Colofnwyr

RSS Icon
21 Ionawr 2011
Arthur Thomas

Rhaid codi safon a chadw prisiau’n rhad

MAE’N siŵr i chi gofio fy mod wedi cwyno am safon y gwasanaeth trên rhwng Porthmadog a Llundain yn y golofn hon o’r blaen. Gan fy mod yn teithio’n bur aml rhwng y ddau le, a bellach yn gryn arbenigwr ar safon (neu ddiffyg safon yn yr achos yma) y gwasanaeth a ddarperir, syndod o’r mwyaf oedd deall fod y cwmni sy’n rhedeg y gwasanaeth, ynghyd â’r cwmnïau preifat eraill sy’n rhedeg trenau ar y rhwydwaith Prydeinig, wedi cael caniatâd i godi costau’r tocynnau teithio hyd at ddwywaith yn uwch na chwyddiant. Wrth gofio fod cyflogau yn y sector gyhoeddus yn cael eu cadw un ai ar lefel chwyddiant neu ddim yn gweld unrhyw fath o godiad beth bynnag, mae rhoi caniatâd i’r cwmniau trenau godi costau teithio fel hyn yn rhwbio halen yn y briw ac yn dangos agwedd gyfalafol y llywodraeth sydd mewn grym.

Y cyfiawnhad a roddir dros ganiatáu codi prisiau yw er mwyn i’r cwmniau allu gwario ar wella safon y gwasanaeth a gynigir. Clywyd y ddadl hon o’r blaen i gyfiawnhau codi prisiau. Yn achos Rheilffordd y Cambrian, nid oes newid wedi digwydd o gwbl, er y brolia’r cwmni fod y drefn signalau wedi ei uwch raddio. Yr un hen drenau blêr, budur a digon anghyson eu perfformiad sydd yn rhedeg rhwng Pwllheli a Chanolbarth Lloegr. A dweud y gwir, mae’n syndod na fyddai ‘Cadw’ neu ryw gorff tebyg wedi rhoddi grantiau hael i’w cynnal gan eu bod mor hen! Yn aml iawn, ceir problemau technegol arnynt – wel felly mae’n ymddangos i mi bob tro y teithiaf arnynt.

Pan oeddwn angen codi tocynnau un ffordd i’r wraig a minnau ar gyfer siwrne yn ôl o Lundain yn ddiweddar, cefais eu bod yn digwydd costio cyfanswm o £103. Mae gen i docyn ‘henwr’ i gael fy nhocyn yn rhatach ond £103 oedd y pris yn cynnwys y gostyngiad hwnnw. Wrth chwilota ar y we, canfyddais fod y tocynnau i’r ddau ohonom o Lundain i Fachynlleth yn £19. Wedyn, byddai’r wraig yn gorfod talu £10 i fynd o Fachynlleth i Borthmadog tra y cawn innau deithio am ddim gyda thocyn teithio’r Cynulliad i’r rhai dros 60. Mae andros o wahaniaeth rhwng y ddau bris, ond arnaf fi y syrthiodd y cyfrifoldeb o ganfod y pris rhatach – chefais ddim cymorth gan y cwmni ei hun.

I ddangos pa mor anghyson yw’r drefn, yr wyf newydd godi tocynnau i mi a’r wraig ar gyfer mynd i Lundain ym mis Chwefror a chyfanswm y gost o deithio o Borthmadog i Lundain ac wedyn yn ôl yw £33, sy’n bris rhesymol iawn wrth gwrs. Waeth heb a sôn fod y pris yn isel am fod y teithio’n digwydd ar wahanol amseroedd o’r dydd achos mae’r daith yn ôl ar yr union yr un amser a’r un ‘ddrud’ ond y tro hwn, mae’n costio llai i’r ddau ohonom deithio o Lundain i Borthmadog na’r gost i Fachynlleth ar y daith gynharach. Rhyfedd o fyd!

Os yw’r awdurdodau o ddifrif am gadw’r gwasanaeth hwn, yna rhaid codi safon y trenau a chadw prisiau tocynnau’n gyson ac yn rhad.

Fel mae pethau ar hyn o bryd, does dim llawer o ddyfodol i’r ‘Cambrian’.

Ond efallai mai ei chau yw’r bwriad yn y pen draw, a hynny am nad yw’n talu i’r cwmni ei chynnal fel busnes. Ia, fel busnes cofiwch ac nid fel gwasanaeth.

Rhannu |