Colofnwyr
Beic bach efo enaid
Roedd e yno’n disgwyl amdanaf dan gysgod coeden ffigys Andreas. Yno y’i gadewais flwyddyn yn gynharach. Yn y cyfamser, ni fu neb ar ei gyfyl. Braf oedd gweld yr hen gyfaill.
Cyfeirio ydw i at sgŵter bach ffyddlon Mici Plwm. Fe brynodd e’r Yamaha Chappy bach gwyn a choch yn ail law ymron ddeng mlynedd yn ôl at ei ddefnydd ei hun ar Ynys Agistri. Yn absenoldeb y perchennog, caf dragwyddol ryddid i’w ddefnyddio yn ystod fy ngwyliau blynyddol. Dydi e fawr cryfach na pheiriant torri lawnt 50 cc. Ond mae e’n mynd. A dyna beth sy’n cyfrif.
Byddai unrhyw un call yn wfftio’r syniad. Ond credaf yn gryf fod i ambell beiriant y fath beth ag enaid. Dyfais fecanyddol yn meddu ar gynneddf ysbrydol? Rwtsh! medde chi. Ond wrth i mi nesáu ato drwy’r brwgaitsh ar ôl blwyddyn o fod ar wahân, gwelwn yr Yahama bach yn gryndod o groeso. Oedd, roedd e’n crynu’n groesawgar fel ci yn disgwyl am ei feistr i fynd ag ef am dro. Yna dyma ruthr. Ac allan oddi tano fe saethodd gwningen goch a gwyn. Dim ond wedyn wnes i sylweddoli mai Archie, bwchyn anwes Nektaria, merch Andreas oedd wedi bod yn nythu yno.
Cofiwch, rwy’n dal i gredu fod gan y beic bach enaid. Hyd yn oed wedi i Archie ffoi, daliai i grynu. Petai ganddo gynffon, chwedl rhywun mwy dyfeisgar na mi, buasai wedi ei hysgwyd.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA