Colofnwyr
Pwy sy’n poeni am y tri arall sydd ar goll?
MAE pum wythnos bellach ers diflaniad Joanna Yeates ym Mryste, a mis ers canfod ei chorff. Eto i gyd mae’r penawdau’n dal i gyhoeddi gwybodaeth newydd yn ddyddiol am lofruddiaeth y ferch ifanc hon. Ond ar hyn o bryd does dim arwydd fod yr heddlu’n nes at arestio neb.
Pan fo’r wasg – yn enwedig y wasg boblogaidd – yn cael ei chrafangau i stori, mae’n amharod iawn i lacio’i gafael. Byth er i gorff Joanna gael ei ganfod, bu dyfalu diddiwedd a di-sail. Trowyd y ferch ifanc yn seleb. Ac i’r wasg boblogaidd, gwell na seleb fyw yw seleb a fu farw. Ac yn well fyth, seleb a lofruddiwyd.
Do, trodd y diddordeb ym marwolaeth Joanna Yeates yn obsesiwn. Yr hyn na wneir yn hysbys yw bod Joanna yn un o bedwar o bobl ifanc a ddiflannodd yr un pryd. Ond yn wahanol i achos Joanna, does fawr neb wedi clywed am ddiflaniad y tri arall.
Diflannodd Nathan Tomlinson, 21 oed o far ym Manceinion ar ymron yr union adeg â diflaniad Joanna. Diflannodd Ciara Richards, 14 oed ar 11eg Rhagfyr ar ôl gadael ei chartref yn Hounslow, Middlesex. Diflannodd Natalie Bailey, 34 oed o Dartford yng Nghaint ar 13 Rhagfyr. Wrth i mi gofnodi’r ffeithiau hyn, maen nhw’u tri yn dal ar goll.
Pam y gwahaniaethu, felly, rhwng achos Joanna ac achosion y tri arall? Dywed y siniciaid yn ein plith mai mater o ddosbarth ydi e. Yn wahanol i’r tri arall, deuai Joanna o ddosbarth canol cefnog. Roedd hi hefyd yn ifanc a hardd a chanddi swydd broffesiynol ac yn byw mewn ardal ffasiynol. Esboniad amddiffynwyr yr holl sylw a roddir iddi yw bod Joanna wedi ei llofruddio. Ar goll mae’r tri arall. Iawn. Ond fe gafodd Joanna sylw penawdau’r tudalennau blaen cyn i’w chorff gael ei ddarganfod. Felly dyw’r ddadl ddim yn dal dŵr.
I fod yn deg, dylid cofio hefyd fod yna dri chategori o bobl sydd wedi diflannu, a dim ond rheiny sydd â risg uchel a ddewisir gan yr awdurdodau ar gyfer cyhoeddusrwydd. Cyfeiriai pob gwybodaeth am ddiflaniad Joanna at y ffaith ei bod hi’n perthyn i gategori risg uchel. Ar frig y rhestr asesiad oedd y ffaith nad oedd hi wedi bod ar goll o’r blaen. Roedd Ciara Richards, er enghraifft, wedi diflannu bum gwaith o’r blaen.
Ond arhoswch funud. Ystyrir ymhlith y diflanedig risg uchel hefyd y rheiny sy’n dioddef o broblemau meddygol, eu bod nhw’n ifanc iawn neu mewn cyflwr emosiynol. Pymtheg oed yw Ciaran. Mae Natalie Bailey yn scitsoffrenig baranoid.
Mae tua 200,000 yn diflannu yn y DG bob blwyddyn. Y llynedd, yn ardal Llunden yn unig, diflannodd dros 40,000. Mae mam Ciara, yn naturiol, yn bryderus iawn am sefyllfa ei merch. Dywed hi fod gan bobl ifanc heddiw ormod o hawliau. Mae yna ffrindiau iddi, meddai, yn gwybod ble mae hi, ond does dim rheidrwydd arnynt ddatgelu hynny.
Doedd Nathan Tomlinson ddim wedi diflannu erioed o’r blaen. Ond does dim sôn amdano. Dydi e ddim wedi hyd yn oed ffonio’i deulu. Ac am Natalie Bailey, merch o Jamaica yw hi, heb unrhyw deulu yn y DG.
Beth bynnag yw’r rheswm am y gwahaniaethu, ychydig iawn o’r rheiny sydd wedi diflannu gaiff sylw tudalennau blaen y papurau a phenawdau newyddion teledu a radio am bum wythnos.
A does gan yr heddlu ddim rheolaeth dros y cyfryngau. Ar ben hynny, nid pawb o deuluoedd pobl ddiflanedig sy’n dymuno cyhoeddusrwydd.
Ond aros heb ateb mae’r cwestiwn mawr. Pam fod diflaniad Joanna Yeates (cyn i’w chorff gael ei ddarganfod) wedi hawlio erwau o brint a miloedd o eiriau llafar tra bod bron neb wedi clywed am Nathan Tomlinson, Ciara Richards na Natalie Bailey? Pam nad yw’r Sun wedi cynnig £50,000 am wybodaeth a allai arwain at ganfod yr un o’r rheiny?
Gobeithiaf yn fawr y canfyddir llofrudd Joanna Yeates. Gobeithiaf hefyd y canfyddir Nathan Tomlinson, Ciara Richards a Natalie Bailey yn fyw ac yn iach. Ond dydw’i ddim yn dal fy anadl.