Colofnwyr
Sen ar anffyddwyr?
Roedd dydd Sul diwethaf yn ddyddiad arwyddocaol ar ein calendrau ni yn y fro hon. Ar 25 Medi y disgynnai dyddiad Ffair Gŵyl y Grog bob blwyddyn. Daeth i ben ganol y chwedegau, ond deil ar gof a chadw llawer ohonom, yr hen a’r canol oed.
Roedd Ffair Gŵyl y Grog y pumed o ffeiriau blynyddol a gychwynnwyd gan fynachod Ystrad Fflur. Fyny ar Ros Gelli Gron, lle’r oedd y fynachlog wreiddiol y cynhelid nhw gyntaf. Yna, wedi ail-godi abaty ar y safle presennol symudodd y ffeiriau i Ffair Rhos. Ac yna, gyda dim ond un ffair yn weddill, fe’i symudwyd i lawr gwlad i’r Bont.
Ond tybed nad yw’r ŵyl yn hŷn nag a feddyliwyd? Yn y Llew Coch nos Sadwrn cafwyd damcaniaeth ddiddorol gan fy nghyd-golofnydd Raymond Osbourne Jones. Cred ef mai’r rheswm gwreiddiol dros yr ŵyl oedd nodi diwedd y cynhaeaf. Hynny yw, dyna pryd fyddai’r medelwyr yn crogi eu crymanau a’u pladuriau. A wir i chi, mae’r ddamcaniaeth yn gwneud synnwyr.
Golyga hynny, wrth gwrs, ei bod hi’n bosib nad gŵyl Gristnogol oedd Ffair Gŵyl y Grog yn wreiddiol ond, yn wir, gŵyl baganaidd a drowyd yn ŵyl Gristnogol gan y mynachod. Mae yna enghreifftiau lu o ddigwyddiadau tebyg, wrth gwrs. A cheir llawer o amwysedd parthed hen arferion a dyddiadau fel hyn. Yn wir, codwyd llawer o addoldai ar safleoedd hen leoliadau paganaidd.
Daw hyn â fi’n dwt at ddadl fawr yr wythnos. Mae’r BBC, yn ei doethineb arferol, yn teimlo fod defnyddio’r acronymau BC (Cyn Crist i ni) ac AD (Oed Crist i ni) yn sen ar anffyddwyr a rhai o grefyddau eraill ac y dylid defnyddio’n hytrach BCE (Before the Common Era) ac CE (Common Era). Wn i ddim beth fyddai’r acronymau’n Gymraeg, CCC (Cyn y Cyfnod Cyffredin) ac CC (Cyfnod Cyffredin) hwyrach. Wedi i rai pobl gwyno, dyma’r Bîb yn esbonio y bydd gan y cyflwynwyr hawl i ddewis. Wel, diolch yn fawr.
I ddarllen mwyCLICIWCH YMA