Colofnwyr

RSS Icon
28 Ebrill 2017
Gan IESTYN TYNE

Galwad am gic ym mhen ôl y parchusrwydd bondigrybwyll

CARLOW, yr oeddet wych! Wythnos o chwerthin, creu cerddoriaeth ac yfed gormod o Smithwicks yn ogystal ag ambell drip allan i’r wlad oedd wythnos yr Ŵyl Ban Geltaidd i’n criw bach ni a aeth draw i’r Ynys Werdd yn y fan.

Mi wnaethom ni ganu Bwlch Llanberis ar ein ffidils yng nghysgod cromlech drymaf Ewrop, a bysgio Arglwydd Dyma Fi mewn harmoni 4-rhan ar y stryd fawr – roedd pawb wrth eu boddau.

Tydi dawnsio i berfformiad byw gan Dafydd Iwan ddim yn digwydd yn aml bellach, chwaith. Ond, er mwynhau cymaint, mi gefais fy siomi i’r un graddau gan rai pethau.

Roedd yna gynrychiolaeth wych o bobl ifanc o’r gwledydd Celtaidd eraill, ac mi roeddan nhw yno hefo ni yn canu yn y tafarndai tan berfeddion ac yn perfformio ar y strydoedd.

Dwi wedi dod i nabod llwyth o rai eraill sydd yn rhannu fy niddordebau, ac yr un mor angerddol dros eu hieithoedd a’u diwylliannau bychain eu hunain.

Ac roeddan nhw yno i rannu hynny hefo ni.

Criw hŷn oedd wedi dod draw o Gymru ar y cyfan, a hynny’n teimlo fel petai’n rhyw ‘jolly’ blynyddol neu drip ysgol Sul i gael gweld hen ffrindiau o Gymru yn fwy na’r gwledydd eraill.

Pobl hyfryd, wrth gwrs, ac aml i un o’m cydnabod fy hun, ond nid y gorau i gynrychioli Cymru fel ag y mae hi yn y flwyddyn 2017. 

Teimlais fod rhyw ynysigrwydd yn perthyn i gyfran helaeth o’r gynrychiolaeth Gymraeg (dwi ddim o reidrwydd yn cyfeirio atoch CHI) a oedd yn eu cadw nhw draw o fwrlwm y digwyddiadau.

Roedd y rhan fwyaf o’r digwyddiadau Cymreig yn cael eu cynnal yng ngwestai crand y Talbot a’r Seven Oaks allan ar gyrion y dre. Roeddwn i’n teimlo y gallai’r nosweithiau Cymreig bron a bod wedi cael eu cynnal mewn tref yng Nghymru, ac mi fyddai eu dylanwad wedi bod yr un fath – nid oherwydd diffyg talent, ond oherwydd diffyg pobl o’r gwledydd eraill yn y gynulleidfa.

A oedd hyn yn adlewyrchu amharodrwydd y Cymry yn eu parchusrwydd bodlon i wahodd pobl i fewn o’r tu allan i gyd-fwynhau? Yn fy marn i, mae hynny’n ddigon posib. Oes yna snobyddiaeth a theimlo ein bod ni’n well? Garantîd.

Digon gwir yw dweud bod ein hiaith ni dal gennym ni, ac yn gryfach o beth wmbredd na ieithoedd y gwledydd Celtaidd eraill, ond mae sefyllfa’r Gymraeg yn ddrych o sefyllfa’r Wyddeleg fel y mae hi wedi bod o fewn y cof cyfredol.

Ar ben hynny, mae’r Gwyddelod a’r Albanwyr wedi gweld tranc eu hieithoedd eu hunain fwy neu lai, sydd wedi eu sbarduno i frwydro’n galetach fyth dros bethau fel goroesiad eu cerddoriaeth draddodiadol, ac maen nhw ymhell ar y blaen yn hynny o beth.

Roedd yna orbwyslais ar gystadlaethau fel yr Eisteddfod a’r Ŵyl Gerdd Dant hefyd.
Byddai grwpiau yn cael eu cyflwyno fel ‘so and so, and they have won many prizes at the National Eisteddfod,’ neu ‘so and so, and they’re always on S4C.’ Fel petai hynny yr unig fesurydd o safon sydd gennym ni yma yng Nghymru. 

Tydi’r pethau yma ddim o bwys mawr i’r gynulleidfa ryngwladol – adloniant ydi beth mae’r rheini am ei gael, ac os ydym ni am gyfyngu ein hunain i’r rhai sydd yn cystadlu am wobrau eisteddfodol yna mae hi’n dywyll iawn arnom ni, ac mae peryg i bobl feddwl ein bod ni’n byw mewn rhyw fath o ffantasi Fictorianaidd. 

Mae angen i’r Cymry gael eu gweld yn canu ac yn perfformio o dan amgylchiadau llai ffurfiol – yn y pybs (a thrwy hynny, nid bar crand y Seven Oaks dwi’n ei olygu) ac ar y strydoedd; mae angen i’r Cymry fod yn gwneud i’n diwylliant gwerin ni edrych yn cŵl.

Nid dweud ydw i bod angen colli’r hen draddodiadau – mi’r ydw i yr un mor danbaid drostyn nhw a neb, fel y bydd y rhai ohonoch sy’n fy adnabod yn gwybod yn iawn, ond mae angen edrych y tu hwnt i’r corau a’r partïon cerdd dant a’r dawnswyr gwerin.

Does dim rhaid wrth ffedog a het wirion i ddawnsio gwerin – mi fedrwch ddawnsio gwerin yn eich dillad bob dydd yn lle bynnag y mynnwch chi, a does dim rhaid wrth gennin pedr blastig a chrys du na bod yn rhan o gôr i ganu. 

Mae yna broblem yn y ffaith mai pwyllgor yng Nghymru sy’n ‘dewis’ y gynrychiolaeth oddi yma bob blwyddyn.

Gall deimlo braidd wedyn fel bod y siop ar gau os nad ydych chi’n nabod y bobl iawn, ac mi fuaswn yn mynd mor bell a dweud nad oes diffyg sail i’r teimlad hwnnw, chwaith.

Dylai mynd i gynrychioli Cymru mewn gwlad Geltaidd arall fod yn ddewis sydd gan bawb, ond mae’n bur amlwg i mi mai’r un bobl sy’n troi i fyny ar y bws yn nociau Dulyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, a beth sy’n gynhyrchiol am hynny?

Mae’r partïon a’r corau sy’n mynd bob blwddyn yn wych iawn iawn, ond ni ddylai’r ddelwedd honno ein diffinio. 

Galwad ydi’r darn yma felly yn fwy na dim. Galwad am gic ym mhen ôl y parchusrwydd bondigrybwyll a galwad i’r bobl ifanc niferus hynny sy’n teimlo’n gryf dros eu diwylliant a’u traddodiadau godi pac am wythnos a dŵad draw i Derry flwyddyn nesaf ar gyfer yr Ŵyl Ban Geltaidd. 

Dŵad am sesh, a dŵad hefyd i ganu caneuon hen a newydd fel ei gilydd, a phrofi ar lwyfan ryngwladol nad breuddwydion sydd wedi encilio i fyd y genhedlaeth hŷn yw ein hiaith a’n diwylliant.

Rydan ni’n wlad sydd ar ganol profi adfywiad aruthrol yn ein cerddoriaeth ein hunain.
Mae angen i ni ddangos hynny i’n cefndryd Celtaidd hefyd, rhag ofn i ni gael ein gadael ar ôl.

Llun: Y bardd a'r cerddor Iestyn Tyne

Rhannu |