn amharu.

Gallai model Gynghrair neu fath o Undeb fod o fantais i Loegr yn fwy na Chymru, oherwydd ei heconomi a maint y boblogaeth, ond ni ddylem danbrisio ein pryderon a rennir gennym, fel cymuned ynys, megis amddiffyn, symudedd cymdeithasol a masnach ac felly byddai inclein tuag Ffederasiwn yn sicrhau eglurder cyfansoddiadol, cysur a hyder.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5191/
2017-03-30T00:00:00+1:00Galwad am Gonfensiwn Cyfansoddiadol
Ar adeg ein bod yn nesáu at groesffordd o ryw fath yn ein taith drwy’r ynys, mae Glyndŵr Cennydd Jones yn archwilio pam mae angen Confensiwn Cyfansoddiadol

WRTH grynhoi natur a swyddogaethau’r Deyrnas Unedig (DU) heddiw, mae cyflwyniad i’r adroddiad sy’n dwyn y teitl ‘Datganoli a Dyfodol yr Undeb’ (Uned Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain: Ebrill 2015) yn esbonio bod yr “undeb economaidd yn rhoi marchnad sengl i’r DU, gydag arian sengl a threfn ariannol ganolog gref.

“Mae’r undeb cymdeithasol yn darparu undod cymdeithasol sy’n rhwymo’r DU at ei gilydd, trwy ailddosbarthu refeniw, ac yn cronni a rhannu’r risg trwy fudd-daliadau lles a phensiynau.

“Yn yr undeb gwleidyddol, mae pob rhan o’r DU yn cael ei gynrychioli yn Senedd San Steffan, sy’n rheoli’r undebau economaidd a chymdeithasol, ac fel y Senedd sofran ei hun yn gallu ail-lunio’r undeb gwleidyddol.”

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn mynd ymlaen i dynnu sylw fod “Whitehall yn brin o’r gallu i feddwl am yr Undeb am ei fod wedi gwthio materion datganoli i’r ymylon” a bod “llunio polisïau datganoli bellach wedi dod yn fater rhuthro hyd at bwynt o fyrbwylltra.”

Caiff yr arsylw hwn ei adlewyrchu yn yr adroddiad ‘Confensiwn Cyfansoddiadol’ (Sefydliad Materion Cymreig: Ebrill 2015) o’r un mis sy’n honni bod “polisïau ledled y DU a’r undeb wedi cael eu trin mewn ffordd ad-hoc a dull adweithiol ac ni fu fawr meddwl cydlynol i fynd i’r afael â rôl yr undeb yn ei gyfanrwydd.”

Niweidiol i Gymru

Yn ddiddorol, mae’r ymatebwyr i’r confensiwn yn teimlo bod “polisïau Llywodraeth y DU yn aml yn niweidiol i Gymru ac nid yn gweddu â graen y farn gyhoeddus” a bod yna “ddiffyg gweledigaeth am yr hyn y dylai’r undeb darparu ar gyfer pob person yn y DU gwaeth a ydynt yn byw yn Belfast neu Fangor.”

Mae’r heriau hyn wedi dod yn fwy i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf trwy’r gwahaniaethau gwleidyddol sy’n cynyddu ar draws y pedair gwlad yn ogystal â’r dadleuon egnïol am Bleidleisiau Saesneg ar gyfer Cyfreithiau Saesneg, ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban, a Mesur Cymru 2016-17.

Er enghraifft, mae ymgynghoriad ar yr opsiynau dylunio ar gyfer Senedd i Loegr ar hyn o bryd ar y gweill yn yr Uned Cyfansoddiad, Coleg Prifysgol Llundain.

Mae canlyniad y refferendwm Undeb Ewropeaidd (UE) ym mis Mehefin 2016 wedi cymhlethu digwyddiadau ymhellach, yn enwedig o ran pennu’r broses gyfansoddiadol gywir ar gyfer sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon.

Yn Rhagfyr 2016, clywodd Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig achosion dros ac yn erbyn a ddylai’r Senedd neu’r Llywodraeth cael yr awdurdod i gychwyn y broses ar gyfer gadael yr UE.

Wrth siarad ar ran Llywodraeth Cymru a’r prif weinidog Carwyn Jones, pwysleisiodd y bargyfreithiwr cyfraith gyhoeddus Richard Gordon PC, yn ei gyflwyniad ysgrifenedig, bod y DU yn awr yn “gymdeithas wirfoddol o genhedloedd sy’n rhannu ac yn ailddosbarthu adnoddau a risgiau rhyngom at ein budd ac i hyrwyddo ein diddordebau cyffredin.”

Ymhelaethodd drwy egluro bod y Cynulliad yn defnyddio llu o bwerau drwy gyfraith yr UE a bod “datganoli yn ymwneud â sut mae’r DU yn cael ei llywodraethu ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth nad ydynt mewn perthynas hierarchaidd un i’r llall.”

Mae tôn yr honiad hwn yn arwyddocaol achos mae’r geiriau yn cyfeirio at fframwaith berthynas sydd yn fwy led-ffederal rhwng y pedair gwlad yn hytrach na’r model pwerau datganoledig a gadwyd yn ôl o fewn y wladwriaeth unedol trosafael.

Os oedwn am eiliad, ni ddylem danbrisio i ba raddau bod mynediad y DU i’r UE yn ystod y 1970au wedi tawelu mesur o ddadrithiad canfyddadwy ar draws ein hynysoedd ar adeg pan ‘roedd materion cyfansoddiadol newydd gael ei harchwilio’n fanwl gan y Crowther / Kilbrandon Brenhinol Comisiwn, a arweinyddiodd at refferenda datganoli Mawrth 1979 yng Nghymru a’r Alban.

Gellid awgrymu bod aelodaeth o’r UE wedi hybu a hyrwyddo parch at yr amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog bobloedd y DU a’r ieithoedd a siaredir.

Ron Davies, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a ddywedodd cyn dyfodiad y Cynulliad yn 1999 mae “proses yw datganoli ac nid digwyddiad”.

Er yn gwbl briodol ar y pryd, roedd yn ddatganiad a anwyd, go debyg, o gydnabyddiaeth y byddai’r trefniadau ar gyfer Cymru yn cyfyngu’r tebygolrwydd o gynnydd o’r cychwyn, yn enwedig o’i chymharu â’r pwerau cadarn a gynigwyd i’r Alban.

Taith ansicr

Mae’r daith ers hynny wedi bod yn un o ansicrwydd, diffyg cyfeiriad strategol.

Crynhodd yr Arglwydd Elystan Morgan y safbwynt hwn yn ddiweddar drwy egluro: “Pan fyddwch yn delio â chyfnod hir o drosglwyddo pwerau bach, ddydd ar ôl dydd … ydych yn creu sefyllfa sydd bron yn gwarantu rhywfaint o niwrosis cyfansoddiadol ar ran cyfreithwyr Gymraeg.”

Roedd yn honni ymhellach fod “y Mesur Cymru 2016-17 yn ddiffygiol iawn a glasbrint ar gyfer methiant a thrychineb” yn enwedig oherwydd y “ffaith bod tua dau gant o bwerau wedi ei dal yn ôl —ac mae ei natur yn gwneud y mater yn nonsens.”

Ydy yn canlyn fod strwythur llywodraethu dibyniaeth yn arwain at ddiwylliant o ddibyniaeth, ac er gwaethaf dadleuon huawdl i’r gwrthwyneb, mae proffil economaidd rhannau cyfansoddol y DU yn tystio’n anghyfforddus?

Yna a yw system y wladwriaeth unedol, gyda datganoli wedi’i gynnwys fel atodiad, i’w gymharu’n lletchwith i’r berthynas rhwng rhiant/gwarcheidwad a pherson ifanc o ran datblygu atebolrwydd a chyfrifoldeb?

Ai dim ond drwy geisio mwy o annibyniaeth y bod unigolion yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a derbyn canlyniadau eu gweithredoedd mewn pryd—gan gymryd i ystyriaeth y pryderon dilys a safbwyntiau pobl eraill er budd ehangach?

Mewn termau cenedlaethol, mae yna wir wahaniaeth clir rhwng y golygfeydd dirfodol ac iwtilitaraidd o hunanlywodraeth.

Mae’r cyntaf yn galw am fwy o ymreolaeth syml oherwydd y gred ei bod yn hawl naturiol i genhedloedd, a’r olaf yn ei ystyried fel llwybr at greu gwell cymdeithas – i gyflawni’r uned wleidyddol fwyaf effeithiol er mwyn sicrhau’r twf economaidd a chyfiawnder cymdeithasol y mae pobl yn ei haeddu.

Gan ystyried ein bod i gyd yn y bôn yn gysylltiedig yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol yn y cyfnod modern trwy brofiadau a rennir yn ddiwydiannol, gwleidyddol a rhyngwladol, mae’r cwestiwn hwn yn annog gwahanol ymatebion gan ddibynnu ar le mae un yn rhoi pwyslais ar y raddfa mesur economaidd i gymdeithasol.

Ffordd arall o ddisgwyl ar y broblem a allai fod gofyn sut y gallem rymuso yn well bobl yr ynysoedd hyn o Lands End i John o ‘Groats a Londonderry i Newcastle i wella safonau byw a boddhad personol drwy system wleidyddol a pholisïau dilynol sy’n hyrwyddo llwyddiant economaidd yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang wrth gynnal diogelwch mewnol ac allanol.

Os ydym yn wir agosáu at groesffordd o ryw fath ar ein taith ynys, mae angen trafodaeth drylwyr o’r modelau amgen priodol o lywodraethu drwy Gonfensiwn Cyfansoddiadol.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5136/
2017-03-13T00:00:00+1:00Galwadau gwirion y ffyliaid gor wleidyddol
Rwy am gychwyn heddiw gyda chân werin newydd, os nad ydi hynny'n wrth-ddweud:

Ffarwel i Gaws Caerffili,

Ffarwel i Halen Môn,

Ffarwel i Roc Pwllheli,

Amdanynt ni fydd son…

Gallwn fynd ymlaen i gynnwys Cwrw Llŷn a Phenwaig Nefyn, Tatws Penfro a Theisennau Berffro. Dyna'i chi Gaws Cenarth wedyn a Rhofiau Aberaeron. Cyn hir, os caiff un garfan ei ffordd byddant oll yn diflannu. Hynny yw, eu henwau.

Darllen wnes i am alwad ddiweddaraf y ffyliaid gôr wleidyddol gywir sy'n ymddangos fel madarch y dyddiau hyn. A'r diweddaraf yw un o'r rhai mwyaf gwirion hyd yma. Ac mae hynna'n ddweud mawr. Myfyriwr sydd wrth wraidd y gri o'r galon. Ydych chi'n synnu? Ffromodd y ceidwad sensitifrwydd hwn wrth weld ar fwydlen yn Pembroke College yng Nghaergrawnt bryd o fwyd wedi ei enwi'n Stiw Jamaicaidd ymhlith y prydau oedd ar gael.

Dilynwyd hyn gyda chwŷn am gynnwys Cyw Iâr Tsieineaidd. Yna dyma gŵyn am gynnwys Pastai Pysgod Indiaidd a Reis Tiwnisiaidd. Ond fel petai hynna ddim yn ddigon drwg mae awdurdodau'r coleg wedi gado y gwnawn nhw adolygu eu polisi er mwyn amddiffyn myfyrwyr rhag unrhyw 'gamarweiniad diwylliannol'. Ydi, mae disgrifio stiw bîff a mango fel stiw Jamaicaidd.

Disgrifiodd cefnogwr i'r alwad yr hyn sy'n ymddangos yn llawer rhy aml ar fwydlenni fel 'micro aggression', beth bynnag yw ystyr hynny. Ofnaf fod cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhemp.

Y tristwch yw bod sefydliadau yn plygu i alwadau dwl fel hyn. Nododd y newyddiadurwraig Libby Purves rybudd ar raglen perfformiad gan y Royal Court Theatre yn rhybuddio aelodau o'r gynulleidfa o'r posibilrwydd o ddioddef 'trallod eithafol'. Dylai Radio Cymru gynnwys rhybudd tebyg cyn y rhaglen sy'n cychwyn ychydig wedi dau o'r gloch y prynhawn yn ddyddiol.

