Colofnwyr
Un gair am fwriadau Lloegr!
FE ddywedodd Billy Bingham unwaith mai cyfrinach llwyddiant mewn gêm bêl-droed oedd sgorio gôl gyfartal cyn i’ch gwrthwynebwyr sgorio o gwbl. Dywediad nodweddiadol, hwyrach, gan Wyddel. Ac yn ogystal â bod yn chwaraewr gwych i’w wlad, bu Billy hefyd yn rheolwr clwb llwyddiannus, yn cynnwys llwyddiant mawr gydag Everton, a dau gyfnod fel rheolwr ei wlad, Gogledd Iwerddon.
Fe ddaeth Billy i gof wrth i Gymdeithas Bêl-droed Loegr benderfynu coffau canmlwyddiant a hanner y Gymdeithas Bêl-droed drwy ail-sefydlu’r bencampwriaeth gêmau domestig yn 2013. Unwaith eto, felly, cawn Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgiprys â’i gilydd. Ond am un tymor yn unig. Does gan y Saeson ddim diddordeb mewn gwneud hwn yn drefniant parhaol.
Y gêm olaf i Gymru yn y bencampwriaeth ddomestig, os cofiaf yn iawn, oedd honno yn erbyn Gogledd Iwerddon ar Gae’r Vetch yn Abertawe yn 1984. Rown i yno gyda Dylan, y mab. Cofiaf yn dda mai uchafbwynt yr ymweliad fu i’r ddau ohonom gyfarfod â Pat Jennings, a chael eistedd wrth ei ymyl ar fws y tîm. Roedd Pat yn gawr o ddyn ym mhob ffordd, ac yn ŵr bonheddig.
Digwyddiad cofiadwy arall fu cael eistedd yn lloc y newyddiadurwyr yn ymyl Danny Blanchflower, a mwynhau peint gydag ef ar hanner amser ac ar ddiwedd y gêm. Ac oedd, roedd Danny’n gymeriad a hanner.
Wrth i chwaraewyr a swyddogion Gogledd Iwerddon gerdded allan i’r bws, cefais gyfle i gael sgwrs â Billy Bingham. Gofynnais iddo beth oedd ei deimladau o weld diwedd pencampwriaeth bwysig yn hanes pêl-droed yng Ngwledydd Prydain. Teimlai’n drist odiaeth. Penderfyniad Lloegr oedd dod â’r trefniant i ben, wrth gwrs. A phan ofynnais iddo’i farn am Loegr yng nghyswllt hyn, atebodd gydag un gair, na allaf ei ail-adrodd yn y golofn hon.
Fe fyddai cynrychiolwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth eu bodd yn gweld yr atgyfodiad yn dod yn rhywbeth parhaol. Ac mae rhai o gyn-sêr Lloegr, yn cynnwys Martin Peters a Gordon Banks wedi datgan eu cefnogaeth. Ond nid felly Gymdeithas Bêl-droed Lloegr. Ac fe gaiff y corff hwnnw ei ffordd, wrth gwrs. Yn wir, aeth Banks mor bell â dweud y byddai ennill y bencampwriaeth ddomestig mor bwysig iddo ef ag ennill unrhyw bencampwriaeth. Dweud mawr gan aelod o dîm buddugol Cwpan y Byd yn 1966. Roedd rhyw angerdd, meddai, mewn wynebu’r timau Celtaidd eraill.
Dadl Lloegr, meddai Peters, oedd y byddai chwarae’r gêmau domestig hyn yn flynyddol unwaith eto yn llesteirio yn hytrach na chynorthwyo Lloegr. Ond anghytunai ef. Dyma, meddai, y dull gorau o adeiladu tîm rhyngwladol.
Un ateb fyddai i’r tair gwlad arall – y gwledydd Celtaidd – drefnu eu pencampwriaeth eu hunain a gadael i Loegr fynd eu ffordd eu hunain. Ond ar y gorwel mae yna berygl. Pan gynhelir Mabolgampau Olympaidd 2012, mae arwyddion eisoes fod yna symudiad tuag at greu tîm pêl-droed Prydeinig. Yn anffodus, mae Gareth Bale ymhlith rhai Cymry a fyddai’n croesawu hynny.
Pe sefydlid tîm Prydeinig, hwnnw fyddai’r cam cyntaf tuag at ddiddymu timau cenedlaethol y gwledydd Celtaidd yn llwyr. Mae FIFA, y bwrdd rheoli rhyngwladol, yn chwilio am ffyrdd i dorri allan nifer o wledydd sefydledig er mwyn creu lle i wledydd newydd. Byddai cynnwys chwaraewyr Cymreig, Albanaidd a Gwyddelig mewn tîm Prydeinig yn esgus gwych iddynt.
Beth, felly, am fwriadau Lloegr? Fe’u disgrifiaf, fel Billy Bingham, mewn un gair. Ond ddim ond yn fy mhen. Wna’i ddim o’i ail-adrodd yma!