Colofnwyr

RSS Icon
22 Tachwedd 2016
Gan LYN EBENEZER

Fe newidiodd LSD y ffordd wledig o fyw am byth

‘Syrpreisi how fflai taim!’ chwedl Ifas y Tryc. Darllen cyfrol ar hanes ditectif oeddwn, un a fu’n rhan o ‘Operation Julie’, y cyrch cyffuriau mwyaf mewn hanes ar y pryd.

A dyma sylweddoli y bydd, pan ddaw mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers yr achos byd-enwog a gynhaliwyd yn Llys y Goron ym Mryste.

Roedd yr heddlu wedi bod yn ymchwilio am ymron ddwy flynedd i’r cynllwyn o gynhyrchu a dosbarthu LSD. 

Syndod o’r mwyaf fu canfod mai yng Nghymru y cynhyrchid y cyffur ac mae yng Nghymru oedd rhai o’r prif ddosbarthwyr yn byw.

Cemegydd oedd wedi symud i fyw yn Nhregaron, Richard Kemp oedd yn cynhyrchu’r ‘tabs’ mewn hen blasty yng Ngharno.

Yna, mewn ardaloedd gwledig fel Llanddewibrefi, Maesycrugiau a Chwmann roedd yno ddosbarthwyr.

Petai rhywun wedi ysgrifennu’r hanes ar ffurf nofel, yna wnâi neb fedru breuddwydio y gallai’r plot fod yn gredadwy.

Ond nid ffuglen oedd yr hanes. Canfuwyd 6 miliwn tab o LSD yn lleol. Canfuwyd cyfanswm oedd yn werth £100 miliwn.

Y labordy yng Ngharno oedd yn cynhyrchu 60 y cant o LSD y byd a 90 y cant ym Mhrydain.

Arestiwyd 120 o bobl. Canfuwyd £800,000 mewn cyfrifon banciau yn y Swistir. Carcharwyd 17 o ddiffynwyr am gyfanswm o 130 o flynyddoedd. 

Mae yna elfen anhygoel arall i’r stori.

O Garno ai’r cyffur i Lundain. Yno câi ei becynnu a’i anfon allan i aelodau o gang arall o ddosbarthwyr, o leiaf dri ohonynt yng Ngheredigion. Ond doedd y ddwy gang ddim yn adnabod ei gilydd.

Meddyliwch, y gwneuthurwr yn byw yn Nhregaron. Un o’r prif ddosbarthwyr, Alston Hughes yn byw yn Llanddewibrefi bum milltir i ffwrdd. Ond y ddau’n ddieithriaid.

Bu ditectifs yn drwch yn yr ardaloedd am fisoedd cyn y cyrch. Ond wyddai neb fod unrhyw beth mawr yn digwydd.

Am 5.00 o’r gloch y bore dydd Gwener 26ain o Fawrth disgynnodd swyddogion heddlu ar 87 o gartrefi.

A dyna’r cliw cyntaf i rywbeth mawr fod ar droed.

Bore trannoeth canodd fy ffôn. Jim Price o’r Daily Express oedd ar ben arall y lein. Gofynnodd a oeddwn i wedi clywed am gyrch heddlu yn ardal Tregaron? Nag oeddwn. Ond fe ffoniais o gwmpas a chael gwybod ei bod hi’n bedlam yno.

Daeth Jim lawr o Ddeganwy ac euthum gydag ef i Dregaron. Yno roedd pobl ar y sgwâr ac ar ben drysau eu tai yn trafod y digwyddiad mawr.

O dipyn i beth daeth manylion i’r amlwg. Roedd swyddogion cudd wedi bod wrthi ers misoedd yn byw yn yr ardaloedd dan sylw, rhai’n cogio eu bod nhw’n bysgotwyr, eraill yn ddynion busnes a dau, yn arbennig, wedi bod yn byw fel hipis mewn campyr fan.

Hyd yn oed ar y cychwyn bu’n anodd gwahaniaethu’r gwir wrth y gau. Mynnwyd, er enghraifft gan y prif gop, Dick Lee fod Operation Julie wedi rhoi’r farwol i farchnad LSD yn fyd eang. Y gwir amdani oedd, erbyn diwedd yr achos flwyddyn wedi’r cyrch, fod LSD yn ôl mor gryf ag y bu erioed. 

Erbyn hyn, ymron 40 mlynedd wedi’r cyrch, mae’r stori’n dal yn fyw. 

Deuthum i adnabod un o’r rhai a garcharwyd, Keiron Healy, a gâi ei adnabod fel ‘Buzz’. Bu farw’n ddiweddar. 

Fe arhosodd ef yn yr ardal. Priododd â merch leol. Cododd ei blant yn Gymry Cymraeg. Roedd Buzz yn ddyn ffeind iawn.

Mae un o’r prif ddelwyr, Alston Hughes neu ‘Smiles’ yn cysylltu â mi’n aml ar y gweplyfr. Mae yntau’n ddyn deallus a hynod ddoniol.

Y gwir amdani yw bod yna arian mawr yn y busnes. Ond roedd yna rai, Kemp yn arbennig yn credu fod LSD yn gyffur a fyddai’n rhyddhau’r dychymyg.

Yng nghyfrol y cyn-dditectif a fu’n cogio bod yn hipi mae’n feirniadol o’r gyfrol a gyhoeddais i ar yr hanes yn 2010.

Dywed i mi roi’r argraff mai dim ond yng Nghymru y digwyddodd yr hanes. Yn amlwg ni ddarllenodd yn y cyflwyniad fy mwriad sef adrodd hanes cymunedau gwledig a newidiwyd yn llwyr gan fewnfudwyr yn y 60au ac sy’n parhau felly. 

Mae’n siŵr na wnaeth LSD newid y byd, yn ôl gobeithion ei ladmeryddion. Ond fe newidiodd, yn anfwriadol, y ffordd wledig o fyw am byth.

Rhannu |