Mae rhai prifysgolion yn awr yn cyhoeddi eu bod yn caniatáu i unrhyw un mewn darlith sy'n cynnwys rhywbeth sy'n eu trallodi adael y ddarlith honno. Y pynciau sy'n berthnasol yw ffotograffiaeth, y gyfraith, gwleidyddiaeth ac - o bob pwnc - gwyddor fforensig! Fedrwch chi astudio gwyddor fforensig heb ddangos delweddau a allant beri trallod?

Yn Rhydychen mae un o ddarlithwyr y gyfraith yn caniatáu i fyfyrwyr hepgor trafod troseddau rhyw. Yng Ngholeg Harvard yn America argymhellwyd na ddylid wrth astudio'r gyfraith drafod y gyfraith parthed trais rhywiol o gwbl am y gallai hynny achosi trallod i'r myfyrwyr sy'n dilyn y cwrs. Yn America eto mae rhai cyhoeddwyr llyfrau bellach yn cyflogi darllenwyr i graffu ar gynnwys llyfrau rhag ofn eu bod yn cynnwys, ac yma rwy'n dyfynnu, 'anything which might be culturally less than tactful, or indicate bias, stereotypes or negatively charged language about gender, race, disability or sexual representation.' Faint o lyfrau wnaent fodlonai’r rheol honna? Ddim llawer.

Wn i ddim beth sydd wedi digwydd i rai myfyrwyr. Yn y gorffennol disgwylid i bob myfyriwr gwerth ei halen i wrthwynebu'r fath rwtsh yn hytrach na'i annog. Fy ngofid mwyaf i fel myfyriwr yn Aber oedd gwybod a fyddai loc-in yn y Skinners. Dyna pam mai dim ond dwy flynedd wnes i bara yno.

Heddiw mai camenwi pryd o fwyd yn Jamaican Stew yn ddigon i yrru rhai i apoplecsi. Chwarae teg i un myfyriwr yn Pembroke College gofynnodd yn wylaidd a oedd ganddo hawl i fwyta Yorkshire Pudding?

Mae hyn oll yn gwneud i mi ofyn hyn: oes hawl gan Brifysgol Caergrawnt i alw un o'i cholegau yn Pembroke College? Dim ond gofyn.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5097/
2017-03-03T00:00:00+1:00Gwahodd Pantycelyn a Bob Dylan i ginio
Ddydd Sul yr 11eg o'r mis hwn roedd hi'n ben-blwydd William Williams Pantycelyn. Fe'i ganwyd 300 mlynedd i'r diwrnod.

Edrychais ymlaen at raglen addas ar S4C. Fe'i cefais ar ffurf 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'. Da fu dewis Gwawr Edwards i gyflwyno. Trueni na chafodd hefyd ganu un o galsuron y Pêr Ganiedydd. Da fu gwrando ar eiriau deallus Wyn James am Williams y dyn a'r emynydd, ei fywyd a'i waith.

Ond ai dyma oedd ac a fydd swm a sylwedd S4C fel dathliad? Os hynny, caf fy siomi'n fawr.

Onid yw bardd crefyddol mwyaf Ewrop, chwedl Gwenallt, yn haeddu rhaglen ddogfen swmpus? Neu hyd yn oed ffilm? Hwyrach y bydd yna raglen neu ffilm. Dydw'i ddim yn dal fy anadl. Ond os oes yna fwriad, onid hwn oedd yr amser i ddangos y fath raglen?

Fe wnaeth Radio Cymru dalu cryn sylw i'r digwyddiad. A diolch i'r Doctor Derec Llwyd Morgan am ei eiriau call ar wefan BBC Cymru Fyw. Nododd fod dathliad canmlwyddiant Roald Dahl ac un Dylan Thomas wedi derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Ni chyfrannwyd yr un geiniog tuag at ddathliad tri chanfed penblwydd Pantycelyn. Mae hyn yn dweud y cyfan amdanom fel cenedl.

Fe wnaeth Derec grynhoi'n berffaith y sefyllfa sydd ohoni.

"Wrth gwrs," meddai, "y mae gwerth masnachol i enwau Dylan Thomas a Roald Dahl; gallant ddenu Americaniaid ac eraill i dreulio'u gwyliau yng Nghymru a llenwi tipyn ar goffrau'r hen wlad. Am Williams, efallai y bydd llond ugain bws o gapelwyr sy'n dotio ar ei lu emynau yn ymweld â'r hen ffarm lle trigodd gynt y tu allan i Lanymddyfri, ond dyna'r oll."

Byddaf yn troi at emynau Williams byth a hefyd. Yn wir byddaf yn meddwl amdano'n aml. Dychmygaf ei weld ar ei geffyl yn marchogaeth heibio. Ac fe fu yn y cyffiniau hyn. Bu yn ysgoldy Pengarn filltir o'm cartref a chredir iddo hefyd ymweld â naill ai Ystrad Meurig neu Dŷ'n-y-graig.

Yn aml bydd holiaduron mewn papurau neu gylchgronau yn holi pobl amlwg. Un cwestiwn a gynhwysir yn aml yw: pwy fyddech chi'n wahodd i ginio? Mae gen i ateb parod sef Pantycelyn a Bob Dylan. Pam Bob Dylan, medde chi? Wel, fe wnaeth yntau gyfansoddi emynau, rhai ohonynt yn dra eneidiol. Un ohonynt yw 'I Believe in You.'

Dyma i chi rai llinellau:

I believe in you when winter turns to summer,

I believe in you when white turns to black,

I believe in you even though I be outnumbered,

Oh, though the earth may shake me,

Oh, though my friends forsake me,

Oh, even that couldn't make me go back.

Dyna braf fyddai cael gwrando ar y ddau'n mynd drwy eu pethe. Ac o feddwl am Williams a'r miloedd milltiroedd a deithiodd o fan i fan, byddai geiriau emyn a recordiwyd gan Bob ddwy flynedd yn ôl, 'Stay with Me' yn hynod addas:

I grow cold, I grow weary

And I know I have sinned

And I go, seeking shelter

And I cry in the wind;

Though I grope and I blunder

And I'm weak and I'm wrong,

Though the road buckles under

Where I walk, walk along,

Till I find to my wonder

Every path leads to Thee,

All that I can do is pray,

Stay with me

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/5052/
2017-02-23T00:00:00+1:00Ymchwil am gathod yn wastraff amser llwyr
Bûm wrthi'n ateb cwestiynau ar gyfer holiadur yn ddiweddar, holiadur oedd yn llawn cwestiynau dibwys. Dyna yn syml swm a sylwedd holiaduron y dyddiau hyn. Byddant bob amser yn gofyn am eich atgof cyntaf, eich cariad cyntaf, eich hoff lyfr ac ati. Ond roedd yna un cwestiwn annisgwyl yn hwn sef gofyn ai person ci ai person cath oeddwn i?

Dyma, yn wir, gwestiwn a'm lloriodd. Am 16 mlynedd bu gen i gi o'r enw Jac. Ie, Jac Rysel oedd e a ddaeth yn aelod o'r teulu. Pan gollwyd Jac, torrais fy nghalon. Doedd gen i ddim byd i'w ddweud wrth gathod. Yna fe'm mabwysiadwyd gan gath. Yn raddol etifeddodd Drachma le Jac ar yr aelwyd.

Yn anffodus felly ni fedrwn ateb y cwestiwn arbennig hwnnw yn yr holiadur, sef ai person ci neu berson cath ydw i. Rhaid fu i mi eistedd ar y ffens, un o arferion Drachma. Yr hyn a'i gwna'n amhosib i ddewis yw bod cŵn a chathod mor wahanol i'w gilydd. Fel y dywedodd rhywun unwaith, bydd ci yn neidio i'ch côl am ei fod yn eich caru. Bydd cath yn neidio i'ch côl am ei bod hi'n gynnes yno.

Greddf amlycaf ci fel arfer yw ei ffyddlondeb dall. Greddf amlycaf cath yw ei hannibyniaeth. Cath yw'r unig greadur sy'n medru edrych fyny arnoch tra'n edrych lawr arnoch yr un pryd.

Mae gen i gyfaill sydd, fel fi, yn berson ci ac yn berson cath. Cofiaf gi ganddo a enwodd yn Bisto. Nid am ei fod yn lliw grefi ond am mai Bisto yw'r gair am gi bach yn yr ardal hon. Bu ganddo gath a enwodd yn Indi, sef talfyriad o 'Independent'. A dyna'r enw mwyaf addas ar gath a fathwyd erioed.

Y rheswm am i mi droi at gathod yr wythnos hon yw'r ffaith fod yna ganlyniadau arolwg arall eto fyth newydd ei gyhoeddi. Do, bu rhyw arbenigwyr heb ddim byd gwell i'w wneud yn astudio nodwddion cathod. Swm a sylwedd canlyniadau'r astudiaeth yw fod i gathod wahanol bersonoliaethau. Awdur yr astudiaeth holl-bwysig yw'r Doctor Lauren Finka.

Astudiodd y Doctor 200 o gathod ar gyfer ei draethawd PhD ym Mhrifysgol Lincoln. Doedd gwahaniaeth brîd ddim yn cael ystyriaeth. Mae'r cyfan i'w wneud â 'rhyngweithiad cymhleth rhwng nodweddion genetig ac anianawd y rhieni.' Deall? Na finne chwaith. At hyn rhaid ychwanegu DNA'r creadur a'i brofiadau wrth ddatblygu i fod yn oedolyn. A'r canlyniad? Mae gan gathod bum gwahanol bersonoliaeth.

Y categori cyntaf yw Cath Ddynol. Bydd Cath Ddynol yn hapus i siario'n bywyd a'n lle byw personol. Dydi cathod ddim yn cael eu geni i ymserchu ynom yn naturiol. Na, rhywbeth a feithrinir yw cariad cath at berson, hynny'n cychwyn pan mae'r creadur yn bythefnos oed. Mae'n dewis eich côl fel lle i orwedd ac yn tylino'ch cnawd â'i hewinedd.

Cath Hela yw'r ail. Genir cath i fod yn heliwr naturiol. Mae'n arddangos ei greddf wrth afael mewn tegan a'i gicio â'i phawennau. Wel, wel, pwy feddyliai!

Cath Cath yw'r nesaf. Mae Cath Cath yn datblygu perthynas bositif â chathod eraill. Mae hyn, yn y bon, yn groes i'w natur. Waw! Syrpreis!

Y nesaf, Cath Gwerylgar. Nid yw hon yn hoffi cael ei chyffwrdd. Myn gael ei gofod personol ei hunan. Ni hoffa faldod. Hi fydd yn cymryd y cam cyntaf nid chi.

Yn olaf cawn y Gath Chwilfrydig. Daw ei thuedd i ymchwilio o gyfuniad o'u DNA a'i hymateb i seiniau, aroglau a golygfeydd newydd. Rhaid ymchwilio i bob bocs, bag llaw neu unrhyw beth dieithr a wna ymyrryd ar ei hamgylchedd.

Yn ôl Freud, dydi treulio amser gyda chath fyth yn wastraff amser. Ond ofnaf mai gwastraff amser llwyr fu ymchwil y Doctor Finka. Mae'n ddrwg gen innau wastraffu'ch amser chwithau.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4974/
2017-01-31T00:00:00+1:00Atgofion ymweld â chytiau yfed Ynys Lewis
RWYF wedi sôn yn y golofn hon am Sianel Aeleg BBC Alba o’r blaen. Byddaf yn gwylio dipyn arni, gan fod cymaint o raglenni cerddoriaeth draddodiadol i’w cael. Hefyd, ceir sawl rhaglen ddiddorol am fywyd yn yr ardaloedd Gaeleg eu hiaith.

Yr unig beth sy’n amharu ar y mwynhad, weithiau, yw’r ffaith fod is-deitlau i’w darllen ac, o’r herwydd, mae rhywun yn colli llawer o’r naws gwreiddiol er bod wynebau’r siaradwyr yn cyfleu llawer mwy na’r ysgrifen ar waelod y llun ambell dro.

Bûm yn gwylio rhaglen ddifyr dros ben un noson. Rhaglen oedd hon yn olrhain hanes y bothan, neu’r cytiau yfed anghyfreithiol a fodolai ar Ynys Lewis, a hynny drwy atgofion rhai a fu’n yfed ynddynt.

Cyn gallu mwynhau’r rhaglen, rhaid cofio fod gafael yr enwadau crefyddol yn llym iawn ar fywyd yr ynyswyr – sefyllfa sy’n dal i fodoli i raddau hyd heddiw.

Pan es yno am y tro cyntaf yn ystod y saithdegau, canfyddais nad oedd siop na chaffi na dim oll ar agor ar y Sul, hyd yn oed yn Stornoway, sef prif dref yr ynys.

Ond tan yn gymharol ddiweddar, tua dechrau’r wythdegau, doedd yr un tŷ tafarn na chlwb swyddogol i’w gael y tu allan i Stornoway gan y dynodwyd y plwyfi yn blwyfi ‘sych’ – a hynny bob dydd o’r wythnos ac nid ar y Sul yn unig fel yng Nghymru ers talwm.

Pan es yno gyntaf, euthum i bentref Ness, sydd yng ngogledd yr ynys. Yr oedd pethau’n dechrau llacio bryd hynny, tua diwedd y saithdegau.

Yng nghanol y pentref, yr oedd tŷ bwyta/caffi oedd yn ddim amgenach na thafarn.

Yn ôl y rheolau, yr oedd gennych hawl i gael diod gyda’ch bwyd.

Yr hyn a welais pan es i mewn oedd criw o bobl, llawer ohonynt yn ddynion, o gwmpas byrddau yn yfed cwrw a wisgi.

Wrth ochr pob un yr oedd platiad o frechdanau gyda’u hymylon wedi troi i fyny fel adenydd gwylan a oedd yn ‘brawf’ fod y cwsmer wrthi’n ‘bwyta’ felly gyda’r hawl i gael diod.

Ffars lwyr, wrth gwrs. Erbyn yr ail dro, deng mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd yr adeilad yn dafarn gyfreithlon, heb yr angen am frechdanau ar ymyl y bwrdd.

Ond sôn am y bothan, neu’r cytiau yfed anghyfreithlon a wna’r rhaglen. Yn ystod y dauddegau a’r tridegau, pan symudodd y trigolion o’u hen dai tywyll i dai newydd, cafodd rhai o’r dynion y syniad o ddefnyddio ambell un o’r tai a adawyd fel cytiau yfed anghyfreithlon.

Gan nad oedd tafarn yn y pentref a dim gwasanaeth bws gwerth sôn amdano, ni ellid mynd i Stornoway am beint, felly dyma’r ateb i’r broblem. Dros y blynyddoedd defnyddiwyd adeiladau eraill, carafanau a hyd yn oed hen fws at y diben hwn.

Byddai dynion yr ardal, a dynion yn unig, yn ymgasglu i yfed yn y cwt, gyda rhai ohonynt yn gyfrifol am gael cyflenwad o gwrw a wisgi. Taflai pob un a oedd yno bres i fwced er mwyn talu am y ddiod.

Gaeleg oedd yr iaith a chan fod culni crefyddol yn gaethiwus iawn, dyma’r lle y cai’r caneuon a’r straeon eu cadw’n fyw.

Anaml iawn y cai rhywun dieithr wahoddiad i’r bothan ac felly cadwyd yr Aeleg fel cyfrwng.

Yn aml, byddai’r cwrw yn cyrraedd o Stornoway ar gefn lori neu yng nghefn fan fara neu nwyddau eraill, wedi eu cuddio rhag yr heddlu.

Gwyddai’r rheiny am fodolaeth y cytiau hyn wrth gwrs ond dim ond ar anogaeth yn dilyn cwyn gan rywun sych-dduwiol y byddent yn gweithredu.

Pan es i Lewis am y tro cyntaf, roedd achos llys enwog wedi cael ei gynnal yn erbyn dau ddyn a gyhuddwyd o redeg lle yfed anghyfreithlon a adnabyddwyd fel yr ‘Eoropie Bothan’.

Yn ystod yr achos, cyflwynodd heddwas y dystiolaeth yma (cyfieithiad gennyf fi):

Cwestiwn: “Beth ddaru chi ganfod yn y cwt?”

Heddwas: “Pedair casgen lawn o gwrw, 415 can o gwrw, poteli rym a wisgi a dwsinau o wydrau cwrw a gwirodydd.”

Ac yna, y datganiad rhyfeddol: “Deuthum i’r casgliad fod hwn yn lle a ddefnyddiwyd ar gyfer yfed!”

Er mwyn profi’r achos , rhaid oedd cael tystion i’r ffaith iddynt yfed yn y cwt, ond trodd hyn i fod yn ffars lwyr.

Dyma’r math o holi ac ateb a ddigwyddodd:

Ynad: “A oeddech chi yn prynu diod bob tro?”Tyst: “Dibynnu faint oeddwn am aros.”

Ynad: “Sut ydych yn cael mynediad i’r bothan?”

Tyst: “Trwy’r drws!”

Ar ddiwedd yr achos, cafwyd dau ddyn yn euog am werthu cwrw yn anghyfreithlon a chael dirwy o £100 yr un.

Cofiaf sefyll y tu allan i bothan Eoropie yn fuan wedi’r achos a gweld y slogan ‘HANDS OFF EOROPIE BOTHAN’ wedi ei baentio yn Saesneg, am ryw reswm, ar y wal y tu allan.

Daeth cyfnod y cytiau yfed i ben ar ddechrau’r wythdegau pan newidiwyd ardal Ness o fod yn un ‘sych’ i un ‘wlyb’.

Yn ogystal â’r dafarn yng nghanol y pentref, agorwyd clwb cymdeithasol gan y clwb pêl-droed lleol ac yno y bûm un noson yn cael profi awyrgylch y ‘bothan’ cyfreithiol. Er ei fod yn llawer mwy ffurfiol, doedd dim parch at oriau yfed swyddogol, chwaith!

Os am fwynhau’r rhaglen, gellir ei chanfod ar BBC iPlayer – Chi mi anns a’ Bhothan Thu.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4964/
2017-01-27T00:00:00+1:00Dwy ffrind o bentref 'un lamp stryd' yn chwarae rygbi i Gymru
AR ôl y prawf cyntaf rhwng Awstralia a’r Llewod yn 2013 ymddangosodd llythyr yn un o bapurau newyddion Lloegr. Albanwr a ysgrifennodd y llythyr a byrdwn ei neges oedd cwyn am mai dim ond dau Albanwr a gafodd eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y prawf hwnnw.

Yr wythnos wedyn, cafwyd ateb i’r llythyr gan Gymro o orllewin Cymru. Yr hyn a ddywedodd oedd na ddeallai pam y cwynai’r Albanwr am hyn gan nad oedd ond dau o bentref Bancyfelin yn y tîm! Cyfeiriai at Mike Phillips a Jonathan Davies, y ddau’n dod o’r pentref bychan hwnnw’r ochr arall i Gaerfyrddin.

Daeth yr hanes hwn i gof pan welais fod dwy o ferched Padog wedi chwarae i dîm merched Cymru – dwy o’r pentref bach hwnnw ym mhen uchaf Dyffryn Conwy yn yr un tîm.

Gyda balchder y cyhoeddwyd ar dudalen blaen Yr Odyn – papur bro Nant Conwy, yr ardal y mae Padog yn rhan ohoni: “Dwy o Badog yn chwarae i’r Tîm Rygbi Cenedlaethol.”

Enw’r ddwy yw Dyddgu Hywel a Gwenllian Pyrs, neu Dyddgu Tai Duon a Gwen Tŷ Mawr i’r trigolion lleol a soniaf fwy amdanynt eto.

Ond lle yn union mae Padog? Wel, pan ydych yn teithio ar hyd yr A5 o Fetws y Coed am Bentrefoelas fe ddowch at droadau drwg gyda phont yn eu canol. Dros y blynyddoedd, cafwyd llawer o ddamweiniau yma ac, yn anffodus, oherwydd hynny y daeth llawer o bobl i wybod am y lle hwn.

Newydd i chi fynd dros y bont, dyma le y saif pentref Padog, er prin y gellir galw capel a rhyw ddau dŷ yn bentref, eithr rhan o ardal yw Padog sydd ar flaen Cwm Eidda, cwm o nifer o ffermydd ac yn ardal hollol Gymraeg ei hiaith.

Mae’r pentref ei hun mor fychan nes y ceir yr arwydd mynd i mewn a dod allan ar yr un polyn, bron! Ei faint a olygai y gallai’r diweddar D O Jones, o fferm Tŷ Uchaf yn y cwm lunio englyn i ‘Lamp Drydan Padog’ sef un lamp stryd y lle:

‘Yn llusern fodern safadwy – hi saif

Yn ei swydd fel meudwy;

Goleua ‘ngham wrth dramwy

I le mawl y golau mwy.’

Go brin y gellid cael englyn fel hwn i unrhyw le arall sydd â dwy (neu ddau) o’r trigolion wedi chwarae dros eu gwlad a hynny yn yr un tîm!

Hyd at ddiwedd y saithdegau, doedd rygbi ddim yn bodoli, i bob pwrpas, yn yr ardal hon.

Yna, ym 1980, sefydlwyd Clwb Rygbi Nant Conwy ac mae’r gweddill, ys dywedant, yn hanes.

Dau a fu’n chwarae i’r clwb ar y cychwyn oedd Hywel Tai Duon ac Eryl P., dau o’r fro hon ac, wedyn, fel y datblygodd pethau, daeth Dyddgu merch Hywel a Gwenllian, merch Eryl P. i chwarae’r gêm ac erbyn hyn, i gyrraedd y brig.

Enillodd rygbi ei blwyf fel un o brif gemau ysgolion y dyffryn ac mae llawer yn dal ati i chwarae i Nant Conwy ar ôl gadael yr ysgol.

Mae Padog, ac Ysbyty Ifan gerllaw yn un o’r cadarnleoedd Cymraeg sy’n weddill yn y Gymru hon a’r Gymraeg mor naturiol ar y cae rygbi ag yw yn y cartref ac yn yr ysgol.

Enillodd Dyddgu sawl cap yn barod ac wrth ei gwaith, mae’n ddarlithydd i’r Coleg Cymraeg yng Nghaerdydd.

Ar y llaw arall, ennill ei chap cyntaf a wnaeth Gwenllian, sydd yn dal yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy.

Ei diddordeb mawr arall yw rhedeg cŵn mewn treialon cŵn defaid ac wedi cynrychioli Cymru yn y gyfres deledu ‘One man and his dog (er i’r gyfres honno fod ar ei hôl hi yn newid ei theitl!).

Does dim llawer yn gallu dweud iddynt chwarae dros eu gwlad gyda chyfoedion o’r un ysgol gynradd fechan wledig a hwy, ac yn byw o fewn tafliad carreg i’w gilydd.

Go dda yn wir a does ond gobeithio y byddant yn chwarae dros eu gwlad am flynyddoedd i ddod.

A tybed a oes mwy ar y ffordd o’r un ardal?

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4924/
2017-01-17T00:00:00+1:00Ymgais i dawelu ceidwad effro hawliau pobl rydd am byth
Rhyddid y wasg yw un o brif bileri unrhyw gyfundrefn wâr. Pan fo cyfundrefn yn troi'n dotalitaraidd, cam cyntaf pwy bynnag sy'n llywodraethu yw gosod cyfyngiadau ar newyddiaduriaeth. Sensoriaeth yw'r ateb.

Mae'r hyn a ddigwyddodd yn Nhwrci nôl yn yr haf yn enghraifft berffaith o'r hyn a all ddigwydd. Yn dilyn ymgais i ddymchwel y Llywodraeth, cam cyntaf yr awdurdodau dan arweiniad Recep Tayyip Erdo?an fu carcharu newyddiadurwyr a chau gorsafoedd radio a theledu. Yn Hhweci heddiw mae miloedd dan glo heb iddynt erioed wynebu llys barn.

Yma yng ngwlad rydd Prydain Vawr mae'r fwlturiaid yn hofran uwchben yr hyn a all arwain at gorff gwasg rydd. A'r hyn sy'n rhyfeddol yw nad elfennau'r dde eithafol yn unig sydd yn bygwth. Yr un mor wrthwynebus i wasg rydd mae elfennau'r chwith. Yn ganolog i'r bygythiad mae selebs hunanbwysig. Mae hynny'n golygu fod sbectrwm gelynion gwasg rydd yn amrywio o Max Mosley, mab y Ffasgydd ffiaidd Oswald Mosely i lyfis y chwith, selebs fel Hugh Grant.

