Colofnwyr

RSS Icon
11 Ebrill 2017
Gan LYN EBENEZER

Neb yn dal unrhyw ddig am gynnwys cyfrol Operation Julie

DDEUGAIN mlynedd yn ôl daeth ymgyrch Operation Julie i ben gyda charchariad 17 o ddiffynyddion am gyfanswm o 130 o flynyddoedd. Yn ystod yr ymgyrch i gael hyd i wneuthurwyr a gwerthwyr LSD yng nghanolbarth Cymru a Llundain canfuwyd 6 miliwn tab o’r cyffur. Arestiwyd 120 o bobl a chanfuwyd gwerth £100 miliwn ynghyd â chelc arian o £800,000 mewn cyfrifon banc yn y Swistir.

Mae hanes Operation Julie yn darllen fwy fel nofel gyffrous nag ydyw o ran ffeithiau.

Daeth mannau fel Carno, Tregaron a Llanddewibrefi i sylw byd eang. A’r rhyfeddod yw, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, na chlywch chi fawr ddim casineb na drwgdeimlad tuag at y rhai a fu’n ganolog i’r fenter o gynhyrchu a gwerthu’r cyffur. 

Yn ystod ymgyrch yr heddlu roeddwn i’n byw yn Aberystwyth ac yn treulio llawer o amser nôl yma yn y Bont. Ond wyddwn i ddim byd am y busnes nes i’r arestio ddigwydd. Eto i gyd, wrth edrych yn ôl, yr oedd yna gliwiau. 

Un prynhawn yn y Talbot yn Nhregaron fe wnaeth cyfaill i mi adrodd stori ryfedd iawn. Roedd dieithrin yn y bar ychydig nosweithiau cynt wedi cynnig arian mawr iddo am ofalu am fag a gariai’r dieithryn. Gwrthod wnaeth fy nghyfaill am y gofidiai fod arfau yn y bag. 

Cofiaf fod ym mar y Clwb Chwaraeon yn Aber un noson a chriw o tua dwsin o ddynion swnllyd a meddw yno. Credwn mai criw yn perthyn i rhyw glwb rygbi oedd yno’n dathlu. Dim ond fisoedd wedyn y canfum mai aelodau o heddlu cudd Operation Julie oedden nhw.

Erbyn heddiw mae hanes Operation Julie wedi troi’n rhan o chwedloniaeth. A’r gwir amdani yw fod llawer iawn o’r ‘ffeithiau’ wedi eu gorliwio ac yn wir rai wedi eu seilio ar gelwydd. Yn ei gyfrol, pwysleisia Dick Lee, un o brif swyddogion yr ymgyrch berygl LSD.

Cyfeiria at ferch ifanc a fu farw o effeithiau’r cyffur. Yr hyn na cheir yw nad yr LSD a gyhyrchid yng Ngharno oedd hwnnw. Y puraf oll yw’r cyffur, y lleiaf peryglus y mae, ac roedd LSD Richard Kemp, a drigai yn Nhregaron bron iawn yn bur gant y cant. 

Gwneir môr a mynydd o’r ‘ffaith’ i Operation Julie roi terfyn ar y farchnad LSD yn fyd-eang. Y gwir amdani oedd fod LSD wedi ail-ymddangos hyd yn oed cyn i’r achos ym Mryste ddod i ben. Tolcio’r farchnad dros dro wnaeth Operation Julie.

Fy mwriad wrth ysgrifennu hanes Operation Julie yn 2010 oedd dangos sut y bu i fewnfudo’r chwech a’r saithdegau newid cymeriad cymunedau cefn gwlad yn llwyr.

Roedd yna dri math o fewnfudwyr. Criw’r ‘Good Life’ oedd rhai. Roedd y rhain gan fwyaf wedi prynu hen fwthyn diarffordd yng nghefn gwlad Ceredigion er mwyn tyfu llysiau.

Ymlid breuddwyd a wnai’r rhan fwyaf o’r rhain gan gael eu dadrithio’n fuan iawn.

Iypis oedd yr ail garfan, pobl gefnog wedi ymddeol yn gynnar a gwerthu eu cartrefi dinesig am grocpris a phrynu bwthyn cefn gwlad am bris bitw. Maen nhw’n dal i lifo tuag yma.

Yn drydydd roedd yr hipis, pobl ifanc gan fwyaf wedi cael lond bol ar fateroliaeth. Mynd a dod a wnai llawer. Dewisodd eraill aros gan droi hen furddunod yn gartrefi. Roedd y mwyafrif mawr o’r rhain yn bobl ifanc deallus 

Weithiau ceid dau neu’r tri categori’n toddi’n un. Dyna’i chi’r cemegydd disglair a greai’r cyffur, Richard Kemp a’i bartner, Christine Bott. Roedd ef yn raddedig o Goleg Caergrawnt tra hi’n feddyg. Prynasant fwthyn Penlleinau ym Mlaencaron am £9,000. 

I Landdewibrefi chwe milltir i ffwrdd symudodd Alston Hughes o Ganolbarth Lloegr. Yn ŵr tra chymdeithasol ac yn gryn gymêr enillodd ei blwyf yn fuan iawn. Yr hyn na wyddai neb oedd mai ef oedd un o’r prif werthwyr. Ond yr eironi oedd, er nad oedd ond chwe milltir rhwng y gwneuthurwr a’r gwerthwr, ni wyddai’r naill am fodolaeth y llall.

Ers i mi ysgrifennu’r gyfrol deuthum i adnabod tri o’r dynion a garcharwyd. Byddant yn cysylltu â mi’n achlysurol. Rwyf hefyd yn adnabod aelodau o’r heddlu oedd yn rhan o Operation Julie. Does neb o’r naill garfan na’r llall yn dal unrhyw ddig am gynnwys y gyfrol. Teimlaf felly i mi daro nodyn sy’n dderbyniol. 

Fel y nodais yn gynharach, ewch i Dregaron neu Landdewibrefi a soniwch am y ‘dynion drwg’ a fu’n cynhyrchu a gwerthu LSD yn eu plith ac ni chlywch unrhyw eiriau croes. Ystyrir nhw’n union fel yr edrychir ar gymeriad lliwgar arall o’r fro ganrifoedd yn gynharach, sef Twm Shôn Cati.

Rhannu |