Colofnwyr
Crair sanctaidd heb weld golau arni ers degawdau
YN ddiweddar wrth chwilota mewn cwpwrdd yn y gegin y sylweddolais faint o fylbiau lamp y llwyddais i’w casglu dros y blynyddoedd. Bûm yn prynu rhai traddodiadol 40, 60 a 100 wat ac wedyn fe ddaeth y rhai modern sy’n arbed trydan. Mae yma, bellach, nifer fawr o’r rhai hynny gan fy mod wedi eu casglu dros y blynyddoedd diwethaf, un ai’n ‘rhodd’ gan y cwmni cyflenwi trydan, neu ar faes eisteddfod neu sioe. Lawer tro y bu imi lenwi holiadur neu arwyddo taflen i gael derbyn dau neu dri o’r bylbiau hyn a thrwy hynny, gynyddu’r stoc! Mae’n siŵr y byddai’n gryn dipyn o ‘addysg’ i ddarllen yr atebion ar yr holiaduron a chredaf fod ambell un wedi chwerthin wrth eu darllen.
Rŵan, y broblem yw nad oes terfyn buan i oes y bylbiau modern. Maent i fod i barhau am gyfnod maith, felly hel llwch a wna’r gweddill. Y mae rheswm arall, hefyd, pam nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Nid yw ambell orchudd neu ‘shade’ yn caniatáu digon o le i osod y bylbiau hir hyn, felly rhaid yw dal i ddefnyddio’r rhai traddodiadol. Y broblem yw bod y rhai 100 wat yn anodd eu cael yn y siopau a chan fod y 40 a’r 60 yn rhy wan i oleuo’r ystafelloedd, yna does dim llawer o ddewis yn y pen draw.
Mor hwylus yw taro swîts bach yn y wal i oleuo’r ystafell. Pan oeddwn yn blentyn, doedd dim trydan ym Mhenmachno, felly rhaid oedd defnyddio’r hen lamp ‘aladdin’, yr un sydd acw fel ‘crair sanctaidd’ bellach a heb weld golau arni ers degawdau. Pan fyddai’n dod yn amser gwely, y drefn wedyn fyddai mynd a channwyll i fyny i’r llofft. Argol fawr, beth fyddai gan weinyddwyr y rheolau ‘iechyd a diogelwch’ i’w ddweud wrth weld bachgen bach pump oed yn cario cannwyll i fyny’r grisiau er mwyn cael gweld lle i fynd? Fuodd na ddim tân ac ni chafwyd unrhyw losgiadau – efallai fod plant yr oes honno’n fwy cyfrifol ac yn fwy ymwybodol o’r peryglon.
Tra’n sôn am olau trydan, byddai fy nhad yn adrodd hanes dau o’r pentref a aeth i Lerpwl i aros gyda pherthnasau rhywbryd yn ystod y dauddegau. Yr oeddynt wedi ysgrifennu’r cyfeiriad ar bapur, felly wrth ddod allan o’r orsaf drenau, dyma un yn gofyn i heddwas oedd yn sefyll gerllaw: ‘Can iw pwt mi in ddy pepyr?’
Hwnnw’n deall y cais ac yn eu cyfeirio at safle bysiau oedd yn gwasanaethu’r rhan honno o’r ddinas. Ymhen hanner awr, daethant yn ôl a dweud wrth yr heddwas:
‘Iw tel big lei. Ol bysus go tw Colemans and Rowntree !’
Llwyddwyd i gyrraedd y tŷ yn y diwedd, ac wedi iddynt gael swper, aethant i’w gwlâu’n gynnar. Wrth glywed sŵn yn dod o’r llofft, aeth gwraig y tŷ i fyny ac agor y drws. Yr hyn a welodd oedd y ddau’n sefyll ar y gwely yn chwythu ar y lamp i geisio ei diffodd. Doedd yr un ohonynt wedi gweld golau trydan o’r blaen.
Erbyn heddiw, ychydig iawn o dai sydd heb drydan, gyda phob ystafell efo un, dwy neu hyd yn oed dair o lampau’n eu goleuo. Ond rhaid cadw stoc o fylbiau wrth gefn – ac mae hi’n anodd peidio â derbyn mwy ohonynt os yr ydych yn cael eu cynnig am ddim – er nad oedd trydan ar gael yng nghyfnod y Llywelyn Fawr neu’r Wiliam Morgan sydd wedi arwyddo’r papur!