Colofnwyr

RSS Icon
25 Awst 2011
Arthur Thomas

Cofeb deilwng i Hedd Wyn o’r diwedd

……...Na, yr hyn a’m plesiodd fwyaf oedd cael ymweld â bedd Hedd Wyn yn Fflandrys, ger pentref Pilkem, sydd nid nepell o dref Ieper (neu Ypres mewn Ffrangeg). Credaf mai hwn yw’r pumed tro imi fod yno, ac mae pethau’n newid ar bob ymweliad. Y tro hwn, gwelwyd fod ychwanegiadau wedi eu gwneud i’r safle sy’n nodi’r man lle cwympodd y bardd yn ystod y frwydr. Mae’r llecyn hwnnw rhyw chwarter milltir i fyny’r ffordd o fynwent Artilery Wood lle y ceir y maen gwyn i nodi ei orffwysfan yng nghanol tua deuddeg cant arall.

Dadorchuddiwyd y plac tairieithog – Fflemeg, Cymraeg a Saesneg ar achlysur dathlu canmlwyddiant ei eni. Erbyn hyn y mae’r Ddraig Goch yn chwifio uwch y plac a’i gerdd enwocaf – ‘Rhyfel’ yn ogystal ag englyn o’i waith wedi eu gosod ar y mur o frics coch. O’r diwedd, mae cofeb deilwng iddo, fel sydd i fardd o’r Iwerddon gerllaw mynwent Artillery Wood.

Wrth droi yn Boezinge a theithio i bentref Pilkem (i gyfeiriad Langemark), dowch at stad ddiwydiannol sydd wedi tyfu gryn dipyn ers y tro diwethaf i mi fod yno. Wrth basio’r stad, gwelir arwydd brown ‘Yorkshire Trench’, ychydig cyn cyrraedd y tro i fynwent Artillery Wood. Cofiais am raglen deledu a welais yn ddiweddar oedd yn adrodd hanes darganfod ffos o’r Rhyfel Mawr wrth adeiladu’r stad. Rhaid, felly, oedd galw yno a pharcio’r car gerllaw’r llecyn. Gadawyd darn o dir a glustnodwyd ar gyfer ffatri fach yn wag ac yno y mae’r ffos. Gwagiwyd y sachau tywod a’u llenwi gyda choncrid, felly y mae’n bosib cerdded i’r ffos a chael ychydig o brofiad o’r fath le. Dyddia’r ffos hon o 1915 a chwta bum llath o’i blaen mae olion ffos arall o 1917. Ia’n wir, hynny oedd y cwbl a enillwyd mewn dwy flynedd, gyda chosb aruthrol mewn dynion, mae’n siŵr.

Mae’r tri lle y soniais amdanynt i gyd o fewn milltir i’w gilydd. Rwy’n siŵr o ddychwelyd rhyw dro eto a gobeithiaf y bydd ychwanegiadau i’r safle lle y coffeir y bardd.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |