Colofnwyr

RSS Icon
24 Tachwedd 2011
Lyn Ebenezer

Oriau o bleser pur

Bu gwylio S4C nos Sadwrn yn bleser pur. Cawsom oriau o wylio Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc o’r Rhyl, a hynny – yn nhraddodiad gorau eisteddfodau bach cefn gwlad Cymru – hyd at oriau mân y bore. Yng nghefn gwlad, hwyrni eisteddfod yn hytrach na safon sy’n pennu llwyddiant eisteddfod. Yma cafwyd y ddau.

Fe fu cyfnod pan mai rhyw chwaer fach i Brifwyl yr Urdd oedd yr ŵyl hon. Ond all neb wadu bellach fod Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc lawn mor safonol ag un yr Urdd. Yn wir, ceir mwy o amrywiaeth ym Mhrifwyl y Ffermwyr Ifanc gyda’i thraddodiad o gynnwys ambell gystadleuaeth wirion, ond doniol.

Dydi aelodau’r Ffermwyr Ifanc ddim yn rhy swil i wneud ffyliaid o’u hunain yn gyhoeddus.
Ystrydeb yw i mi ddweud mai’r mudiad ardderchog hwn fu’n gyfrifol am i mi gael ugain mlynedd a mwy o waith cyfryngol. Ie, ystrydeb ond gwirionedd. Yn y Bont buom ni, bobl ifanc y pump a’r chwedegau’n ffodus iawn. Roedd y Clwb Ffermwyr Ifanc ac Aelwyd yr Urdd yn un. O dan enw Ystrad Fflur byddem yn cystadlu o fewn y ddau fudiad. Ond y Clwb Ffermwyr Ifanc oedd gryfaf.

Fe wnes i ymuno tua chanol y pumdegau, hynny’n cyd-ddigwydd â llwyddiant cenedlaethol ein tîm siarad cyhoeddus. Buan y gadawodd yr hoelion wyth hynny, Dafydd Lloyd Jones, James Aelwyn Morgan a Moc Rogers i wahanol swyddi. Ond trosglwyddwyd yr awenau’n ddidrafferth i arweinyddion fel Charles Arch a’i ddarpar wraig Mari Osborne Jones.

Charles, er nad oes ond pum mlynedd rhyngom, fu’n gyfrifol am fy mherswadio i sefyll ar lwyfan gyntaf. Yn un ar bymtheg oed mewn cystadleuaeth siarad cyhoeddus, o flaen neuadd lawn yn y Felin-fach cofiaf mai’r unig ffordd i atal fy nghoesau rhag crynu oedd eu plethu o gwmpas coes y bwrdd.

Daeth llwyddiannau lu i’n rhan, yn arbennig ym myd y ddrama, y siarad cyhoeddus a’r eisteddfod. Eleni mae’r ffederasiwn sirol yn dathlu’r deg mlynedd a thrigain. Mae nifer y clybiau yn y sir wedi disgyn i un ar hugain, ond wrth i rai clybiau ddiflannu, cryfhawyd y gweddill drwy i aelodau’r clybiau diflanedig ymuno â’r clybiau sydd ar ôl.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |