Colofnwyr

RSS Icon
11 Ionawr 2017
Gan LYN EBENEZER

Ymgais i dawelu ceidwad effro hawliau pobl rydd am byth

Rhyddid y wasg yw un o brif bileri unrhyw gyfundrefn wâr. Pan fo cyfundrefn yn troi'n dotalitaraidd, cam cyntaf pwy bynnag sy'n llywodraethu yw gosod cyfyngiadau ar newyddiaduriaeth. Sensoriaeth yw'r ateb.

Mae'r hyn a ddigwyddodd yn Nhwrci nôl yn yr haf yn enghraifft berffaith o'r hyn a all ddigwydd. Yn dilyn ymgais i ddymchwel y Llywodraeth, cam cyntaf yr awdurdodau dan arweiniad Recep Tayyip Erdo?an fu carcharu newyddiadurwyr a chau gorsafoedd radio a theledu. Yn Hhweci heddiw mae miloedd dan glo heb iddynt erioed wynebu llys barn.

Yma yng ngwlad rydd Prydain Vawr mae'r fwlturiaid yn hofran uwchben yr hyn a all arwain at gorff gwasg rydd. A'r hyn sy'n rhyfeddol yw nad elfennau'r dde eithafol yn unig sydd yn bygwth. Yr un mor wrthwynebus i wasg rydd mae elfennau'r chwith. Yn ganolog i'r bygythiad mae selebs hunanbwysig. Mae hynny'n golygu fod sbectrwm gelynion gwasg rydd yn amrywio o Max Mosley, mab y Ffasgydd ffiaidd Oswald Mosely i lyfis y chwith, selebs fel Hugh Grant.

Mae rheswm Grant dros lyffeitheirio'r wasg yn un amlwg. Ni faddeuodd i'r cyfryngau am ddatgelu ei fisdimanyrs gyda phutain yn Los Angeles. Mae rheswm Mosely yn un llawer mwy sinistr. Mosely wnaeth sefydlu'r mudiad Impress. Ef sy'n ei ariannu. Ei nod yw gorfodi pob papur newydd i ddod o dan ymbarel Impress. Byddai hynny'n golygu nid yn unig sbaddu gwasg rydd. Byddai hefyd yn golygu gorfodi unrhyw bapur newydd na fyddai'n aelod i dalu holl gostau achos llys hyd yn oed petai'r papur yn cael ei ddyfarnu'n ddieuog o gyflawni enllib.

Yn 2008 fe ddatgelwyd gan y News of the World fod Mosley wedi trefnu gloddest anllad yng nghwmni puteiniaid ar thema Natsiaidd. Enillodd Mosley'r achos ar bwynt technegol. Canlyniad hyn yw iddo ddial ar y wasg rydd drwy ariannu Impress gyda chyfraniad ariannol o £3.8 miliwn.

Hyd yma does yna'r un papur newydd o bwys wedi ymuno ag Impress. Ond os wna'r Llywodraeth benderfynu mabwysiadu Impress fel corff swyddogol ni fydd yr un papur newydd yn ddiogel.

Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Impress yw Wilfrid Vernor-Miles, twrne o Lundain. Mae'n ymddiriedolwr hefyd i Gymdeithas y Pab Pius X, enwad Catholig sy'n amlwg am ei safbwyntiau gwrth-Semitaidd. Fe'i sefydlwyd yn 1970 gan yr Archesgob Marcel Lefebvre, gŵr a ddisgrifiodd arweinydd y Vichy, Marshall Philippe Petain fel arwr. Roedd Petain yn fradwr a gefnogodd y Natsiaid a'i gael yn euog o deyrnfradwriaeth. Yn 1989 cafodd aelod enwog o'r mudiad, Paul Touvier ei ddyfarnu'n euog o ddienyddio saith Iddew.

Ddeufis yn ôl derbyniwyd Impress fel ceidwad safonau'r wasg gan gwango ar ran y Llywodraeth. Ond does neb o hyd wedi dewis dod o dan fantell Impress. Dewisodd papurau fel y Guardian, y London Evening Standard a'r Financial Times reolaethu eu hunain. Dewisodd y Sun, y Daily Mail, y Times a'r Telgraph ymuno ag IPSO (Independent Press Standards Organisation).

Pan lansiodd David Cameron ei Siartr Brenhinol ar reolaethu'r wasg yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2013 dyfynodd eiriau Winston Churchill. "Gwasg rydd yw ceidwad effro pob hawl a gânt eu trysoru gan bobl rydd – dyma elyn peryclaf gormes."

A dyma eiriau Cadeirydd IPSO, Syr Alan Moses: "Bydd gwasg gwledydd Prydain yn farw petai'n gorfod derbyn amodau Impress."

Os dderbynnir Impress, gallai ceidwaid effro hawliau pobl rydd gael eu tawelu am byth. A bydd pobl fel Mosley a Grant yn dawnsio ar fedd gwasg rydd.

Rhannu |