Colofnwyr
Cartref delfrydol i lygod mawr
MAE yna lygod mawr yn Rhif 10 Stryd Downing. Dydi hynna fawr o syndod, wrth gwrs. Mae’n gyfystyr â dweud fod lladron yn Wormwood Scrubs. Yn wir, Rhif 10 Downing Street yw’r lle delfrydol i lygod mawr. Fe ddylen nhw fod yn gwbl gartrefol yno.
Wn i ddim a welsoch chi newyddion Sky nos Lun. Wel, fe wnaeth y camera lwyddo i ddal llun o lygoden fawr yn ymlwybro o Rif 10 i Rif 11. Ydi, mae cartre’r Canghellor yn lle delfrydol iddyn nhw hefyd.
Ond wyddoch chi beth, mae’n wybyddus pwy sydd ar fai am y pla sydd wedi disgyn ar y ddau dŷ. Neb llai na Cherie Blair. Mae hi, wrth gwrs, yn gynefin â ffyrdd y giwed ddieflig. Onid yw hi’n briod ag un ohonyn nhw? Ond gweithred ysgeler gan Cherie, 14eg mlynedd yn ôl, sydd wedi arwain at oresgyniad Rattus Rattus a Rattus Norvegicus, sef y llygoden fawr ddu a’r llygoden fawr frown.
Ar hyd y blynyddoedd bu cath yn un o breswylwyr Rhif 10. Pan gyrhaeddodd teulu Rattus Blairicus Rif 10, buan y sylweddolodd Cherie nad oedd lle yno i ddwy gath. O ganlyniad, chwe mis yn ddiweddarach, fe ddiflannodd Humphrey’r cwrci o dan amgylchiadau amheus. Does neb hyd y dydd heddiw’n gwybod ei dynged, druan. Nawr mae galwad am ail-sefydlu Felis Catws ar aelwyd Rhif 10.
Ystyrir y llygoden fawr fel y creadur mwyaf ffiaidd ar ddaear Duw. Mae’r math o leuen maen nhw’n gario (Louse of Commons) yn beryg bywyd. Er nad oes gofnod i James Cagney erioed ynganu’r ffregod ‘You dirty rat!’, dyna’r amarch mwyaf fedr neb ei anelu at wrthwynebydd. Mae’n debyg fod yna lygoden fawr yn llercian o fewn pum llathen i bawb ohonon ni. Cofiwch, fe fyddwn i’n teimlo’n llai diogel petai gwleidydd yn llercian o fewn yr un pellter. Ond na, y llygoden fawr yw’r ymgnawdoliad o bopeth sy’n ddrwg.
Welsoch chi’r bennod gyntaf o Alys nos Sul? Roedd yno lygod mawr yn pesgi’n braf o dan lawr fflat y ferch a rydd ei henw i’r gyfres. Gyda llaw, pam fod pawb o’r dosbarth canol yn y ddrama’n flagardiaid diegwyddor tra pawb o’r dosbarth gweithiol (neu ddi-waith) yn ‘victims’? Gallaf eich sicrhau nad yw Rattus yn gwahaniaethu rhwng dosbarthiadau. Pan own i’n byw ar waelod Rhiw Penglais, ardal fach ddosbarth canol braf yn y dyddiau hynny, fe fu aelodau o deulu Rattus yn clwydo o dan lawr fy nghartref. Byr fu eu hoedl. Torrais dwll yn y llawr a gollwng Jac y ci lawr drwyddo. Ni pharhaodd y gyflafan yn hir iawn. Petai Jac yn dal yn fyw, buaswn yn barod iawn i Alys gael ei fenthyg. Er na fedrwn i warantu diogelwch ei pholi parot.
Beth bynnag, mae Cameron a’i deulu nawr yn chwilio am gath neu gwrci addas a wna lanhau ei dŷ o lygod mawr. Y tebygolrwydd yw y gwnaiff y Prif Weinidog a’i deulu ddewis Felis Catus o blith rhai a achubwyd ac a gafodd gartref mewn canolfan gathod. Ond bydd raid i Mr neu Mrs Pwsi blesio ciwed iechyd a diogelwch yn gyntaf. Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: ‘Ry’n ni wrthi’n gwneud ymholiadau parthed sicrhau gwasanaeth cath. Ond rhaid i ni fod yn siŵr mai hynny fydd y peth iawn i’w wneud. Wedi’r cyfan, gall blew cath achosi alergedd.’
Cwestiwn arall pwysig sydd heb ei ateb yw pwy wnaiff dalu am y creadur? A phwy wnaiff gyfrannu at ei gadw? Ai ni’r trethdalwyr fydd yn talu, fel y gwnawn ar hyn o bryd tuag at gynhaliaeth cathod tewion San Steffan, ac at gewri Sosialaidd sydd bellach yn Arglwyddi? Ond siawns na fyddai’n rhatach cynnal a chadw rhyw Tidls neu Twdls na chynnal Arglwyddi porthiannus fel Kinnock ac ambell Arglwydd Swch yn y Cafn arall.
Mae dyletswyddau Felis Catus eisoes wedi eu pennu. Bydd gofyn iddo/ iddi fod ar ddyletswydd yn Rhif 10, Rhif 11 wrth gadw chwilio am lygoden fawr neu fach (y Mouse of Commons). Pe byddai modd dal y llygod mawr yn fyw, fe fyddwn i’n barod i roi cartref iddyn nhw. Yn llawer mwy parod nag y byddwn i roi cartref i ambell wleidydd.