Mae rheswm Grant dros lyffeitheirio'r wasg yn un amlwg. Ni faddeuodd i'r cyfryngau am ddatgelu ei fisdimanyrs gyda phutain yn Los Angeles. Mae rheswm Mosely yn un llawer mwy sinistr. Mosely wnaeth sefydlu'r mudiad Impress. Ef sy'n ei ariannu. Ei nod yw gorfodi pob papur newydd i ddod o dan ymbarel Impress. Byddai hynny'n golygu nid yn unig sbaddu gwasg rydd. Byddai hefyd yn golygu gorfodi unrhyw bapur newydd na fyddai'n aelod i dalu holl gostau achos llys hyd yn oed petai'r papur yn cael ei ddyfarnu'n ddieuog o gyflawni enllib.

Yn 2008 fe ddatgelwyd gan y News of the World fod Mosley wedi trefnu gloddest anllad yng nghwmni puteiniaid ar thema Natsiaidd. Enillodd Mosley'r achos ar bwynt technegol. Canlyniad hyn yw iddo ddial ar y wasg rydd drwy ariannu Impress gyda chyfraniad ariannol o £3.8 miliwn.

Hyd yma does yna'r un papur newydd o bwys wedi ymuno ag Impress. Ond os wna'r Llywodraeth benderfynu mabwysiadu Impress fel corff swyddogol ni fydd yr un papur newydd yn ddiogel.

Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Impress yw Wilfrid Vernor-Miles, twrne o Lundain. Mae'n ymddiriedolwr hefyd i Gymdeithas y Pab Pius X, enwad Catholig sy'n amlwg am ei safbwyntiau gwrth-Semitaidd. Fe'i sefydlwyd yn 1970 gan yr Archesgob Marcel Lefebvre, gŵr a ddisgrifiodd arweinydd y Vichy, Marshall Philippe Petain fel arwr. Roedd Petain yn fradwr a gefnogodd y Natsiaid a'i gael yn euog o deyrnfradwriaeth. Yn 1989 cafodd aelod enwog o'r mudiad, Paul Touvier ei ddyfarnu'n euog o ddienyddio saith Iddew.

Ddeufis yn ôl derbyniwyd Impress fel ceidwad safonau'r wasg gan gwango ar ran y Llywodraeth. Ond does neb o hyd wedi dewis dod o dan fantell Impress. Dewisodd papurau fel y Guardian, y London Evening Standard a'r Financial Times reolaethu eu hunain. Dewisodd y Sun, y Daily Mail, y Times a'r Telgraph ymuno ag IPSO (Independent Press Standards Organisation).

Pan lansiodd David Cameron ei Siartr Brenhinol ar reolaethu'r wasg yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2013 dyfynodd eiriau Winston Churchill. "Gwasg rydd yw ceidwad effro pob hawl a gânt eu trysoru gan bobl rydd – dyma elyn peryclaf gormes."

A dyma eiriau Cadeirydd IPSO, Syr Alan Moses: "Bydd gwasg gwledydd Prydain yn farw petai'n gorfod derbyn amodau Impress."

Os dderbynnir Impress, gallai ceidwaid effro hawliau pobl rydd gael eu tawelu am byth. A bydd pobl fel Mosley a Grant yn dawnsio ar fedd gwasg rydd.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4905/
2017-01-11T00:00:00+1:00Coffa da am y Rabbi Lionel Blue. Dyn mawr. Dyn gwaraidd
AM gyfnod nôl yn y 70au fe brofodd Bob Dylan droedigaeth i’r ffydd Gristnogol. Yna, ar ôl cyfnod o ychydig flynyddoedd trodd yn ôl at Iddewiaeth. Pan holwyd ef gan newyddiadurwr y rheswm pam iddo wneud hynny ei ateb oedd, ‘God double-crossed me in a bar in New Mexico’.

Tynnu coes oedd Bob, wrth gwrs ond derbyniwyd ei ateb fel esboniad go iawn. Ydyn, mae rhai newyddiadurwyr yn bobl hawdd eu twyllo. Ond y rheswm i mi sôn am Bob Dylan yw marwolaeth Iddew arall rai dyddiau’n ôl, hwnnw hefyd yn grefyddol ac yn dynnwr coes chwedlonol.

Bu farw’r Rabbi Lionel Blue yn 86 oed. Yn dilyn ei gyfraniad am dros 30 mlynedd i ‘Thought for the Day’ y BBC fe’i disgrifiwyd fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus gorau Duw. Yn gynnyrch un o gymunedau tlawd yr East End yn Llundain profodd gryn ddewrder yn y 70au pan ddaeth allan fel dyn hoyw. Cofnododd ei hunangofiant yn ei gyfrol ‘The Godseeker’s Guide’.

Yn dilyn ei farwolaeth ddydd Llun cafwyd llwyth o deyrngedau iddo ynghyd ag enghreifftiau o’i hiwmor unigryw. Ond y tu ôl i’r doniolwch cuddiai gwirioneddau treiddgar.

Meddyliwch, er enghraifft, am ei ddadansoddiad o arwyddion henaint. Merch ifanc yn codi i ildio’i sedd iddo ar y trên tanddaearol. Yr ysbyty’n dod yn ail gartref iddo. Bod yn un o griw o hen bobol yn yr archfarchnad sy’n cael trafferth i wthio’u trolis. Gweld henaint fel y ffordd i nunlle drwy unigrwydd a cholli ffrindiau.

Meddai: “Pan fyddwch yn mwydro, mewn ofn neu’n ddryslyd gall bywyd ymddangos fel jôc sadistaidd. Ond mae’r trawsnewidiad o ganol oed i henaint lawn mor arwyddocaol a’r trawsnewidiad o lencyndod i oedoliaeth.”

Ond dodd dim angen diflasu. Bu ei 70au, meddai, yn ddedwyddach na’i 60au, a’i 60au yn ddedwyddach na’i 50au. Ystyriai ei Dduw fel cyfaill agos o’r enw Fred. A Fred, meddai, wnaeth ei gysuro drwy ddatgan unwaith, “Pun a fyddi’n tyfu’n hen neu’n tyfu’n dew, rwyt ti’n dal i dyfu.”

Er ei gredo Iddewig diweddarach, galw ar hap mewn cyfarfod o Grynwyr wnaeth ei droi’n grefyddol. Fferwmyr oedd yr aelodau a fynychent y gwasanaethau bob dydd Iau.

Ni fedrent fod yno ar Suliau gan na fyddai ganddynt neb i ofalu am eu hanifeiliaid.

Ei ymlyniad crefyddol, meddai, fu’n gyfrifol am iddo droi’n berson ysgafn ei ysbryd a chwareus ei natur.

Yn y coleg doedd ganddo ond un tei. Pan wnaeth cyd-fyfyriwr edmygu’r dei, fe roddodd Lionel hi iddo. Dyna pryd y gwnaeth brofi gyntaf y llawenydd o roi yn hytrach na derbyn.

Dysgodd crefydd iddo, meddai, pam fu i gredo a chariad Duw gynhyrchu cymaint o gelfyddyd gain a barddoniaeth. Dechreuodd ymddiried mewn pobl, meddai, ac i hoffi’r rheiny o’i gwmpas sef rhywbeth anoddach na’u caru. Mabwysiadodd, meddai, synnwyr doniolwch, rhywbeth na fu’n rhan ohono cynt.

“Gwneuthum hefyd beidio â theimlo’n unig. Ar y cychwyn ni wyddwn ai cyfrwng a lenwai’r dymuniad am gyflawniad oedd Fred. Ond ar ôl dros 60 mlynedd mae e’n dal o gwmpas. Edrychaf arno bellach fel bod cyfansawdd o’r brawd na chefais, y cariad na wnes yn llwyr ei ganfod a’r ffrind na wnaeth erioed fy mradychu.”

Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen i’w ddyfynu. Meddyliwch am hyn: “Un o fanteision crefydd yw’r ffaith na wnaiff marwolaeth ddod fel rhyw syndod. Mae gennym felly’r amser i gofleidio’r ymwybyddiaeth ohono cyn wynebu’r ysgytwad o’i dderbyn.”

A meddyliwch am hyn: “Does yna’r un ffordd foddhaol o brofi bod yna fywyd wedi marwolaeth. Ni cheisiais erioed ymchwilio i’r posibilrwydd. Ond ni chredaf mai marwolaeth yw’r diwedd na’i fod yn ddifodiant llwyr, nid yn unig am mai dyna sut yr hoffwn i bethau fod ond am mai i’r cyfeiriad hwnnw yr arweiniwyd fi gan fy mhrofiadau crefyddol.”

Mae ei gysyniad o farwolaeth yn un cysurlon. “Hoffaf feddwl am farwolaeth fel bod mewn lolfa ymadael mewn maes awyr wrth i chi ddychwelyd adref. Fe wnewch eich hun mor gyffyrddus â phosibl. Fe wnewch ffrindiau yno. Yna, i ffwrdd a chi – nid ar amser o’ch dewis eich hun – ar gymal nesaf eich siwrnai adref.”

Meddai wedyn: “Does dim angen i chi ddisgwyl am i’r nefoedd ddigwydd. Bydd unrhyw weithred anhunanol yn wahoddiad i nefoedd fod yno.”

Ddiwedd ei oes bu’n dioddef o Parkinsons. Ond pan glywodd y deignosis, ni ddiflasodd, meddai. “Yn wir, mae’n bosib y gwnaiff marw brofi i fod yn ddigwyddiad pleserus.”

Coffa da am y Rabbi Lionel Blue. Dyn mawr. Dyn gwaraidd.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4847/
2016-12-21T00:00:00+1:00Ynys o genhedloedd parhaus - Glyndŵr Cennydd Jones yn archwilio rhai o’r heriau y gall y pedair gwlad hwynebu wrth sefydlu Ffederasiwn yr Ynysoedd
MAE sefydlu DU ffederal gyda Lloegr, fel un uned, ochr yn ochr â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cyflwyno cyfleoedd a heriau o ran setliad cyfansoddiadol arfaethedig ar gyfer yr ynysoedd hyn.

I Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yr her a gyflwynir gan strwythur o’r fath yw bod poblogaeth Lloegr yn cyfateb i dros 84 y cant o’r cyfan – yn cyfrif am tua phoblogaeth o 55 miliwn allan o 65 miliwn. Mae amlygrwydd economaidd Llundain hefyd yn ystyriaeth bwysig.

Mae Lloegr, fel cenedl, yn fwy cyfatebol i Gymru a’r Alban ar gyfer cymryd rhan mewn cyfluniad ffederal na rhanbarthau Lloegr, oherwydd mae ei chydlyniad gwleidyddol a chymdeithasol yn gryfach.

Fodd bynnag, mae senedd ffederal dwy siambr a ffurfir i gyflawni’r cyfrifoldebau a draddodir i’r lefel ganolog – fel y diffinnir gan gyfansoddiad – gyda’r siambr uchaf yn cynnwys cynrychiolwyr o Lundain, Caeredin, Caerdydd a Belfast yn codi rhai cwestiynau am nifer y pleidleisiau i neilltuo i bob cenedl, os dylanwadir gan feintiau poblogaeth.

Mae’r dull hwn yn cael ei archwilio gan David Melding yn ei lyfr Will Britain Survive Beyond 2020 (Sefydliad Materion Cymreig 2009).

Er fe fyddai Llys Cyfansoddiadol yn ymdrechu i sicrhau fod cyfrifoldebau pob lefel o lywodraethu yn cael eu gwarchod, hefyd rhaid i unrhyw fecanweithiau fydd yn sicrhau gwrth-gydbwysedd a chyflwynwyd i gefnogi rhannu pwerau yn ganolog cael ei deall yn hawdd gan y gwasanaeth sifil, gwleidyddion a’r cyhoedd i sicrhau cydlyniad a harmoni. Dewis arall fyddai fodel un siambr.

Cadw rheolaeth

Rôl y llywodraeth ffederal ganolog, yn ôl pob tebyg wedi ei leoli yn Llundain, fydda i gadw rheolaeth dros amddiffyn, arian, diplomyddiaeth ryngwladol a’r hawl i lofnodi cytuniadau rhwymol o fewn terfynau cyfansoddiad diffiniedig.

Byddai hefyd yn cynnal cyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb yn rhannu buddsoddiad llinell sylfaen, yn arbennig mewn perthynas ag ailddosbarthu cyfran o ffyniant ar y cyd a gynhyrchir drwy’r brifddinas ffederal i’r cenhedloedd.

Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddodd Canolfan Llywodraethant Gymru ym Mhrifysgol Caerdydd ei adroddiad ar Refeniw a Gwariant y Llywodraeth a nododd fod cyfanswm refeniw sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer 2014-15 yn £23.3 biliwn – tua 3.6% o gyfanswm refeniw’r DU o £648.8 biliwn.

Y ffynhonnell fwyaf o refeniw Cymru oedd treth ar werth, ac yna treth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol. Mae’r cyfansoddiad hwn yn cyferbynnu yn sylweddol gyda ffigurau’r DU gyfan le’r oedd trethi uniongyrchol fel treth incwm a threth gorfforaeth yn gyfran mwy.

Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif gwariant a reolir yng Nghymru ar gyfer yr un cyfnod fel £38 biliwn – tua 5.2% o gyfanswm gwariant y DU o £737.1 biliwn.

Diogelwch cymdeithasol oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r gwariant yng Nghymru, gan gynnwys taliadau nawdd cymdeithasol a phensiynau ac ati, yna iechyd ac addysg.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd a’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am 53% o’r cyfanswm hwn, gyda’r gweddill o’r gwariant yn priodoli i adrannau Llywodraeth y DU.

Felly, mae mwy o ddatganoli cyllidol yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mwy o bwerau ariannol

Yn y tymor canolig i’r amser hir, mae llawer yn dibynnu ar sut fydd Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd yn ymateb i fwy o bwerau ariannol, tra erys cwestiynau ar sut y dylid cefnogi y dadfachet yn ystod y newid—p’un ai drwy addasu grant bloc Cymru a/neu fenthyca.

Yn naturiol, gallai’r camau gweithredu a dewisiadau un genedl gyfansoddol gael canlyniadau negyddol neu gadarnhaol ar eraill yn y trefniant ffederal – fel yr amlygwyd yn yr adroddiad ‘A Federal Future for the UK: The Options’ (Ymddiriedolaeth Ffederal 2010).

Byddai angen ystyriaeth ddifrif o sefyllfaoedd gwahanol wrth ddynodi pwerau o fewn cyfansoddiad, gan gynnwys offer priodol ar gyfer datrys anghytundebau.

Mae’n rhaid i lywodraethau gael eu rhwystro rhag camddefnyddio unrhyw fanteision posibl sydd ganddynt ar faterion penodol. Gallai meysydd dadleuol gynnwys, er enghraifft, economi Lloegr, olew’r Alban a hefyd dŵr Cymru.

Byddai llywodraeth Lloegr, mewn egwyddor, yn cael ei chefnogi gan awdurdod Llundain a dinasoedd rhanbarthol eraill ar y lefel lywodraethu is uniongyrchol – i liniaru’r risg o or-ganoli mewn perthynas â phoblogaeth sylweddol y wlad.

Efallai bydd y siroedd hanesyddol hefyd yn anelu at lefel o ymreolaeth.

Er gwaethaf maint Lloegr wrth gyferbynnu â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae’r manteision o sefydlu ffederasiwn yn gorbwyso’r heriau a wynebir.

Mae’r ysgogiad sydd ei angen i gychwyn y broses yn barod ar gynnydd yn lled gyflym, a ategir gan wleidyddiaeth fwy gwahaniaethol yn y pedair gwlad, y dadleuon egnïol ar Bleidleisiau Saesneg ar gyfer Cyfreithiau Saesneg, ail refferendwm annibyniaeth yr Alban, Mesur Cymru 2016-17, Brexit a hyd yn oed y Trump ffenomena sydd, i ryw raddau, gyda goblygiadau tu hwnt i’r UDA.

Mae’r ynysoedd hyn eisiau ‘system o lywodraeth ble mae awdurdodau canolog a ‘genedl gyfansoddol’ yn cael eu cysylltu mewn perthynas wleidyddol rheng ddibynnol, lle mae pwerau a swyddogaethau yn cael eu dosbarthu i ennill gradd sylweddol o ymreolaeth a gonestrwydd yn yr unedau cenedlaethol.

Mewn theori, mae system ffederal yn ceisio cynnal cydbwysedd o’r fath ble mae un lefel o lywodraeth yn methu bod yn ddominyddol i bennu penderfyniad y llall, yn wahanol i system unedol, lle mae’r awdurdodau canolog yn dal blaenoriaeth i’r graddau hyd yn oed o ail-ddylunio neu ddileu llywodraethau ‘genedl gyfansoddol’ ac unedau lleol fel y myn.

Dyna’r diffiniad o ffederaliaeth a gynigir gan y New Fontana Dictionary of Modern Thought (HarperCollins 2000), gyda’r gair ‘rhanbarthol’ wedi disodli gan y term ‘genedl gyfansoddol’ fel italeiddio at y diben cyd-destunol yr erthygl hon.

Mwy o uchelgais

Mae rhai gwleidyddion profiadol ar faterion datganoli yng Nghymru wedi mynegi mwy o uchelgais.

Y mis hwn, symudodd yr Arglwydd Elystan Morgan, yn Nhŷ’r Arglwyddi, welliant i’r Mesur Cymru yn awgrymu mai statws hunanlywodraethol ‘Dominiwn’ yw’r ateb gorau.

Yn ddiweddar, dywedodd Gwynoro Jones: “Gyda chanlyniad Brexit, yr wyf yn credu bod dyfodol yn gorwedd, o leiaf, mewn Cymru hunanlywodraethol o fewn DU Ffederal. Gellir dadlau hefyd am fynd ymhellach…”

I aralleirio hen ddywediad Seinid sy’n dyblu fel mynegiant o’r cyfleoedd gall newid cyflwyno – “Rydym yn byw mewn cyfnod diddorol.”

• Mae Glyndŵr ar hyn o bryd yn brif weithredwr i sefydliad elusen ledled y DU, hefyd mae wedi dal swydd uwch gyda Bwrdd Arholiadau rhyngwladol am dros un mlynedd ar ddeg. Ysgrifennu yn bersonol y mae, ac mae heddiw yn eiriolwr dros fwy o gonsensws a chydweithredu trawsbleidiol yng Nghymru.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4806/
2016-12-09T00:00:00+1:00Fe newidiodd LSD y ffordd wledig o fyw am byth
‘Syrpreisi how fflai taim!’ chwedl Ifas y Tryc. Darllen cyfrol ar hanes ditectif oeddwn, un a fu’n rhan o ‘Operation Julie’, y cyrch cyffuriau mwyaf mewn hanes ar y pryd.

A dyma sylweddoli y bydd, pan ddaw mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers yr achos byd-enwog a gynhaliwyd yn Llys y Goron ym Mryste.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ymchwilio am ymron ddwy flynedd i’r cynllwyn o gynhyrchu a dosbarthu LSD.

Syndod o’r mwyaf fu canfod mai yng Nghymru y cynhyrchid y cyffur ac mae yng Nghymru oedd rhai o’r prif ddosbarthwyr yn byw.

Cemegydd oedd wedi symud i fyw yn Nhregaron, Richard Kemp oedd yn cynhyrchu’r ‘tabs’ mewn hen blasty yng Ngharno.

Yna, mewn ardaloedd gwledig fel Llanddewibrefi, Maesycrugiau a Chwmann roedd yno ddosbarthwyr.

Petai rhywun wedi ysgrifennu’r hanes ar ffurf nofel, yna wnâi neb fedru breuddwydio y gallai’r plot fod yn gredadwy.

Ond nid ffuglen oedd yr hanes. Canfuwyd 6 miliwn tab o LSD yn lleol. Canfuwyd cyfanswm oedd yn werth £100 miliwn.

Y labordy yng Ngharno oedd yn cynhyrchu 60 y cant o LSD y byd a 90 y cant ym Mhrydain.

Arestiwyd 120 o bobl. Canfuwyd £800,000 mewn cyfrifon banciau yn y Swistir. Carcharwyd 17 o ddiffynwyr am gyfanswm o 130 o flynyddoedd.

Mae yna elfen anhygoel arall i’r stori.

O Garno ai’r cyffur i Lundain. Yno câi ei becynnu a’i anfon allan i aelodau o gang arall o ddosbarthwyr, o leiaf dri ohonynt yng Ngheredigion. Ond doedd y ddwy gang ddim yn adnabod ei gilydd.

Meddyliwch, y gwneuthurwr yn byw yn Nhregaron. Un o’r prif ddosbarthwyr, Alston Hughes yn byw yn Llanddewibrefi bum milltir i ffwrdd. Ond y ddau’n ddieithriaid.

Bu ditectifs yn drwch yn yr ardaloedd am fisoedd cyn y cyrch. Ond wyddai neb fod unrhyw beth mawr yn digwydd.

Am 5.00 o’r gloch y bore dydd Gwener 26ain o Fawrth disgynnodd swyddogion heddlu ar 87 o gartrefi.

A dyna’r cliw cyntaf i rywbeth mawr fod ar droed.

Bore trannoeth canodd fy ffôn. Jim Price o’r Daily Express oedd ar ben arall y lein. Gofynnodd a oeddwn i wedi clywed am gyrch heddlu yn ardal Tregaron? Nag oeddwn. Ond fe ffoniais o gwmpas a chael gwybod ei bod hi’n bedlam yno.

Daeth Jim lawr o Ddeganwy ac euthum gydag ef i Dregaron. Yno roedd pobl ar y sgwâr ac ar ben drysau eu tai yn trafod y digwyddiad mawr.

O dipyn i beth daeth manylion i’r amlwg. Roedd swyddogion cudd wedi bod wrthi ers misoedd yn byw yn yr ardaloedd dan sylw, rhai’n cogio eu bod nhw’n bysgotwyr, eraill yn ddynion busnes a dau, yn arbennig, wedi bod yn byw fel hipis mewn campyr fan.

Hyd yn oed ar y cychwyn bu’n anodd gwahaniaethu’r gwir wrth y gau. Mynnwyd, er enghraifft gan y prif gop, Dick Lee fod Operation Julie wedi rhoi’r farwol i farchnad LSD yn fyd eang. Y gwir amdani oedd, erbyn diwedd yr achos flwyddyn wedi’r cyrch, fod LSD yn ôl mor gryf ag y bu erioed.

Erbyn hyn, ymron 40 mlynedd wedi’r cyrch, mae’r stori’n dal yn fyw.

Deuthum i adnabod un o’r rhai a garcharwyd, Keiron Healy, a gâi ei adnabod fel ‘Buzz’. Bu farw’n ddiweddar.

Fe arhosodd ef yn yr ardal. Priododd â merch leol. Cododd ei blant yn Gymry Cymraeg. Roedd Buzz yn ddyn ffeind iawn.

Mae un o’r prif ddelwyr, Alston Hughes neu ‘Smiles’ yn cysylltu â mi’n aml ar y gweplyfr. Mae yntau’n ddyn deallus a hynod ddoniol.

Y gwir amdani yw bod yna arian mawr yn y busnes. Ond roedd yna rai, Kemp yn arbennig yn credu fod LSD yn gyffur a fyddai’n rhyddhau’r dychymyg.

Yng nghyfrol y cyn-dditectif a fu’n cogio bod yn hipi mae’n feirniadol o’r gyfrol a gyhoeddais i ar yr hanes yn 2010.

Dywed i mi roi’r argraff mai dim ond yng Nghymru y digwyddodd yr hanes. Yn amlwg ni ddarllenodd yn y cyflwyniad fy mwriad sef adrodd hanes cymunedau gwledig a newidiwyd yn llwyr gan fewnfudwyr yn y 60au ac sy’n parhau felly.

Mae’n siŵr na wnaeth LSD newid y byd, yn ôl gobeithion ei ladmeryddion. Ond fe newidiodd, yn anfwriadol, y ffordd wledig o fyw am byth.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4722/
2016-11-22T00:00:00+1:00Colli ‘ffrinidau’ ar y Gweplyfr!
RHYDD i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar medd yr hen air ond yn yr hinsawdd sydd ohoni, dwi’n amau os yw hynny’n gywir erbyn hyn.

Mae llai a llai o bobl yn fodlon derbyn atebion i’w safbwyntiau sy’n groes i’r hyn a gredant.

Fe ddaeth hyn yn hollol amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Trydar a Gweplyfr. Hynny yw, i’r rhai sydd ddim yn deall, Twitter a Facebook.

Defnyddir y cyfryngau hyn gan eu defnyddwyr am nifer o wahanol resymau.

Y defnydd mwyaf cyffredin gan y defnyddwyr yw rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd ar eu meddwl, yr hyn y maent wedi ei wneud neu am ei wneud fel unigolion, yn y gymdeithas, neu fel teulu, hynny yw, manylion personol.

Ceir, hefyd, ddefnydd effeithiol o’r cyfryngau hyn wrth hysbysebu digwyddiadau neu nosweithiau cymdeithasol.

Ond sylwais yn ddiweddar fod mwy o sylwadau annifyr gan grwpiau ac unigolion sy’n corddi rhagfarn yn erbyn grwpiau megis ffoaduriaid, Mwslemiaid, ac unrhyw grŵp o bobl nad ydynt yn ffitio i feddylfryd cul y rhai sy’n pedlera’r sylwadau hyn.

O ganlyniad, mae rhai unigolion sy’n fodlon pasio’r negeseuon adweithiol hyn ymlaen ond, yng ngwir draddodiad ffasgaeth, ddim yn fodlon derbyn barn sy’n gwrthddweud yr hyn a bostir ganddynt.

Pendraw hyn yw troi i ffwrdd y rhai sy’n barnu ac felly nid yw’r rhai sy’n postio’r negeseuon adweithiol hyn bellach yn ‘ffrind’ i chi ac na allwch weld yr hyn a bostir ganddynt.

Mae hyn wedi digwydd i mi dwywaith yn ddiweddar, a hynny gan ddau sy’n byw yn y dref hon. Sylwais eu bod yn pasio negeseuon adweithiol, hiliol gan fudiadau amheus ac am fy mod yn ymateb i’r negeseuon hyn, mae’n amlwg nad ydynt yn fodlon derbyn barn resymol, neu farn sy’n groes i’w syniadau. Nid oes ganddynt y gallu meddyliol i ateb fy nghwestiynau, felly’r unig ateb ganddynt yw fy nileu fel ‘ffrind’ – er na fyddwn yn disgrifio fy adnabyddiaeth ohonynt mor agos â hynny, beth bynnag.

Y ‘mudiadau’ dan sylw yw’r rhai sy’n cynnwys Britain First, EDL – English Defence League, Say How it I’, Lionheart GB, Britain OUT of EU ac amryw o enwau eraill, sydd, mae’n amlwg, yn rhan o’r un mudiad ffasgaidd, adain dde eithafol.

Maent yn postio lluniau o Fwslemiaid, yn enwedig merched yn gorchuddio eu hwynebau, a’r neges yw bod angen gwahardd y wisg hon, deddf Sharia, ac ambell agwedd arall o ffordd o fyw’r bobl hyn.

Cysylltir hyn â phethau fel y Pabi Coch a’r Fyddin Brydeinig gyda’r bwriad o greu adwaith.

Anwybyddant y ffaith fod llawer o Fwslemiaid wedi aberthu eu bywydau yn ymladd dros y Deyrnas Unedig.

Grwpiau eraill sydd o dan lach yw’r dinasyddion Ewropeaidd, megis y Pwyliaid, gan anwybyddu’r ffaith y byddai’r Llu Awyr Prydeinig heb gymorth peilotiaid o wlad Pwyl a gwledydd eraill wedi colli’r frwydr yn erbyn yr Almaenwyr ym 1940.

Mae un neu ddau arall yr wyf yn eu hadnabod yn trosglwyddo’r negeseuon hyn ond nad ydynt wedi fy nileu fel ffrind.

Byddaf yn ateb y negeseuon hyn drwy ddatgan rhywbeth fel ‘Oswald Moseley a’i grysau duon yn y tridegau unwaith eto!’

Un o’r ffefrynnau a ddaw ganddynt yw dyfyniad o araith Enoch Powell yn y chwedegau yn sôn am ‘afonydd o waed’.

Yr ateb i hynny gennyf bob tro yw mai ei blaid Dorïaidd ef mewn llywodraeth yn y pumdegau a ddenodd bobl o Jamaica a llefydd eraill i weithio am gyflogau sâl yn ninasoedd Lloegr am nad oedd y Saeson am wneud hynny.

I’r rhai sydd wedi fy nileu fel ‘ffrind’, yr ateb yw os na allwch ddioddef y gwres peidiwch ag eistedd yn agos at y tân!

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4689/
2016-11-16T00:00:00+1:00Wncwl Dai yn cynrychioli y miloedd a laddwyd
FORE Sul cynhaliwyd unwaith eto Ddefod y Cofio o gwmpas y gofeb ryfel ar sgwâr y Bont. Daeth trigain a mwy ynghyd i goffau’r meirwon, er mai enwau’n unig ydyn nhw bellach i bawb ohonom.

Mynd yno i goffau un yn arbennig fyddaf i bob blwyddyn. Na, dydw’i ddim yn hunanol.

Mae enw Wncwl Dai, brawd Mam yn Fflandrys yn 1918 yn cynrychioli’r miliynau a laddwyd mewn rhyfeloedd ledled y byd dros y canrifoedd.

Eleni bu mwy o ddadlau nag erioed ar fater y pabi, honno hyd yn oed yn cyrraedd y meysydd pêl-droed. Ail-gododd dadl y Pabi Gwyn ei ben a mynnodd eraill wrthod gwisgo pabi o gwbl.

Medraf yn hawdd deall dadl y Pabi Gwyn. Ond fedra’i ddim deall gwrthod gwisgo pabi o gwbl. Bwriad rhai o wneud hynny oedd gwrthod cydnabod y Lleng Prydeinig sydd, meddir, yn gogoneddi rhyfel.

Ond mae hi’n ddadl negyddol. Pa werth gwrthod gwisgo pabi os na fedrwch ddangos pam? Beth yw pwrpas cerdded lawr y stryd heb babi a neb yn deall eich safbwynt?

Gallai gael ei gamgymryd am ddifrawder. Mae arddangos pabi gwyn ar y llaw arall yn ddatganiad positif.

Fel y mynegais droeon o’r blaen, hoffwn yn fawr fedru bod yn heddychwr. Ond fedra’i ddim. Ie, y Rhyfel Mawr oedd y rhyfel a wnâi roi terfyn ar bob rhyfel. Yn hytrach arwain at gychwyn mwy o ryfeloedd a wnaeth.

Ond daliaf i fynnu nad oedd dewis parthed yr Ail Ryfel Byd. Doedd dim modd trafod â Hitler mwy nag y gellir trafod ag IS heddiw.

Mae’r holl fater yn un sy’n arwain at amwysedd. Ac o blith yr holl ddadlau diweddar, erthygl yn y papur hwn wnaeth ddatgan y sylwadau callaf.

Ddim bob amser y byddaf yn cytuno ag Androw Bennett ond yn ei erthygl amlinellodd y ddeuoliaeth sydd ynghlwm wrth y ddadl dros neu yn erbyn y coffau a’r dulliau o wneud hynny.

Y mae yna elfennau milwrol amlwg mewn llawer o’r seremonïau. Ni chafwyd unrhyw o awgrym o hynny yn ein seremoni syml ni.

Yr eiliadau mwyaf ingol eleni oedd gwrando ar fachgen ifanc yn seinio’r Caniad Olaf ar ei gorn arian. Dyma’r tro cyntaf erioed i mi fod yn dyst i hyn yn y Bont. Wrth i’r nodau esgyn a disgyn gwelwn o flaen fy llygaid yr wyneb a arferai hongian mewn ffrâm yn y parlwr. Wyneb llanc 19 oed, a’r wyneb hwnnw fel petai’n gofyn ‘Pam?’

Does gen i ddim ateb i’r cwestiwn. Oes gan unrhyw un ateb? Mae Llywodraeth Prydain Vawr yn dal i wthio’i thrwyn coch i faterion a gwledydd nad oes â wnelon nhw ddim byd â nhw.

Eto dyma’r union Lywodraeth sy’n condemnio Putin am ymyrryd mewn materion sydd ar garreg ei ddrws yn yr Wcrain.

Ond ie, wyneb un gŵr yn arbennig a welwn i ar sgwâr y Bont fore dydd Sul. Ond y tu ôl i’w wyneb ef roedd yna filiynau o wynebau eraill yn disgyn fel dail yr hydref o’r coed o gwmpas yr eglwys gerllaw.

Oes, mae yna amwysedd y tu ôl i goffau lladdedigion rhyfel. Ffin gul sydd rhwng coffau’r bechgyn a choffau rhyfel. Ac oes, y mae yna ar adegau enghreifftiau o groesi’r ffin honno.

Yn amlwg nid fi yw’r unig un i deimlo amwysedd yn fy nheimladau am ryfel.

Dyna’i chi Bob Dylan. Pan gyfansoddodd Blowing in the Wind cafodd ei labelu ar unwaith fel heddychwr.

Ond na, yn gymharol ddiweddar mynegodd mai’r gwneuthurwyr a’r masnachwyr arfau yw’r bwganod mawr. Cred, meddai, mewn hawliau gwlad i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau gan wlad arall. Nid bod Bob Dylan yn amwys. Na, ein cysyniad ni ohono ef sy’n amwys.

Do, fe wisgais fy mhabi coch fore dydd Sul, a hynny nid er mwyn coffau rhyfel ond er mwyn cofio Wncwl Dai, a thrwyddo ef gofio eraill a daflwyd i safn uffern yn gwbl ddiangen.

Yn ôl yr arfer darllenwyd y geiriau cyfarwydd sy’n sôn am lanciau na wnânt fyth heneiddio fel y gwnawn ni heneiddio. Ond geiriau eraill oedd yn corddi yn fy meddwl i, geiriau A.E. Houseman.

Here dead lie we because we did not choose

To live and shame the land from which we sprung;

Life, to be sure, is nothing much to lose

But young men think it is, and we were young.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4685/
2016-11-15T00:00:00+1:00Hwyl fawr am nawr i’r ‘hen foi iawn’ Jimmy Young
Rywbryd yn ystod gwanwyn 1958 oedd hi a minnau’n astudio ar gyfer arholiadau Lefel ‘A’. Un o’m tri phwnc oedd celfyddyd, a braint fu cael astudio wrth draed Ogwyn Davies.

Dim ond dau ohonom oedd yn astudio’r pwnc yn y Chweched, Peter Davies o Langeitho a minnau. Ac Ogwyn gafodd y syniad o drefnu i ni’n dau gael mynd lawr i Oriel Glynn Vivian yn Abertawe a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i weld y paentiadau oedd yn yr orielau.

Yng Nghaerdydd fe wnaeth Peter a minnau aros dros nos mewn tŷ lodjins. A dyma weld poster yn cyhoeddi fod yna gyngerdd y noson honno yn y Theatr Newydd.

Y seren oedd yn ymddangos yno oedd Jimmy Young. Bu Jimmy farw’r dydd o’r blaen yn 95 oed. Ie, seren, yn wir; prif seren y siartiau ganol y chwedegau.

Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y gân Too Young yn 1951 ac yna Faith Can Move Mountains yn 1953. Dilynwyd hyn gan Eternally ac yna caneuon gwlad fel Chain Gang a Wayward Wind. Wedyn dyma The Man From Laramie, a ddringodd i rif un, a’i lwyddiant mwyaf oll sef y clasur Unchained Melody, honno hefyd yn cyrraedd y brig yn 1965.

Yn 1958 roedd Jimmy Young yn dal yn seren ond erbyn hyn roedd Elvis wedi creu daeargrynfeydd roc a rôl a doedd dim lle i gantorion hen-ffasiwn fel Jimmy.

Yn dilyn ei lwyddiant yn y byd pop cafodd, wrth gwrs, 30 mlynedd o lwyddiant fel cyflwynydd radio gyda’r BBC. Roedd dywediadau o’i eiddo fel ‘Orf we jolly well go’, ‘BFN.’ (Bye for now) a ‘TTFN’ (Ta-ta for now) ar dafodau miloedd.

Fel cyflwynydd gwrthodai’r syniad o holi caled. Ei athroniaeth oedd, meddai: “Fe wnewch chi ddal mwy o bryfed o ddefnyddio mêl na wnewch chi o ddefnyddio finegr.”

Yn dilyn y cyngerdd hwnnw yn 1958 fe aeth Peter a minnau at ddrws y llwyfan yn y gobaith o gael cyfarfod â Jimmy. Ac fe wnaethom, a chael ei lofnod.

Buom yn sgwrsio ag ef am tua deng munud. Roedd e’n ŵr hynaws a chyfeillgar.

