Colofnwyr

RSS Icon
23 Chwefror 2017

Gwahodd Pantycelyn a Bob Dylan i ginio

Ddydd Sul yr 11eg o'r mis hwn roedd hi'n ben-blwydd William Williams Pantycelyn. Fe'i ganwyd 300 mlynedd i'r diwrnod.

Edrychais ymlaen at raglen addas ar S4C. Fe'i cefais ar ffurf 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol'. Da fu dewis Gwawr Edwards i gyflwyno. Trueni na chafodd hefyd ganu un o galsuron y Pêr Ganiedydd. Da fu gwrando ar eiriau deallus Wyn James am Williams y dyn a'r emynydd, ei fywyd a'i waith.

Ond ai dyma oedd ac a fydd swm a sylwedd S4C fel dathliad? Os hynny, caf fy siomi'n fawr.

Onid yw bardd crefyddol mwyaf Ewrop, chwedl Gwenallt, yn haeddu rhaglen ddogfen swmpus? Neu hyd yn oed ffilm? Hwyrach y bydd yna raglen neu ffilm. Dydw'i ddim yn dal fy anadl. Ond os oes yna fwriad, onid hwn oedd yr amser i ddangos y fath raglen?

Fe wnaeth Radio Cymru dalu cryn sylw i'r digwyddiad. A diolch i'r Doctor Derec Llwyd Morgan am ei eiriau call ar wefan BBC Cymru Fyw. Nododd fod dathliad canmlwyddiant Roald Dahl ac un Dylan Thomas wedi derbyn arian sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

Ni chyfrannwyd yr un geiniog tuag at ddathliad tri chanfed penblwydd Pantycelyn. Mae hyn yn dweud y cyfan amdanom fel cenedl.

Fe wnaeth Derec grynhoi'n berffaith y sefyllfa sydd ohoni.

"Wrth gwrs," meddai, "y mae gwerth masnachol i enwau Dylan Thomas a Roald Dahl; gallant ddenu Americaniaid ac eraill i dreulio'u gwyliau yng Nghymru a llenwi tipyn ar goffrau'r hen wlad. Am Williams, efallai y bydd llond ugain bws o gapelwyr sy'n dotio ar ei lu emynau yn ymweld â'r hen ffarm lle trigodd gynt y tu allan i Lanymddyfri, ond dyna'r oll."

Byddaf yn troi at emynau Williams byth a hefyd. Yn wir byddaf yn meddwl amdano'n aml. Dychmygaf ei weld ar ei geffyl yn marchogaeth heibio. Ac fe fu yn y cyffiniau hyn. Bu yn ysgoldy Pengarn filltir o'm cartref a chredir iddo hefyd ymweld â naill ai Ystrad Meurig neu Dŷ'n-y-graig.

Yn aml bydd holiaduron mewn papurau neu gylchgronau yn holi pobl amlwg. Un cwestiwn a gynhwysir yn aml yw: pwy fyddech chi'n wahodd i ginio? Mae gen i ateb parod sef Pantycelyn a Bob Dylan. Pam Bob Dylan, medde chi? Wel, fe wnaeth yntau gyfansoddi emynau, rhai ohonynt yn dra eneidiol. Un ohonynt yw 'I Believe in You.'

Dyma i chi rai llinellau:

I believe in you when winter turns to summer,
I believe in you when white turns to black,
I believe in you even though I be outnumbered,
Oh, though the earth may shake me,
Oh, though my friends forsake me,
Oh, even that couldn't make me go back.

Dyna braf fyddai cael gwrando ar y ddau'n mynd drwy eu pethe. Ac o feddwl am Williams a'r miloedd milltiroedd a deithiodd o fan i fan, byddai geiriau emyn a recordiwyd gan Bob ddwy flynedd yn ôl, 'Stay with Me' yn hynod addas:

I grow cold, I grow weary
And I know I have sinned
And I go, seeking shelter
And I cry in the wind;
Though I grope and I blunder
And I'm weak and I'm wrong,

Though the road buckles under
Where I walk, walk along,
Till I find to my wonder
Every path leads to Thee,
All that I can do is pray,
Stay with me

Rhannu |