Colofnwyr
Atgofion ymweld â chytiau yfed Ynys Lewis
RWYF wedi sôn yn y golofn hon am Sianel Aeleg BBC Alba o’r blaen. Byddaf yn gwylio dipyn arni, gan fod cymaint o raglenni cerddoriaeth draddodiadol i’w cael. Hefyd, ceir sawl rhaglen ddiddorol am fywyd yn yr ardaloedd Gaeleg eu hiaith.
Yr unig beth sy’n amharu ar y mwynhad, weithiau, yw’r ffaith fod is-deitlau i’w darllen ac, o’r herwydd, mae rhywun yn colli llawer o’r naws gwreiddiol er bod wynebau’r siaradwyr yn cyfleu llawer mwy na’r ysgrifen ar waelod y llun ambell dro.
Bûm yn gwylio rhaglen ddifyr dros ben un noson. Rhaglen oedd hon yn olrhain hanes y bothan, neu’r cytiau yfed anghyfreithiol a fodolai ar Ynys Lewis, a hynny drwy atgofion rhai a fu’n yfed ynddynt.
Cyn gallu mwynhau’r rhaglen, rhaid cofio fod gafael yr enwadau crefyddol yn llym iawn ar fywyd yr ynyswyr – sefyllfa sy’n dal i fodoli i raddau hyd heddiw.
Pan es yno am y tro cyntaf yn ystod y saithdegau, canfyddais nad oedd siop na chaffi na dim oll ar agor ar y Sul, hyd yn oed yn Stornoway, sef prif dref yr ynys.
Ond tan yn gymharol ddiweddar, tua dechrau’r wythdegau, doedd yr un tŷ tafarn na chlwb swyddogol i’w gael y tu allan i Stornoway gan y dynodwyd y plwyfi yn blwyfi ‘sych’ – a hynny bob dydd o’r wythnos ac nid ar y Sul yn unig fel yng Nghymru ers talwm.
Pan es yno gyntaf, euthum i bentref Ness, sydd yng ngogledd yr ynys. Yr oedd pethau’n dechrau llacio bryd hynny, tua diwedd y saithdegau.
Yng nghanol y pentref, yr oedd tŷ bwyta/caffi oedd yn ddim amgenach na thafarn.
Yn ôl y rheolau, yr oedd gennych hawl i gael diod gyda’ch bwyd.
Yr hyn a welais pan es i mewn oedd criw o bobl, llawer ohonynt yn ddynion, o gwmpas byrddau yn yfed cwrw a wisgi.
Wrth ochr pob un yr oedd platiad o frechdanau gyda’u hymylon wedi troi i fyny fel adenydd gwylan a oedd yn ‘brawf’ fod y cwsmer wrthi’n ‘bwyta’ felly gyda’r hawl i gael diod.
Ffars lwyr, wrth gwrs. Erbyn yr ail dro, deng mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd yr adeilad yn dafarn gyfreithlon, heb yr angen am frechdanau ar ymyl y bwrdd.
Ond sôn am y bothan, neu’r cytiau yfed anghyfreithlon a wna’r rhaglen. Yn ystod y dauddegau a’r tridegau, pan symudodd y trigolion o’u hen dai tywyll i dai newydd, cafodd rhai o’r dynion y syniad o ddefnyddio ambell un o’r tai a adawyd fel cytiau yfed anghyfreithlon.
Gan nad oedd tafarn yn y pentref a dim gwasanaeth bws gwerth sôn amdano, ni ellid mynd i Stornoway am beint, felly dyma’r ateb i’r broblem. Dros y blynyddoedd defnyddiwyd adeiladau eraill, carafanau a hyd yn oed hen fws at y diben hwn.
Byddai dynion yr ardal, a dynion yn unig, yn ymgasglu i yfed yn y cwt, gyda rhai ohonynt yn gyfrifol am gael cyflenwad o gwrw a wisgi. Taflai pob un a oedd yno bres i fwced er mwyn talu am y ddiod.
Gaeleg oedd yr iaith a chan fod culni crefyddol yn gaethiwus iawn, dyma’r lle y cai’r caneuon a’r straeon eu cadw’n fyw.
Anaml iawn y cai rhywun dieithr wahoddiad i’r bothan ac felly cadwyd yr Aeleg fel cyfrwng.
Yn aml, byddai’r cwrw yn cyrraedd o Stornoway ar gefn lori neu yng nghefn fan fara neu nwyddau eraill, wedi eu cuddio rhag yr heddlu.
Gwyddai’r rheiny am fodolaeth y cytiau hyn wrth gwrs ond dim ond ar anogaeth yn dilyn cwyn gan rywun sych-dduwiol y byddent yn gweithredu.
Pan es i Lewis am y tro cyntaf, roedd achos llys enwog wedi cael ei gynnal yn erbyn dau ddyn a gyhuddwyd o redeg lle yfed anghyfreithlon a adnabyddwyd fel yr ‘Eoropie Bothan’.
Yn ystod yr achos, cyflwynodd heddwas y dystiolaeth yma (cyfieithiad gennyf fi):
Cwestiwn: “Beth ddaru chi ganfod yn y cwt?”
Heddwas: “Pedair casgen lawn o gwrw, 415 can o gwrw, poteli rym a wisgi a dwsinau o wydrau cwrw a gwirodydd.”
Ac yna, y datganiad rhyfeddol: “Deuthum i’r casgliad fod hwn yn lle a ddefnyddiwyd ar gyfer yfed!”
Er mwyn profi’r achos , rhaid oedd cael tystion i’r ffaith iddynt yfed yn y cwt, ond trodd hyn i fod yn ffars lwyr.
Dyma’r math o holi ac ateb a ddigwyddodd:
Ynad: “A oeddech chi yn prynu diod bob tro?”Tyst: “Dibynnu faint oeddwn am aros.”
Ynad: “Sut ydych yn cael mynediad i’r bothan?”
Tyst: “Trwy’r drws!”
Ar ddiwedd yr achos, cafwyd dau ddyn yn euog am werthu cwrw yn anghyfreithlon a chael dirwy o £100 yr un.
Cofiaf sefyll y tu allan i bothan Eoropie yn fuan wedi’r achos a gweld y slogan ‘HANDS OFF EOROPIE BOTHAN’ wedi ei baentio yn Saesneg, am ryw reswm, ar y wal y tu allan.
Daeth cyfnod y cytiau yfed i ben ar ddechrau’r wythdegau pan newidiwyd ardal Ness o fod yn un ‘sych’ i un ‘wlyb’.
Yn ogystal â’r dafarn yng nghanol y pentref, agorwyd clwb cymdeithasol gan y clwb pêl-droed lleol ac yno y bûm un noson yn cael profi awyrgylch y ‘bothan’ cyfreithiol. Er ei fod yn llawer mwy ffurfiol, doedd dim parch at oriau yfed swyddogol, chwaith!
Os am fwynhau’r rhaglen, gellir ei chanfod ar BBC iPlayer – Chi mi anns a’ Bhothan Thu.