Colofnwyr

RSS Icon
04 Chwefror 2011
Arthur Thomas

Cydio yn arferiad darllen tudalen y marwolaethau

UN pwnc trafod oedd ym mysg y bobl y deuthum i’w cyfarfod ar y stryd y dydd o’r blaen. Nid y llifogydd dinistriol yn Awstralia, Brasil a gwledydd eraill y byd, nid hyd yn oed materion gwleidyddol na’r rhai o fyd y campau. Doedd y cynnydd yn y Dreth ar Werth na chynnydd ym mhris petrol a chwrw ddim yn hawlio’r flaenoriaeth chwaith. Na, yr argyfwng mawr oedd rhyw wall argraffu yn y papur dyddiol a olygai fod y dudalen bwysicaf un ym marn llawer – sef tudalen y marwolaethau, yn hollol aneglur ac yn annarllenadwy. Dyna i chi drychineb, meddech, ond mae’n syndod faint sy’n darllen y dudalen hon, ac yn aml iawn yn troi iddi o flaen unrhyw dudalen arall, troi i’r ‘deaths’ ys dywedant.
Gwn am ambell un sy’n darllen drwy’r rhestr er mwyn gweld os yw’n adnabod ambell enw, a hynny’n golygu y gall fynd i’r angladd ac wedyn am ryw ddiferyn er mwyn talu teyrnged i’r ymadawedig! Y mae’r cynnwys yn aml iawn yn cynnal y sgwrs ar ôl gorffen trafod y tywydd
Doedd dim angen poeni’n ormodol, gan i olygydd y papur syrthio ar ei fai a chyhoeddi’n llawn yr ‘enwau colledig’ yn rhifyn y diwrnod canlynol, gan beri i’r rhestr ymestyn ar hyd hanner y dudalen nesaf yn ogystal â’r dudalen ‘rhif 10’ arferol, gan roi mwy o flas nag arfer ar y cynnwys.
Cofiaf fel y byddai cymeriad o Benmachno ers talwm yn troi’n syth i’r dudalen o dan sylw. Pan welais ef un bore Llun, gwelwn ryw olwg digon digalon ar ei wyneb. Holais ef beth oedd yn bod. ‘Mae’r papur yma’n sâl heddiw – dim ond tri wedi marw ! ‘
Clywais amryw yn cyfiawnhau’r rheidrwydd i ddarllen y dudalen hon cyn unrhyw un arall drwy ddweud fod angen gwneud hynny ‘er mwyn gweld os dwi’n dal yn fyw.’ Dywed eraill mai chwilio er mwyn dweud am farwolaethau wrth berthynas neu ffrind sy’n byw ymhell i ffwrdd a wnânt. Beth bynnag yw’r rheswm, mae un peth yn ffaith – fel yr a rhywun yn hŷn, yna fe fyddwch yn fwy tebygol o ddarllen y rhestrau am fod, mae’n debyg, nifer o’r rhai sydd ynddynt tua’r un oedran a’r sawl sy’n darllen ac yn debyg o fod yn enwau cyfarwydd Ers talwm, mam fyddai’n darllen yr enwau gan ddarllen yn uchel enw (neu enwau) yn eu mysg yr oedd yn ei adnabod. Fyddwn i ddim yn trafferthu. Erbyn heddiw, rwyf finnau wedi dod i’r oed ac wedi cydio yn yr arferiad.
Un peth sy’n rhyfeddod i’r rhai sy’n ymweld â’n gwlad ac yn digwydd darllen y ‘deaths’ yw’r llysenwau a geir yn aml mewn cromfachau y tu ôl i enw. I ni, nid yw hyn yn syndod, gan fod cymaint o bobl gyda’r un enw o fewn y gymdeithas. Yn aml iawn, nid yw rhywun yn gwybod enw bedydd y person hyd nes y gwelir ef yn y rhestr marwolaethau gyda’r llysenw mewn cromfachau ar ei ôl. Cofiaf stori am gôr meibion o Gymru yn mynd i ganu i Ddwyrain yr Almaen yn ystod cyfnod y ‘Rhyfel Oer’ a’r milwyr Rwsiaidd ger yr enwog ‘Checkpoint Charlie’ yn ninas Berlin yn gyndyn iawn o adael y bws i mewn i’r Dwyrain am na allent gredu fod cymaint o’r teithwyr gyda’r un enw – Jones ! Wn i ddim a yw’r stori’n wir, ond cododd yr angen am gynnwys llysenwau yn y rhestr marwolaethau am fod cymaint o bobl gyda’r un enw ac i wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod pwy yw’r ymadawedig.
Dyna fo, felly, paned a throi i ‘dudalen 10’ amdani!

Rhannu |