Colofnwyr

RSS Icon
12 Awst 2011

Rwy’n falch i mi dderbyn yr anrhydedd

PETAI rhywun wedi dweud wrtha’i hanner canrif yn ôl y byddwn, rywbryd, yn cael fy ngwahodd i fod yn aelod o’r Orsedd byddwn wedi chwerthin yn uchel. I mi, yn fy ieuenctid ffôl, fersiwn ddiwylliannol o’r Seiri Rhyddion oedd yr Orsedd, tipyn o gyff gwawd. Doedd hi’n ddim ond cyfrwng i ddynion a menywod hunanbwysig yn eu hoed a’u hamser i wneud ffyliaid o’u hunain.

Wrth i mi fynychu Eisteddfodau Cenedlaethol ar hyd y blynyddoedd yn rhinwedd fy swydd fel newyddiadurwr, newidiais fy meddwl. Deuthum i werthfawrogi’r sefydliad. Ond hyd yn oed wedyn, wnaeth e ddim hyd yn oed croesi fy meddwl y byddwn i, un diwrnod, yn cael bod yn aelod o’r cylch anrhydeddus hwn. Yn wir, hyd yn oed wedi i mi dderbyn y gwahoddiad, bûm mewn cyfyng gyngor am hydoedd cyn penderfynu.

Yr hyn a drodd y fantol oedd clywed, drwy ddirgel ffyrdd, pwy wnaeth fy enwebu. Dydw’i ddim gant y cant yn sicr, ond mae gen i deimlad mai fy hen gyfaill Selwyn Jones oedd un ac mai Aled Parc Nest oedd y llall. Yr oedd yna reswm arall dros dderbyn hefyd – Jim, brawd mawr Aled fyddai’n fy nerbyn. Ac fe wnaeth y ffaith mai ef fyddai’n gwneud hynny chwalu pob amheuaeth.

Ac rwy’n wirioneddol falch i mi wneud. Fel un na chollodd fwy na hanner dwsin o Eisteddfodau Cenedlaethol ers fy un gyntaf yng Nghaernarfon yn 1959, teimlwn nad oedd yna ddim na wyddwn bellach am y Brifwyl. Twyllo fy hunan wnes i dros yr holl flynyddoedd. Bu’r profiad o gael mynediad i stafelloedd gwisgo’r Orsedd y tu ôl i’r llwyfan yn agoriad llygaid.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |