Colofnwyr

RSS Icon
03 Mawrth 2017

Galwadau gwirion y ffyliaid gor wleidyddol

Rwy am gychwyn heddiw gyda chân werin newydd, os nad ydi hynny'n wrth-ddweud:

Ffarwel i Gaws Caerffili,

Ffarwel i Halen Môn,

Ffarwel i Roc Pwllheli,

Amdanynt ni fydd son…

Gallwn fynd ymlaen i gynnwys Cwrw Llŷn a Phenwaig Nefyn, Tatws Penfro a Theisennau Berffro. Dyna'i chi Gaws Cenarth wedyn a Rhofiau Aberaeron. Cyn hir, os caiff un garfan ei ffordd byddant oll yn diflannu. Hynny yw, eu henwau.

Darllen wnes i am alwad ddiweddaraf y ffyliaid gôr wleidyddol gywir sy'n ymddangos fel madarch y dyddiau hyn. A'r diweddaraf yw un o'r rhai mwyaf gwirion hyd yma. Ac mae hynna'n ddweud mawr. Myfyriwr sydd wrth wraidd y gri o'r galon. Ydych chi'n synnu? Ffromodd y ceidwad sensitifrwydd hwn wrth weld ar fwydlen yn Pembroke College yng Nghaergrawnt bryd o fwyd wedi ei enwi'n Stiw Jamaicaidd ymhlith y prydau oedd ar gael.

Dilynwyd hyn gyda chwŷn am gynnwys Cyw Iâr Tsieineaidd. Yna dyma gŵyn am gynnwys Pastai Pysgod Indiaidd a Reis Tiwnisiaidd. Ond fel petai hynna ddim yn ddigon drwg mae awdurdodau'r coleg wedi gado y gwnawn nhw adolygu eu polisi er mwyn amddiffyn myfyrwyr rhag unrhyw 'gamarweiniad diwylliannol'. Ydi, mae disgrifio stiw bîff a mango fel stiw Jamaicaidd.

Disgrifiodd cefnogwr i'r alwad yr hyn sy'n ymddangos yn llawer rhy aml ar fwydlenni fel 'micro aggression', beth bynnag yw ystyr hynny. Ofnaf fod cywirdeb gwleidyddol wedi mynd yn rhemp.

Y tristwch yw bod sefydliadau yn plygu i alwadau dwl fel hyn. Nododd y newyddiadurwraig Libby Purves rybudd ar raglen perfformiad gan y Royal Court Theatre yn rhybuddio aelodau o'r gynulleidfa o'r posibilrwydd o ddioddef 'trallod eithafol'. Dylai Radio Cymru gynnwys rhybudd tebyg cyn y rhaglen sy'n cychwyn ychydig wedi dau o'r gloch y prynhawn yn ddyddiol.

Mae rhai prifysgolion yn awr yn cyhoeddi eu bod yn caniatáu i unrhyw un mewn darlith sy'n cynnwys rhywbeth sy'n eu trallodi adael y ddarlith honno. Y pynciau sy'n berthnasol yw ffotograffiaeth, y gyfraith, gwleidyddiaeth ac - o bob pwnc - gwyddor fforensig! Fedrwch chi astudio gwyddor fforensig heb ddangos delweddau a allant beri trallod?

Yn Rhydychen mae un o ddarlithwyr y gyfraith yn caniatáu i fyfyrwyr hepgor trafod troseddau rhyw. Yng Ngholeg Harvard yn America argymhellwyd na ddylid wrth astudio'r gyfraith drafod y gyfraith parthed trais rhywiol o gwbl am y gallai hynny achosi trallod i'r myfyrwyr sy'n dilyn y cwrs. Yn America eto mae rhai cyhoeddwyr llyfrau bellach yn cyflogi darllenwyr i graffu ar gynnwys llyfrau rhag ofn eu bod yn cynnwys, ac yma rwy'n dyfynnu, 'anything which might be culturally less than tactful, or indicate bias, stereotypes or negatively charged language about gender, race, disability or sexual representation.' Faint o lyfrau wnaent fodlonai’r rheol honna? Ddim llawer.

Wn i ddim beth sydd wedi digwydd i rai myfyrwyr. Yn y gorffennol disgwylid i bob myfyriwr gwerth ei halen i wrthwynebu'r fath rwtsh yn hytrach na'i annog. Fy ngofid mwyaf i fel myfyriwr yn Aber oedd gwybod a fyddai loc-in yn y Skinners. Dyna pam mai dim ond dwy flynedd wnes i bara yno.

Heddiw mai camenwi pryd o fwyd yn Jamaican Stew yn ddigon i yrru rhai i apoplecsi. Chwarae teg i un myfyriwr yn Pembroke College gofynnodd yn wylaidd a oedd ganddo hawl i fwyta Yorkshire Pudding?

Mae hyn oll yn gwneud i mi ofyn hyn: oes hawl gan Brifysgol Caergrawnt i alw un o'i cholegau yn Pembroke College? Dim ond gofyn.

Rhannu |