Colofnwyr
Dwy ffrind o bentref 'un lamp stryd' yn chwarae rygbi i Gymru
AR ôl y prawf cyntaf rhwng Awstralia a’r Llewod yn 2013 ymddangosodd llythyr yn un o bapurau newyddion Lloegr. Albanwr a ysgrifennodd y llythyr a byrdwn ei neges oedd cwyn am mai dim ond dau Albanwr a gafodd eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y prawf hwnnw.
Yr wythnos wedyn, cafwyd ateb i’r llythyr gan Gymro o orllewin Cymru. Yr hyn a ddywedodd oedd na ddeallai pam y cwynai’r Albanwr am hyn gan nad oedd ond dau o bentref Bancyfelin yn y tîm! Cyfeiriai at Mike Phillips a Jonathan Davies, y ddau’n dod o’r pentref bychan hwnnw’r ochr arall i Gaerfyrddin.
Daeth yr hanes hwn i gof pan welais fod dwy o ferched Padog wedi chwarae i dîm merched Cymru – dwy o’r pentref bach hwnnw ym mhen uchaf Dyffryn Conwy yn yr un tîm.
Gyda balchder y cyhoeddwyd ar dudalen blaen Yr Odyn – papur bro Nant Conwy, yr ardal y mae Padog yn rhan ohoni: “Dwy o Badog yn chwarae i’r Tîm Rygbi Cenedlaethol.”
Enw’r ddwy yw Dyddgu Hywel a Gwenllian Pyrs, neu Dyddgu Tai Duon a Gwen Tŷ Mawr i’r trigolion lleol a soniaf fwy amdanynt eto.
Ond lle yn union mae Padog? Wel, pan ydych yn teithio ar hyd yr A5 o Fetws y Coed am Bentrefoelas fe ddowch at droadau drwg gyda phont yn eu canol. Dros y blynyddoedd, cafwyd llawer o ddamweiniau yma ac, yn anffodus, oherwydd hynny y daeth llawer o bobl i wybod am y lle hwn.
Newydd i chi fynd dros y bont, dyma le y saif pentref Padog, er prin y gellir galw capel a rhyw ddau dŷ yn bentref, eithr rhan o ardal yw Padog sydd ar flaen Cwm Eidda, cwm o nifer o ffermydd ac yn ardal hollol Gymraeg ei hiaith.
Mae’r pentref ei hun mor fychan nes y ceir yr arwydd mynd i mewn a dod allan ar yr un polyn, bron! Ei faint a olygai y gallai’r diweddar D O Jones, o fferm Tŷ Uchaf yn y cwm lunio englyn i ‘Lamp Drydan Padog’ sef un lamp stryd y lle:
‘Yn llusern fodern safadwy – hi saif
Yn ei swydd fel meudwy;
Goleua ‘ngham wrth dramwy
I le mawl y golau mwy.’
Go brin y gellid cael englyn fel hwn i unrhyw le arall sydd â dwy (neu ddau) o’r trigolion wedi chwarae dros eu gwlad a hynny yn yr un tîm!
Hyd at ddiwedd y saithdegau, doedd rygbi ddim yn bodoli, i bob pwrpas, yn yr ardal hon.
Yna, ym 1980, sefydlwyd Clwb Rygbi Nant Conwy ac mae’r gweddill, ys dywedant, yn hanes.
Dau a fu’n chwarae i’r clwb ar y cychwyn oedd Hywel Tai Duon ac Eryl P., dau o’r fro hon ac, wedyn, fel y datblygodd pethau, daeth Dyddgu merch Hywel a Gwenllian, merch Eryl P. i chwarae’r gêm ac erbyn hyn, i gyrraedd y brig.
Enillodd rygbi ei blwyf fel un o brif gemau ysgolion y dyffryn ac mae llawer yn dal ati i chwarae i Nant Conwy ar ôl gadael yr ysgol.
Mae Padog, ac Ysbyty Ifan gerllaw yn un o’r cadarnleoedd Cymraeg sy’n weddill yn y Gymru hon a’r Gymraeg mor naturiol ar y cae rygbi ag yw yn y cartref ac yn yr ysgol.
Enillodd Dyddgu sawl cap yn barod ac wrth ei gwaith, mae’n ddarlithydd i’r Coleg Cymraeg yng Nghaerdydd.
Ar y llaw arall, ennill ei chap cyntaf a wnaeth Gwenllian, sydd yn dal yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy.
Ei diddordeb mawr arall yw rhedeg cŵn mewn treialon cŵn defaid ac wedi cynrychioli Cymru yn y gyfres deledu ‘One man and his dog (er i’r gyfres honno fod ar ei hôl hi yn newid ei theitl!).
Does dim llawer yn gallu dweud iddynt chwarae dros eu gwlad gyda chyfoedion o’r un ysgol gynradd fechan wledig a hwy, ac yn byw o fewn tafliad carreg i’w gilydd.
Go dda yn wir a does ond gobeithio y byddant yn chwarae dros eu gwlad am flynyddoedd i ddod.
A tybed a oes mwy ar y ffordd o’r un ardal?