Cyngerdd Jimmy Young oedd y cyngerdd cyntaf i mi fod ynddo o ran gweld a chlywed unrhyw seren o bwys. Ers hynny gwelais sêr fel Willie Nelson a Chuck Berry, Roy Orbison a Tom Waits, y Kinks a Lindisfarne, Tom Paxton ac Emmylou Harris. Heb sôn am Ei Fobrwydd, chwedl Twm Morys.

Yn wir, fe wnes i gyfarfod ag amryw ohonyn nhw a dod yn ffrindiau â rhai. Fy uchafbwynt fu cyd-ganu pennill o Fairytale of New York gyda Shane McGowan a gweld Suzi Quatro heb ddim amdani ond blanced bach ysgafn ddim mwy na hances poced. Melys gof!

Ond Jimmy Young oedd y cyntaf. Ac o ddarllen gwahanol deyrngedau iddo ddechrau’r wythnos, wyddwn i ddim am y bywyd caled a dreuliodd cyn cael ei hun yn seren.

Leslie Ronald Young oedd ei enw bedydd, mab i löwr o Swydd Gaerloyw. Bu mewn nifer o swyddi, yn cynnwys hedfan awyrennau. Bu’n chwaraewr rygbi ac yn focsiwr cyn troi at ganu yn 30 oed.

Pan sbubodd roc a rôl drwy’r byd, cafodd Jimmy ei hun ar y clwt. Dioddefodd o iselder ysbryd a bu’n ystyried cyflawni hunanladdiad. Aeth at gyfryngwraig seicig a phroffwydodd honno lwyddiant mawr iddo. Yn wir, aeth honno mor bell â phroffwydo y câi swydd fel holwr ar y radio. Roedd hi’n iawn.

Dros y blynyddoedd fe holodd bawb o bwys yn cynnwys pob Prif Weinidog o Harold Wilson i Tony Blair. Ef oedd hoff holwr Margaret Thatcher. Fe’i holodd hi 14eg o weithiau. Ef oedd hoff gyflwynydd y Frenhines.

Daeth yn gyfaill mynwesol i Terry Wogan, y ddau’n tynnu coes ei gilydd yn ddidrugaredd. Disgrifiodd Wogan yr achlysur cyntaf iddo gyfarfod â Jimmy gyda’r geiriau: “The cheeky old blighter wheeled his mobile commode into my studio.”

Torrodd Jimmy dir newydd gyda’i raglen ddyddiol drwy gychwyn ambell slot fyddai’n cynnig cynghorion. Ceid arbenigwyr ar goginio, trin arian, ffasiwn, swyddi – pob pwnc a allai effeithio ar y gwrandawyr cyffredin. Ar ei fwyaf poblogaidd byddai dros saith miliwn yn gwrando ar ei raglen.

Pan glywais am ei farw cofiais ar unwaith y noson honno yng Nghaerdydd.

Yn anffodus wn i ddim ble mae’r llofnod. Dydi hynny ddim yn bwysig.

Cofiaf gael sgwrsio ag ef am ddeng munud. Roedd hwnnw’n amser digon hir i mi sylweddoli ei fod e’n hen foi iawn.

TTFN, Jimmy.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4633/
2016-11-09T00:00:00+1:00Gwobr Llenyddiaeth Nobel Dylan Thomas - naw wfft i'r snobs llenyddol!
DAL i gynhyrfu’r dyfroedd wna’r penderfyniad i anrhydeddu Bob Dylan â Gwobr Llenyddiaeth Nobel. A dal i wfftio’r penderfyniad wna snobs y byd llenyddol. “Dydi geiriau caneuon ddim yn llenyddiaeth,” meddent.

Eto dyma’r union rai sy’n ystyried gwely anniben Tracy Emin a cherflun o ben-ôl anferth gan Anthea Hamilton yn gelfyddyd.

Fy sylw i dro’n ôl oedd y dylai Bob Dylan ddim yn unig fod wedi derbyn Gwobr Llenyddiaeth Nobel ond hefyd y Wobr Heddwch. Ac nid ef yw’r unig gyfansoddwr poblogaidd i haeddu hynny.

Un, yn sicr sy’n haeddu’r anrhydedd dwbwl yw Eric Bogle. Mae Bogle yn enwog am ei gân ysgytwol No Man’s Land neu The Green Fields of France.

Ond dim ond un gân yw honno ymhlith perlau eraill sy’n condemnio rhyfel.

Gŵyr amryw am ei gân And the Band Played Waltzing Matilda, sef cân eironig am oroeswr o Frwydr Gallipoli sy’n gwylio’r orymdaith goffâd flynyddoedd wedyn.

Meddai’r hen ŵr:

And so every April I sit on my porch

And I watch the parade pass before me;

I see my old comrades how proudly they march

Reviving old dreams of past glory,

The old men march slowly, old bones stiff and sore,

They’r tired old heroes from a forgotten war,

And the young people ask, ‘What are they marching for?’

And I ask myself the same question.

Mae ganddo ganeuon sy’n sôn am frwydrau yn nes at ein dyddiau ni, fel honno am drafferthion Gogledd Iwerddon. Dyma’i chi eiriau:

My youngest son came home today,

His friends marched with him all the way,

The fife and drum beat out the time

While in his box of polished pine

Like dead meat on a butcher’s tray

My youngest son same home today.

Albanwr yw Bogle a ymfudodd i Awstralia. Ac os ydych am glywed un o’r caneuon mwyaf ingol a gyfansoddwyd erioed gwrandewch ar Leaving Nancy, sef hanes ei ffarwel â’i fam wrth iddo adael. Ac yna’i gân affwysol o drist, Since Nancy Died. Nancy, wrth gwrs, oedd ei fam.

Rhag ofn i chi feddwl mai cyfansoddwr a chanwr caneuon lleddf yn unig yw Bogle cawn ganddo hefyd amryw o ganeuon digri. Mae He’s Nobody’s Moggy Now yn gân ddoniol am ymadawiad cath.Ac mae I Aint Gonna Sing No Bob Dylan yn llawn hiwmor a doniolwch. Ond ei ganeuon dwys yw ei forte.

Yn ogystal â chaneuon gwrth ryfelgar, testun mawr arall iddo yw unigrwydd hen bobol. Mae Now I’m Easy, a anfarwolwyd gan Ronnie Drew yn glasur. Cân yw hi am hen ŵr yn edrych yn ôl ar ei fywyd. Dyma un o’r penillion:

My daughter married young, and went her own way,

My sons lie buried by the Burma Railway,

So on this land I’ve made my home, I’ve carried on alone,

But it’s nearly over now, and now I’m easy.

Ydyn, mae caneuon Eric Bogle yn farddoniaeth hefyd, fel gwaith ambell i gyfansoddwr arall fel Leonard Cohen a Tom Waits.

A naw wfft i’r snobs llenyddol a chelfyddydol sy’n dilorni gwaith y fath artistiaid geiriol.

Yn wahanol i lawer o’r twyllwyr ffuantus sy’n honni bod yn feirdd heddiw mae gwaith y rhain yn golygu rhywbeth.

Llun: Eric Bogle

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4573/
2016-10-26T00:00:00+1:00Mae cwlt y clown yn mynd yn ôl canrifoedd
ROEDD y tonfeddi ddoe a’r papurau heddiw’n gyforiog o hanesion y ffyliaid gwirion sy’n gwisgo fel clowns ac yn ceisio brawychu pobl. Does dim angen dweud pa mor beryglus y gall hyn fod, i blant a’r henoed yn arbennig.

O America, fel llawer o arferion gwirion eraill y daeth y gwiriondeb hwn. Ond o ystyried y ffenomenon mewn gwaed oer, rhaid derbyn fod cwlt y clown yn un sy’n mynd yn ôl canrifoedd.

Byddai clown yn rhan o hierarchaeth llysoedd yr Aifft adeg y Pumed Dynasty. Yn wir, yr un person fyddai’n aml yn gwasanaethu fel clown ac fel offeiriad.

I ni, cymeriad ddylai ein gwneud i ni chwerthin yw’r clown. Ond mae iddo ddeuoliaeth, fel y gwnes i esbonio yn rhagair fy nghyfrol o storïau arswyd, Merch Fach Ddrwg nôl yn 1998.

Fe wnaeth yr awdur Robert Bloch ddadansoddi cymeriad y clown. Bloch oedd awdur y nofel arswyd Psycho, a drowyd yn ffilm iasoer gan Alfred Hitchcock.

Yn ôl Bloch, hanfod arswyd yw ffenomenon Y Clown ar Hanner Nos. “Dychmygwch eich bod chi ar eich pen eich hun yn eich stafell fyw, yn darllen, ac yn cael eich dychryn gan gnocio uchel ar y drws. Mae’r tŷ yn wag. Mae’r dref yn cysgu. Daw sŵn curo eto. Dyma chi’n codi ac agor y drws. Yno yn eich cyntedd, ei wyneb wedi ei wynnu ac yn pefrio yng ngolau’r lloer mae clown yn ei wisg amryliw a’i golur llachar. Mae e’n gwenu arnoch. A wnaech chi chwerthin?”

Pwynt Bloch, wrth gwrs, yw nad yr un yw natur y clown sy’n ennyn chwerthin yng nghylch mawr y syrcas a’r clown sy’n curo ar eich drws am hanner nos.

Ac mae yna enghreifftiau o glowns drwg. Dyna’i chi John Wayne Gacey a fyddai’n diddanu plant drwy wisgo fel clown. Roedd Gacey’n ddyn busnes llwyddiannus a pharchus yn Des Plaines, Illinois. Fe ddisgrifiodd unwaith y fantais o fod yn glown.

“When you’re in make-up, clowns can get away with murder and nobody gets mad.”

Yn ystod y 70au diflannodd nifer o lanciau ifanc yr ardal.

Canfuwyd eu cyrff, 33 ohonynt wedi eu cuddio tan gartref Gacey.

Ar Fai 11eg 1994 dienyddiwyd Gacey drwy chwistrelliad marwol yng Ngharchar Joliet.

Fe gymerodd ddwywaith yr amser arferol iddo farw oherwydd nam ar yr offer.

Yn ôl yr awdur Simon Sprackling, yr hyn sy’n ddiddorol yn y berthynas rhwng plant a chlowns yw cred oedolion fod plant yn gweld clowns yn ddoniol.

“Ond ein rhagdybiaeth ni yw hynny,” meddai. “Rwy’n credu fod plant, wrth edrych ar glown, yn gweld oedolyn yn ymddwyn mewn ffordd ryfedd sydd naill ai’n ddoniol neu’n sy’n gwneud iddynt feddwl, ‘Mae rhywbeth o’i le fan hyn’.”

Un o’r clowns mwyaf arswydus mewn ffuglen yw ‘Pennywise’ yn nofel arswyd Stephen King, It, a gyhoeddwyd yn 1986.

Cafwyd ffilm deledu o’r nofel yn 1990 a nawr mae ffilmio ar droed o ffilm sinema.

Yn wir, cred rhai mai’r cwmni ffilmio, ‘New Line Cinema’ sydd wedi ysgogi’r cwlt diweddar hwn er mwyn hysbysebu’r ffilm. Gwadu wan’r cwmni.

Mae’n werth i chi ddarllen It. Nid nofel arswyd yw hi yn y bôn ond yn hytrach astudiaeth o’r trawsnewidiad o blentyndod i lencyndod.

Mae hi’n nofel wirioneddol wych gyda ‘Pennywise’ yn rhagflaenydd i bob trychineb.

Y clown sy’n personoli’r bwgan oesol. Mae’n mabwysiadu ymgnawdoliad clown er mwyn ei gwneud hi’n haws i ddenu plant ato.

I mi does neb yn debyg i King am bortreadu plentyndod a llencyndod.

Y nofel fwyaf arswydus i mi ei darllen erioed oedd Salem’s Lot, wedi ei seilio ar fampirod mewn tref fechan yn Maine.

Fe’i darllenais am y tro cyntaf ar wib. Hynny yw, ‘speed-reading’. A fyddai ‘gwib-ddarllen’ yn gyfieithiad Cymraeg addas?

Ychydig flynyddoedd wedyn dyma fynd ati i’w darllen o ddifrif. Bu’n rhaid i mi roi’r gorau iddi ar ôl y can tudalen cyntaf.

Os mai’r ddarpar-ffilm It sydd i’w beio am y stranciau gwirion dros y dyddiau diwethaf, dydw’i ddim yn meddwl y byddai King yn rhyw hapus iawn.

Ond mae ganddo hiwmor du. Pan ofynnwyd iddo unwaith beth oedd cyfrinach ei ddawn fel awdur nofelau arswyd, ei ateb oedd: “Mae gen i galon plentyn o hyd. Rwy’n ei chadw mewn jwg ar y dreser.”

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4460/
2016-10-11T00:00:00+1:00Agwedd y ‘Britysh Empeiar’ yn parhau
RAI wythnosau yn ôl, bûm yng nghynhebrwng Kazimierz Miarczynski, neu Kazek i drigolion Llanuwchllyn ac ardal Penllyn.

Er mae’r Bwyleg oedd ei famiaith, ac er iddo ddysgu Saesneg ac Almaeneg cyn iddo gyrraedd Llanuwchllyn, trwy’r Gymraeg, yr hon a ddysgodd fel ei bedwaredd iaith, y bu iddo fyw y rhan fwyaf o’i fywyd drwyddi.

Cynhaliwyd y gwasanaeth angladdol drwy’r Gymraeg, er i Huw Jones, ei fab yng nghyfraith orffen ei deyrnged ardderchog iddo drwy gynnwys un frawddeg yn y Bwyleg.

Fel pawb arall a fu mor ffodus o gael ei adnabod, cefais Kazak yn ŵr y tu hwnt o fonheddig bob amser ac yn rhywun yr oeddech yn ei chael hi’n bleser i fod yn ei gwmni.

A ninnau ar ymweliad â Warsaw, dyma Olwen, y wraig, (oes mae ganddi enw) yn meddwl y byddai’n gyrru cerdyn iddo o’i ddinas enedigol.

Pan welsom ef yn ddiweddarach, diolchodd am y cerdyn ond gwyddwn ei fod eisiau ychwanegu rhywbeth, ac yn y diwedd dyma fo’n dweud mai un o Krakow oedd o ac nid Warsaw.

Unionwyd y cam rai misoedd yn ddiweddarach pan yrrwyd cerdyn iddo o’r ddinas honno.

Ar y llaw arall, bu i fam yng nghyfraith Kazek fyw yn Llanuwchllyn am dros dri chwarter canrif heb siarad yr un gair o Gymraeg – ffaith sydd bron yn anghredadwy mewn pentref mor Gymreig.

A dyna fi’n dechrau meddwl am enghreifftiau o bobl yr wyf yn eu hadnabod sydd wedi dysgu iaith ar ôl symud i fyw i wlad ddieithr.

Bob tro yr awn i Rufain, byddwn yn aros rhyw awr y tu allan i’r ddinas gyda Franco a Frances.

Albanes yw hi, o Auchterarder ger Perth ac wedi cyfarfod yn ystod y chwedegau yn yr Alban, aeth y ddau i fyw i gartref Franco yn Genzano di Roma ar ôl priodi.

Doedd gan Francis yr un gair o Eidaleg a bu’n rhai iddi ddysgu’r iaith yn gyflym am mai eithriad oedd canfod rhywun heblaw ei gŵr a allai siarad Saesneg.

Erbyn heddiw mae’n hollol rugl ac wedi byw’r rhan fwyaf o’i bywyd drwy gyfrwng yr iaith, er bod acen Albanaidd ar yr Eidaleg fel sydd ar ei Saesneg.

Yn rhyfedd iawn, fe fydd yn gofyn beth yw ambell air yn Saesneg gan iddi fyw heb yr iaith honno am gyfnod mor hir.

Erbyn hyn, mae Elen, y ferch, wedi cychwyn ar ei chyfnod o waith yn Oslo ac wrthi’n dysgu Norwyeg.

Caiff gymorth gan Iori Roberts, un sydd wedi byw yn Norwy am dros ddeugain mlynedd ac yn hollol rugl yn yr iaith ond gydag acen Gymreig wrth ei siarad.

Eto, er bod Saesneg yn ail iaith i lawer o Norwyaid, bu’n rhaid iddo ddysgu iaith y wlad ac erbyn hyn, yn yr iaith honno y mae’n sgwrsio gyda’r trigolion lleol a’i deulu.

Ef a’i wraig Tora sy’n rhoi gwersi Norwyeg i Elen.

Gydag ychydig eithriadau clodwiw, prin iawn yw’r ymdrech a wna Saeson i ddysgu’r Gymraeg pan ddônt yma i fyw.

Does gan y mwyafrif llethol ddim bwriad gwneud yr un mymryn o ymdrech i’w dysgu ac fe ant ati, hyd yn oed, i gam-ynganu enwau lleol, a hynny gyda rhyw haerllugrwydd sy’n dangos fod rhywbeth ynddynt yn mynnu mai Saesneg yw’r unig iaith ac yn y ffordd Saesneg y mae ynganu enwau cynhenid Cymraeg.

Y mae ganddynt yr un agwedd pan ant i fyw i Ffrainc gan wneud fawr o ymdrech i ddysgu gair o’r iaith honno a chymdeithasu gyda Saeson eraill yn unig.

Yn ne Ffrainc, yr ydym wedi aros sawl gwaith mewn hen ffermdy sy’n eiddo i Saesnes a’i gŵr ond y gwahaniaeth mawr ydi fod Vivien yn hollol rugl yn y Ffrangeg ac yn ymdoddi i’r gymdeithas leol.

Cyfeiriodd ei gŵr, Thierry, at bentref nid nepell o’u cartref a elwir gan y trigolion lleol yn ‘le village anglais’ am fod cymaint o Saeson yn byw yno ac mai Saesneg yw iaith gymdeithasu i raddau helaeth.

Beth sydd o’i le ar ein cymdogion tybed?

Mae’n amlwg fod y gallu i ddysgu’r Gymraeg ganddynt fel pawb arall ond fod yr hen ysfa i dra-arglwyddiaethu a’r atgof am y ‘Britysh Empeiar’ wedi treiddio’n ddwfn i’w cyfansoddiad gan greu rhwystr rhag newid agwedd a dysgu iaith y gymdeithas leol.

Oni fyddent yn gallu dysgu oddi wrth hanes Kazek ac eraill a aethant ati i ddysgu’r Gymraeg gan ddod yn rhan naturiol o’r gymdeithas frodorol?

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4426/
2016-10-05T00:00:00+1:00Mae cywirdeb gwleidyddol yr undebau myfyrwyr yn rhemp
YM mis Medi 1958 fe gychwynnais ar fywyd fel myfyriwr yn Aber. Ddwy flynedd yn ddiweddarach roeddwn i’n gweithio y tu ôl i ddesg y Llyfrgell Gyffredinol yn y coleg lle bûm i’n fyfyriwr. Ie, dwy flynedd wnaeth fy addysg prifysgol bara. Methais fy arholiadau’n rhacs. Neu, i fod yn gwbl onest, wnes i ddim trafferthu astudio ar gyfer yr arholiadau hynny.

Y rheswm dwi’n troi’n ôl at hyn yw cynnwys erthygl a ddarllenais yn ddiweddar ar ymddygiad undebau myfyrwyr y dyddiau hyn a’u hagweddau amwys tuag at eu cyd-fyfyrwyr. Bellach mae cywirdeb gwleidyddol yr undebau’n rhemp.

Yn Aber rhwng 1958 a 1960 fe wnes i esgeuluso fy astudiaethau ar draul bywyd o fynd fy ffordd fy hun. Roedd Acker Bilk a Chris Barber yn bwysicach i mi na Saith Doethion Rhufain a Beowulf. Do, lluchiais i ffwrdd unrhyw obeithion am radd. Dydw’i ddim yn edifar ar wahân i’r loes wnes i ei achosi i’m rhieni.

Ond at hyn rwyf am ddod. Fy mhenderfyniad i oedd cefnu ar addysg prifysgol. Fi a fi yn unig fu’n gyfrifol am gwrs fy mywyd a’m hymddygiad yno. Ond heddiw mae undebau myfyrwyr yn ceisio rheoli bywyd eu haelodau. Yn wir, yn yr erthygl wnes i ei darllen, cyfeirir at lywyddion a gweinyddwyr undebau myfyrwyr fel Ayatollahs. Caiff myfyrwyr felly ddioddef cyfuniad o faldod a gormes.

Ond mae yna arwyddion bellach fod trwch y myfyrwyr yn dechrau rebelio. Cymerwch y dosbarthiadau cydsynio a gynhelir gan Brifysgol Caergrawnt ar gyfer glas fyfyrwyr. Ym Mhrifysgol Caerefrog penderfynodd trwch y myfyrwyr gerdded allan o’r fath ddosbarthiadau. Os yw pobl ifanc 18 oed yn ddigon hen i farw mewn rhyfeloedd, yn ddigon hen i bleidleisio, yn ddigon hen i yfed onid ydyn nhw hefyd yn ddigon hen i benderfynu drostynt eu hunain ar faterion ymddwyn?

Yng Ngholeg Prifysgol Llundain gwelwyd yn dda i wahardd synau rhywiol ym mariau’r undeb. Beth sy’n golygu synau rhywiol, dychmygwch chi. Ond fe fedrwch o leiaf chwerthin am hynna.

Ond mai yna rai penderfyniadau sydd ymhell o fod yn ddoniol. Pan benderfynodd Cymdeithas y Cwrdiaid yn yr un coleg wahodd siaradwr gwadd a fu’n ymladd yn erbyn ISIS fe’i gwaharddwyd rhag siarad. Er hynny roedd undeb y myfyrwyr yn amharod i feirniadu ISIS am fod hwnnw’n fater cymhleth. Fe ddywedwn i fod torri pennau pobl ddiniwed bant yn fater digon syml i’w ystyried.

Mae Aytaollahs yr undebau colegol felly’n trin oedolion ifanc fel plant. Rhaid penderfynu ar eu rhan beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Soniais dro’n ôl am benderfyniad a wnaed i wahardd rhecsyn y Sun oddi ar gampws Aber. Condemniwch y Sun ar bob cyfrif. Ond gwahardd hawl rhywun i’w brynu? Beth nesaf, llosgi llyfrau?

Meddyliwch am Undeb Coleg Prifysgol Llundain eto. Er lles ei aelodau penderfynwyd, bob dydd Gwener, gwahardd arlwyo cig am fod cynhyrchu cig yn cael effaith ddrwg ar yr amgylchedd ac am fod magu creaduriaid yn gofyn am fwy o adnoddau na thyfu cnydau.

Un o benderfyniadau mwyaf ynfyd y coleg hwn fu caniatáu i fyfyrwyr archaeoleg eithrio o ddarlithoedd sy’n sôn am ddigwyddiadau hanesyddol cythryblus a thrawmatig.

Cam pwysig i las fyfyrwyr yw cael y rhyddid i benderfynu drostynt eu hunain allan o amgylchedd y cartref. Ond na, rhaid i Hitleriaid bach yr undebau myfyrwyr benderfynu beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg i’w cyd-fyfyrwyr. Pregethir rhyddid mynegiant cyn belled â bod y mynegiant hwnnw’n unol â gofynion yr undeb.

Peidiodd amryw o golegau â bod yn ganolfannau heriol erbyn hyn. Mae Prifysgol Goldsmith wedi mabwysiadu mesurau gwrth hiliol. Gwych. Cytuno’n llwyr. Ond howld on Defi John. Gwaherddir myfyrwyr gwyn rhag mynychu’r cyfarfodydd. Ni fedrid cynnal dadleuon, meddir, yng nghwmni gormeswyr. Hynny yw, mae pob myfyriwr gwyn yn ormeswr.

Ymddengys fod trwch y myfyrwyr wedi cael llond bol. Ar gyfer etholiadau diweddaraf Coleg Prifysgol Llundain, dim ond 12 y cant wnaeth fynd i’r drafferth i bleidleisio. Mae’n gwneud i mi feddwl sut le fyddai wedi bod yng Ngholeg Aber pe ceisid mabwysiadu deddfau mor haearnaidd nôl ar ddiwedd y 50au?

Byddai Llywydd yr Undeb a’i swyddogion wedi eu taflu i Fae Ceredigion o ben Consti. Yno fe gaent ddewis naill ai nofio neu suddo.

Democratiaeth biau hi.

http://www.y-cymro.com/colofnwyr/i/4417/
2016-10-04T00:00:00+1:00