Colofnwyr
Cynnu tân ar hen aelwyd
O bryd i’w gilydd gofynnir i mi adolygu ambell gyfrol. Ac o wneud hynny sylwais yn ddiweddar ar rywbeth sy’n gyffredin iawn rhwng awduron a cholofnwyr – fi yn eu plith – sef bod yr arddull yn aml yn fflat a difflach. Gall hyd yn oed y syniad gorau gael ei becynnu mewn arddull ddienaid. A deuthum i’r casgliad mai’r rheswm yw ein bod ni, y rhelyw ohonom, wedi cefnu ar y defnydd o idiomau.
Idiomau i mi yw morter muriau’r iaith. Dyma beth sy’n ei chynnal. Buont yn rhan naturiol o iaith pawb ohonom. Roedd cymeriadau’r ardal hon yn frith o idiomau a phriod-ddulliau pert. Byddai Mam, wrth sôn am rywun oedd yn baent a phowdwr ac yn jinglings i gyd fel ‘pen punt a thin dimau’. Dyna’i chi wedyn rywun oedd yn ymddangos fel sant ond yn gas i’w wraig a’i deulu: ‘angel pen ffordd ond diawl pen pentan’.
Un o’r mwyaf gwreiddiol ei hidiomau oedd Meri Bwlch-gwynt. Disgrifiai rywun a oedd wedi ei esgymuno gan ei deulu, neu rywun oedd yn honni bod yn gefnog ond a oedd, mewn gwirionedd, heb ddimau goch y delyn fel ‘etifedd heble’. Hynny yw, etifedd heb le. A beth am rywun wedyn a oedd yn meddu ar yr un beiau â’i dad neu ei fam? Wel, ‘pwdin o’r un badell’ oedd rhai felly.
Bu’r rhain yn idiomau cydnabyddedig yn y fro. Ond weithiau deuai perl annisgwyl. Roedd dwy gymdoges wedi symud o rostir Ffair Rhos i fyw mewn tai cyngor yn y pentref. Un dydd roedd un ohonynt yn brolio wrth y ddynes drws nesaf am ei chelfi a’i charpedi newydd. A dyma’r gyn-gymdoges yn gweiddi lawr y stryd: ‘Cau dy geg. Rwy’n cofio adeg pan fyddai’r ddwy ohonon ni’n caca yn yr un pwll mawn’. Ardderchog.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA