Colofnwyr

RSS Icon
04 Chwefror 2011
Lyn Ebenezer

Lladron y lili wen fach!

Ni chlywais lais un utgorn

Uwch bedd y gaeaf du,

Na sŵn fel neb yn treiglo

Beddfeini wrth ddrws fy nhŷ.

Mi gysgwn mor ddidaro

 Pheilat wedi’r brad;

Ond grym yr atgyfodiad

A gerddai hyd y wlad.


Ar garreg y drws yr oeddwn i yn nôl y botel laeth. Ac yno, mewn potyn lle plannwyd llwyn o rywbeth neu’i gilydd y llynedd, safent yn grynedig rewllyd. Y diwrnod cynt, dim ond dwy goes werdd oedd yno. Nawr roedd dau eirlys wedi dadorchuddio’u pennau’n wylaidd. Arwydd fod y gwanwyn, fel erioed, yn curo ar y drws.

Ar yr union fore dyma ddarllen fod yna bris ar hyd yn oed drysorau mwyaf dinod Duw. Ar eBay roedd bwlb eirlys, neu lili wen fach (dyna’i henw i ni yn y fro hon) wedi gwerthu am £357.

Does dim byd yn well ar drothwy’r gwanwyn na gweld y blodau gwynion hyn yn garpedi hyd ochrau’r ffordd fawr yma ac acw. Ond am ba hyd y gwna’r sefyllfa barhau? Ymhlith lladron popeth ac unrhyw beth ymddangosodd y lleidr eirlysiau. A nawr mae eu dyfodol fel blodau gwyllt yn y fantol. Gymaint yw’r bygythiad fel bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi mynd ati i greu mesurau diogelwch.

Mae dwyn eirlysiau’n drosedd. Ond yn ddiweddar canfuwyd, ymhlith clympiau o’r blodau, sy’n tyfu’n wyllt ar gloddiau a than goedydd, fod yna fathau prin iawn yn cuddio. A nawr maen nhw’n dargedi i ladron. Roedd y bwlb a werthwyd ar eBay yn un o’r mathau prinnaf.

O ganlyniad i’r bygythiad annisgwyl hwn mae arbenigwyr yn mynd ati i labelu miloedd o eirlysiau gwyllt fel modd o gadw golwg arnynt. Ac mae caredigion byd natur yn cadw golwg arnynt rhag i fwy ddiflannu. Yn wir, lluniwyd map cyfrin sy’n dangos i’r gwylwyr leoliadau’r mathau prinnaf o eirlysiau.

Na, does yna ddim byd sy’n sanctaidd mwy. Mae hyd yn oed y mwyaf gwylaidd o flodau’n syrthio’n ebyrth i fwystfilod rheibus. Oes, mae yna ddihirod sydd hyd yn oed yn ceisio dwyn y gwanwyn oddi wrthym.

Y math a werthwyd ar eBay, gyda llaw, oedd y Galanthus Plicatws E A Bowles, wedi ei enwi ar ôl y garddwr a’i darganfu wyth mlynedd yn ôl. Bridiwyd y blodyn prin hwn yn Colesbourne Park, Sir Gaerloyw. Mae’r blodyn yn gwbl wyn, heb fod arno unrhyw arlliw o wyrddni.

Y Rhufeiniaid, mae’n debyg, ddaeth ag eirlysiau i wledydd Prydain. Ddim ond wedi Rhyfel Crimea, yn yr 1850au y dechreuodd y diddordeb ynddynt dyfu. Ond nawr mae’r blodyn bach a lonnodd galon Cynan mewn perygl.


Oblegid pan ddeffroais

Ac agor heddiw’r drws

Fel ganwaith yn fy hiraeth,

Wele’r eirlysiau tlws

‘Oll yn eu gynnau gwynion

Ac ar eu newydd wedd

Yn debyg eu Harglwydd

Yn dod i’r lan o’r bedd.

Nawr mae’r Atgyfodiad ei hun mewn perygl.

Rhannu |