Colofnwyr

RSS Icon
20 Hydref 2011

Curo plant yn arwain at gylch dieflig

WN i ddim sawl tro y gwnaeth Nhad fygwth crasfa i mi. Ond fe wn i ba sawl tro y gwireddodd ei fygythiad – ddim unwaith. Roedd y bygythiad yn ddigon. A dyna fel bu hi gyda’m ffrindiau agos, rwy’n siŵr. Chlywais i’r un ohonyn nhw’n cwyno bryd hynny nac wedyn.

Yr wythnos hon fe wnaeth Aelodau’r Cynulliad yn cynrychioli tair plaid osod cynnig gerbron yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau deddfwriaethau fyddai’n gwahardd cystwyo plentyn yn gorfforol. A chytunaf yn llwyr â’r Aelodau hynny. Os oes raid i riant glatsio plentyn, yna mae’n arwydd o fethiant rhiant nid yn gymaint â chamfihafio ar ran y plentyn.

Mae’r un peth yn wir am athro. Er bod gen i gydymdeimlad llwyr ag athrawon sy’n gorfod dioddef ymddygiad barbaraidd gan rai plant. Duw a ŵyr, dydw’i ddim yn un o’r lefftis trendi. Ond i mi does gan yr un athro nag athrawes yr hawl i glatsio plentyn rhywun arall. Na’i blentyn ei hun, o ran hynny. Mae amddiffyn eu hunain yn fater cwbl wahanol.

Do, magwyd fi ar aelwyd di-wialen a di-glatsio. Cafodd hynny ddylanwad arnaf finnau yn ei dro. Chodais i ddim llaw yn erbyn Dylan erioed. A gwn mai’r un fydd y stori yn ei hanes ef a’i ferch.

Cofiwch, roedd athrawon yn wahanol. Yn allanol roedd y Sgwlyn, John Griffith Williams, prifathro Ysgol Y Bont yn sant. Ond pan fyddai’n gwenu, dyna pryd fyddai ar ei beryclaf. Gosodai ei law ar fy mhen fel petai’n dweud, ‘Da iawn chi.’ Yna cydiai mewn cudyn o wallt (do, fe fu gen i wallt unwaith) a’i dynnu bron iawn o’r gwraidd.

Bryd arall safai y tu ôl i mi’n darllen fy ngwaith dros fy ysgwydd. Yna byddai’n cydio’n ysgafn yn fy ysgwydd. A gwyddwn beth ddeuai nesa – gwasged a phinsiad nes y byddwn ar fy ngliniau, bron. Chefais i erioed ddiodde’r gansen ganddo. Ond gwell fuasai un ergyd gwta ar honno na’r artaith arall hwnnw.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |