Colofnwyr
Coffa da am y Rabbi Lionel Blue. Dyn mawr. Dyn gwaraidd
AM gyfnod nôl yn y 70au fe brofodd Bob Dylan droedigaeth i’r ffydd Gristnogol. Yna, ar ôl cyfnod o ychydig flynyddoedd trodd yn ôl at Iddewiaeth. Pan holwyd ef gan newyddiadurwr y rheswm pam iddo wneud hynny ei ateb oedd, ‘God double-crossed me in a bar in New Mexico’.
Tynnu coes oedd Bob, wrth gwrs ond derbyniwyd ei ateb fel esboniad go iawn. Ydyn, mae rhai newyddiadurwyr yn bobl hawdd eu twyllo. Ond y rheswm i mi sôn am Bob Dylan yw marwolaeth Iddew arall rai dyddiau’n ôl, hwnnw hefyd yn grefyddol ac yn dynnwr coes chwedlonol.
Bu farw’r Rabbi Lionel Blue yn 86 oed. Yn dilyn ei gyfraniad am dros 30 mlynedd i ‘Thought for the Day’ y BBC fe’i disgrifiwyd fel swyddog cysylltiadau cyhoeddus gorau Duw. Yn gynnyrch un o gymunedau tlawd yr East End yn Llundain profodd gryn ddewrder yn y 70au pan ddaeth allan fel dyn hoyw. Cofnododd ei hunangofiant yn ei gyfrol ‘The Godseeker’s Guide’.
Yn dilyn ei farwolaeth ddydd Llun cafwyd llwyth o deyrngedau iddo ynghyd ag enghreifftiau o’i hiwmor unigryw. Ond y tu ôl i’r doniolwch cuddiai gwirioneddau treiddgar.
Meddyliwch, er enghraifft, am ei ddadansoddiad o arwyddion henaint. Merch ifanc yn codi i ildio’i sedd iddo ar y trên tanddaearol. Yr ysbyty’n dod yn ail gartref iddo. Bod yn un o griw o hen bobol yn yr archfarchnad sy’n cael trafferth i wthio’u trolis. Gweld henaint fel y ffordd i nunlle drwy unigrwydd a cholli ffrindiau.
Meddai: “Pan fyddwch yn mwydro, mewn ofn neu’n ddryslyd gall bywyd ymddangos fel jôc sadistaidd. Ond mae’r trawsnewidiad o ganol oed i henaint lawn mor arwyddocaol a’r trawsnewidiad o lencyndod i oedoliaeth.”
Ond dodd dim angen diflasu. Bu ei 70au, meddai, yn ddedwyddach na’i 60au, a’i 60au yn ddedwyddach na’i 50au. Ystyriai ei Dduw fel cyfaill agos o’r enw Fred. A Fred, meddai, wnaeth ei gysuro drwy ddatgan unwaith, “Pun a fyddi’n tyfu’n hen neu’n tyfu’n dew, rwyt ti’n dal i dyfu.”
Er ei gredo Iddewig diweddarach, galw ar hap mewn cyfarfod o Grynwyr wnaeth ei droi’n grefyddol. Fferwmyr oedd yr aelodau a fynychent y gwasanaethau bob dydd Iau.
Ni fedrent fod yno ar Suliau gan na fyddai ganddynt neb i ofalu am eu hanifeiliaid.
Ei ymlyniad crefyddol, meddai, fu’n gyfrifol am iddo droi’n berson ysgafn ei ysbryd a chwareus ei natur.
Yn y coleg doedd ganddo ond un tei. Pan wnaeth cyd-fyfyriwr edmygu’r dei, fe roddodd Lionel hi iddo. Dyna pryd y gwnaeth brofi gyntaf y llawenydd o roi yn hytrach na derbyn.
Dysgodd crefydd iddo, meddai, pam fu i gredo a chariad Duw gynhyrchu cymaint o gelfyddyd gain a barddoniaeth. Dechreuodd ymddiried mewn pobl, meddai, ac i hoffi’r rheiny o’i gwmpas sef rhywbeth anoddach na’u caru. Mabwysiadodd, meddai, synnwyr doniolwch, rhywbeth na fu’n rhan ohono cynt.
“Gwneuthum hefyd beidio â theimlo’n unig. Ar y cychwyn ni wyddwn ai cyfrwng a lenwai’r dymuniad am gyflawniad oedd Fred. Ond ar ôl dros 60 mlynedd mae e’n dal o gwmpas. Edrychaf arno bellach fel bod cyfansawdd o’r brawd na chefais, y cariad na wnes yn llwyr ei ganfod a’r ffrind na wnaeth erioed fy mradychu.”
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen i’w ddyfynu. Meddyliwch am hyn: “Un o fanteision crefydd yw’r ffaith na wnaiff marwolaeth ddod fel rhyw syndod. Mae gennym felly’r amser i gofleidio’r ymwybyddiaeth ohono cyn wynebu’r ysgytwad o’i dderbyn.”
A meddyliwch am hyn: “Does yna’r un ffordd foddhaol o brofi bod yna fywyd wedi marwolaeth. Ni cheisiais erioed ymchwilio i’r posibilrwydd. Ond ni chredaf mai marwolaeth yw’r diwedd na’i fod yn ddifodiant llwyr, nid yn unig am mai dyna sut yr hoffwn i bethau fod ond am mai i’r cyfeiriad hwnnw yr arweiniwyd fi gan fy mhrofiadau crefyddol.”
Mae ei gysyniad o farwolaeth yn un cysurlon. “Hoffaf feddwl am farwolaeth fel bod mewn lolfa ymadael mewn maes awyr wrth i chi ddychwelyd adref. Fe wnewch eich hun mor gyffyrddus â phosibl. Fe wnewch ffrindiau yno. Yna, i ffwrdd a chi – nid ar amser o’ch dewis eich hun – ar gymal nesaf eich siwrnai adref.”
Meddai wedyn: “Does dim angen i chi ddisgwyl am i’r nefoedd ddigwydd. Bydd unrhyw weithred anhunanol yn wahoddiad i nefoedd fod yno.”
Ddiwedd ei oes bu’n dioddef o Parkinsons. Ond pan glywodd y deignosis, ni ddiflasodd, meddai. “Yn wir, mae’n bosib y gwnaiff marw brofi i fod yn ddigwyddiad pleserus.”
Coffa da am y Rabbi Lionel Blue. Dyn mawr. Dyn gwaraidd.