Colofnwyr

RSS Icon
16 Tachwedd 2016
Gan ARTHUR THOMAS

Colli ‘ffrinidau’ ar y Gweplyfr!

RHYDD i bawb ei farn ac i bob barn ei llafar medd yr hen air ond yn yr hinsawdd sydd ohoni, dwi’n amau os yw hynny’n gywir erbyn hyn.

Mae llai a llai o bobl yn fodlon derbyn atebion i’w safbwyntiau sy’n groes i’r hyn a gredant.

Fe ddaeth hyn yn hollol amlwg ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Trydar a Gweplyfr. Hynny yw, i’r rhai sydd ddim yn deall, Twitter a Facebook.

Defnyddir y cyfryngau hyn gan eu defnyddwyr am nifer o wahanol resymau.

Y defnydd mwyaf cyffredin gan y defnyddwyr yw rhoi gwybodaeth am yr hyn sydd ar eu meddwl, yr hyn y maent wedi ei wneud neu am ei wneud fel unigolion, yn y gymdeithas, neu fel teulu, hynny yw, manylion personol.

Ceir, hefyd, ddefnydd effeithiol o’r cyfryngau hyn wrth hysbysebu digwyddiadau neu nosweithiau cymdeithasol.

Ond sylwais yn ddiweddar fod mwy o sylwadau annifyr gan grwpiau ac unigolion sy’n corddi rhagfarn yn erbyn grwpiau megis ffoaduriaid, Mwslemiaid, ac unrhyw grŵp o bobl nad ydynt yn ffitio i feddylfryd cul y rhai sy’n pedlera’r sylwadau hyn.

O ganlyniad, mae rhai unigolion sy’n fodlon pasio’r negeseuon adweithiol hyn ymlaen ond, yng ngwir draddodiad ffasgaeth, ddim yn fodlon derbyn barn sy’n gwrthddweud yr hyn a bostir ganddynt.

Pendraw hyn yw troi i ffwrdd y rhai sy’n barnu ac felly nid yw’r rhai sy’n postio’r negeseuon adweithiol hyn bellach yn ‘ffrind’ i chi ac na allwch weld yr hyn a bostir ganddynt.

Mae hyn wedi digwydd i mi dwywaith yn ddiweddar, a hynny gan ddau sy’n byw yn y dref hon. Sylwais eu bod yn pasio negeseuon adweithiol, hiliol gan fudiadau amheus ac am fy mod yn ymateb i’r negeseuon hyn, mae’n amlwg nad ydynt yn fodlon derbyn barn resymol, neu farn sy’n groes i’w syniadau. Nid oes ganddynt y gallu meddyliol i ateb fy nghwestiynau, felly’r unig ateb ganddynt yw fy nileu fel ‘ffrind’ – er na fyddwn yn disgrifio fy adnabyddiaeth ohonynt mor agos â hynny, beth bynnag.

Y ‘mudiadau’ dan sylw yw’r rhai sy’n cynnwys Britain First, EDL – English Defence League, Say How it I’, Lionheart GB, Britain OUT of EU ac amryw o enwau eraill, sydd, mae’n amlwg, yn rhan o’r un mudiad ffasgaidd, adain dde eithafol.

Maent yn postio lluniau o Fwslemiaid, yn enwedig merched yn gorchuddio eu hwynebau, a’r neges yw bod angen gwahardd y wisg hon, deddf Sharia, ac ambell agwedd arall o ffordd o fyw’r bobl hyn.

Cysylltir hyn â phethau fel y Pabi Coch a’r Fyddin Brydeinig gyda’r bwriad o greu adwaith.

Anwybyddant y ffaith fod llawer o Fwslemiaid wedi aberthu eu bywydau yn ymladd dros y Deyrnas Unedig.

Grwpiau eraill sydd o dan lach yw’r dinasyddion Ewropeaidd, megis y Pwyliaid, gan anwybyddu’r ffaith y byddai’r Llu Awyr Prydeinig heb gymorth peilotiaid o wlad Pwyl a gwledydd eraill wedi colli’r frwydr yn erbyn yr Almaenwyr ym 1940. 

Mae un neu ddau arall yr wyf yn eu hadnabod yn trosglwyddo’r negeseuon hyn ond nad ydynt wedi fy nileu fel ffrind.

Byddaf yn ateb y negeseuon hyn drwy ddatgan rhywbeth fel ‘Oswald Moseley a’i grysau duon yn y tridegau unwaith eto!’

Un o’r ffefrynnau a ddaw ganddynt yw dyfyniad o araith Enoch Powell yn y chwedegau yn sôn am ‘afonydd o waed’.

Yr ateb i hynny gennyf bob tro yw mai ei blaid Dorïaidd ef mewn llywodraeth yn y pumdegau a ddenodd bobl o Jamaica a llefydd eraill i weithio am gyflogau sâl yn ninasoedd Lloegr am nad oedd y Saeson am wneud hynny.

I’r rhai sydd wedi fy nileu fel ‘ffrind’, yr ateb yw os na allwch ddioddef y gwres peidiwch ag eistedd yn agos at y tân!

Rhannu |