Colofnwyr

RSS Icon
28 Ionawr 2011
Arthur Thomas

Arddangosfa Titanic yn drist o gofiadwy

MAE hanes y Titanic yn dal i greu diddordeb heddiw, bron i gan mlynedd ar ôl iddi suddo ym mis Ebrill, 1912. Wedi nifer o ffilmiau, rhaglenni dogfen a rhaglenni’n ymwneud â darganfod ei gweddillion ar wely’r môr gydag ymweliadau cyson i godi llawer o fan bethau oedd arni, mae’r drasiedi heddiw’n dal mor fyw ag erioed.

Ar hyn o bryd, yng Nghanolfan O2 yn Llundain, y mae arddangosfa o tua thri chant o wahanol bethau a godwyd o wely’r môr yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio ers iddi gael ei darganfod gan yr Americanwr Bob Ballard a’i griw ym 1985. Yn ddiweddar, es yno i weld yr arddangosfa ac mi gefais fy mhlesio’n fawr.

Gosodwyd pob dim allan yn drefnus. Yr ydych yn cychwyn gyda hanes ei hadeiladu yn iard longau Harland & Wolff, Belfast. Bûm yn y ddinas honno fis Mawrth diwethaf a sylwais fod slogan ar yr amgueddfa yn y fan honno yn dweud am y Titanic ‘ei bod yn iawn pan adawodd hi’r fan hyn’, ond welais i ddim yr un slogan yn Llundain, chwaith. Mae’n siŵr nad oes gwerthfawrogiad o hiwmor y Gwyddel!

Yr ydych yn cerdded drwy wahanol rannau o’r arddangosfa, lle yr ail-grewyd rhannau o’r llong – y ffwrneisi, y ‘bont’, cabannau dosbarth cyntaf, yr ail a’r rhai ar gyfer gweddill – y teithwyr a alwyd yn ‘steerage class’ yn hytrach na defnyddio’r enw tlodion. Ym mhob rhan mewn blychau gwydr, ceir eitemau a godwyd o wely’r môr sy’n berthnasol i’r rhan honno o’r llong, er enghraifft, ar y ‘bont’ ceir darnau o’r celfi rheoli symudiadau’r llong, ac yn y cabannau gwahanol ceir y llestri perthnasol ac eiddo oedd yn perthyn i’r teithwyr a deithiai yn y cabannau hynny.

Yr enw llawn ar y llong oedd RMS Titanic, gyda’r llythrennau RMS yn sefyll am Royal Mail Ship gan ei bod yn cario’r post ac fe osodwyd rhai sachau’n llawn llythyrau yma ac acw ar hyd yr arddangosfa. Hefyd, i ddangos pa mor ddrud oedd teithio arni, nodwyd fod pris caban ‘cyffredin’ yn y dosbarth cyntaf ar y daith i Efrog Newydd yn costio’r hyn a fyddai’n cyfateb heddiw i £31,000, ac os nad oedd hynny’n bris i’ch synnu, fe gaech y cabannau gorau un am bris a fyddai’n cyfateb heddiw i £61,000. Diawch, gallech brynu cwch go lew am hynny yr adeg honno, heb sôn am heddiw!

Ond yr hyn a wnaeth yr arddangosfa’n gofiadwy, yn drist o gofiadwy a dweud y gwir, oedd bod hanesion teithwyr gwahanol, yn grach ac yn dlodion wedi cael eu harddangos drwy gyfrwng rhai o’u heiddo personol – yn gardiau, yn fagiau a pheth myrdd o bethau eraill a godwyd o wely’r môr. O ganlyniad i ymchwil trylwyr, llwyddwyd i ganfod hanes y sawl oedd piau’r darnau bach, a fyddai yn bethau digon dibwys mewn cyd-destun arall. Cofiaf ddarllen hanes un teithiwr anlwcus a fu farw’r noson honno a’i gyfaill, oedd lwcus iawn am na fu iddo hwylio ar y llong. Yr oedd y darpar deithiwr lwcus yn dioddef o salwch, felly ni chaniatawyd iddo fynd ar y llong. Rhoddodd ei fag i’w gyfaill gan ofyn iddo ei gadw hyd nes y byddai yntau’n gallu dod drosodd i’r Unol Daleithiau. Codwyd y bag i’r wyneb yn ystod y nawdegau, a hynny rhyw bum mlynedd wedi i’w berchennog farw.

Yn y rhan olaf o’r arddangosfa, yr oedd lluniau fideo a model o’r llong danfor fechan a fu’n gwneud y gwaith ar wely’r môr. Wrth edrych ar y lluniau yn symud ar hyd gwely’r môr, rhyfeddwn at y dechnoleg a lwyddai i ddangos mor glir, weddillion y llong ddwy filltir i lawr o dan y dŵr. Mae’n siŵr y canfyddir mwy o bethau eto ond ar hyn o bryd dangosir y cwbl a godwyd yn yr arddangosfa. Os oes gennych ddiddordeb ac yn digwydd bob yn Llundain, yna mae’r arddangosfa’n parhau tan ddechrau Mai.

Rhannu |