Colofnwyr

RSS Icon
31 Ionawr 2017
Gan LYN EBENEZER

Ymchwil am gathod yn wastraff amser llwyr

Bûm wrthi'n ateb cwestiynau ar gyfer holiadur yn ddiweddar, holiadur oedd yn llawn cwestiynau dibwys. Dyna yn syml swm a sylwedd holiaduron y dyddiau hyn. Byddant bob amser yn gofyn am eich atgof cyntaf, eich cariad cyntaf, eich hoff lyfr ac ati. Ond roedd yna un cwestiwn annisgwyl yn hwn sef gofyn ai person ci ai person cath oeddwn i?

Dyma, yn wir, gwestiwn a'm lloriodd. Am 16 mlynedd bu gen i gi o'r enw Jac. Ie, Jac Rysel oedd e a ddaeth yn aelod o'r teulu. Pan gollwyd Jac, torrais fy nghalon. Doedd gen i ddim byd i'w ddweud wrth gathod. Yna fe'm mabwysiadwyd gan gath. Yn raddol etifeddodd Drachma le Jac ar yr aelwyd.

Yn anffodus felly ni fedrwn ateb y cwestiwn arbennig hwnnw yn yr holiadur, sef ai person ci neu berson cath ydw i. Rhaid fu i mi eistedd ar y ffens, un o arferion Drachma. Yr hyn a'i gwna'n amhosib i ddewis yw bod cŵn a chathod mor wahanol i'w gilydd. Fel y dywedodd rhywun unwaith, bydd ci yn neidio i'ch côl am ei fod yn eich caru. Bydd cath yn neidio i'ch côl am ei bod hi'n gynnes yno.

Greddf amlycaf ci fel arfer yw ei ffyddlondeb dall. Greddf amlycaf cath yw ei hannibyniaeth. Cath yw'r unig greadur sy'n medru edrych fyny arnoch tra'n edrych lawr arnoch yr un pryd.

Mae gen i gyfaill sydd, fel fi, yn berson ci ac yn berson cath. Cofiaf gi ganddo a enwodd yn Bisto. Nid am ei fod yn lliw grefi ond am mai Bisto yw'r gair am gi bach yn yr ardal hon. Bu ganddo gath a enwodd yn Indi, sef talfyriad o 'Independent'. A dyna'r enw mwyaf addas ar gath a fathwyd erioed.

Y rheswm am i mi droi at gathod yr wythnos hon yw'r ffaith fod yna ganlyniadau arolwg arall eto fyth newydd ei gyhoeddi. Do, bu rhyw arbenigwyr heb ddim byd gwell i'w wneud yn astudio nodwddion cathod. Swm a sylwedd canlyniadau'r astudiaeth yw fod i gathod wahanol bersonoliaethau. Awdur yr astudiaeth holl-bwysig yw'r Doctor Lauren Finka.

Astudiodd y Doctor 200 o gathod ar gyfer ei draethawd PhD ym Mhrifysgol Lincoln. Doedd gwahaniaeth brîd ddim yn cael ystyriaeth. Mae'r cyfan i'w wneud â 'rhyngweithiad cymhleth rhwng nodweddion genetig ac anianawd y rhieni.' Deall? Na finne chwaith. At hyn rhaid ychwanegu DNA'r creadur a'i brofiadau wrth ddatblygu i fod yn oedolyn. A'r canlyniad? Mae gan gathod bum gwahanol bersonoliaeth.

Y categori cyntaf yw Cath Ddynol. Bydd Cath Ddynol yn hapus i siario'n bywyd a'n lle byw personol. Dydi cathod ddim yn cael eu geni i ymserchu ynom yn naturiol. Na, rhywbeth a feithrinir yw cariad cath at berson, hynny'n cychwyn pan mae'r creadur yn bythefnos oed. Mae'n dewis eich côl fel lle i orwedd ac yn tylino'ch cnawd â'i hewinedd.

Cath Hela yw'r ail. Genir cath i fod yn heliwr naturiol. Mae'n arddangos ei greddf wrth afael mewn tegan a'i gicio â'i phawennau. Wel, wel, pwy feddyliai!

Cath Cath yw'r nesaf. Mae Cath Cath yn datblygu perthynas bositif â chathod eraill. Mae hyn, yn y bon, yn groes i'w natur. Waw! Syrpreis!

Y nesaf, Cath Gwerylgar. Nid yw hon yn hoffi cael ei chyffwrdd. Myn gael ei gofod personol ei hunan. Ni hoffa faldod. Hi fydd yn cymryd y cam cyntaf nid chi.

Yn olaf cawn y Gath Chwilfrydig. Daw ei thuedd i ymchwilio o gyfuniad o'u DNA a'i hymateb i seiniau, aroglau a golygfeydd newydd. Rhaid ymchwilio i bob bocs, bag llaw neu unrhyw beth dieithr a wna ymyrryd ar ei hamgylchedd.

Yn ôl Freud, dydi treulio amser gyda chath fyth yn wastraff amser. Ond ofnaf mai gwastraff amser llwyr fu ymchwil y Doctor Finka. Mae'n ddrwg gen innau wastraffu'ch amser chwithau.   

Rhannu |