Colofnwyr
Wncwl Dai yn cynrychioli y miloedd a laddwyd
FORE Sul cynhaliwyd unwaith eto Ddefod y Cofio o gwmpas y gofeb ryfel ar sgwâr y Bont. Daeth trigain a mwy ynghyd i goffau’r meirwon, er mai enwau’n unig ydyn nhw bellach i bawb ohonom.
Mynd yno i goffau un yn arbennig fyddaf i bob blwyddyn. Na, dydw’i ddim yn hunanol.
Mae enw Wncwl Dai, brawd Mam yn Fflandrys yn 1918 yn cynrychioli’r miliynau a laddwyd mewn rhyfeloedd ledled y byd dros y canrifoedd.
Eleni bu mwy o ddadlau nag erioed ar fater y pabi, honno hyd yn oed yn cyrraedd y meysydd pêl-droed. Ail-gododd dadl y Pabi Gwyn ei ben a mynnodd eraill wrthod gwisgo pabi o gwbl.
Medraf yn hawdd deall dadl y Pabi Gwyn. Ond fedra’i ddim deall gwrthod gwisgo pabi o gwbl. Bwriad rhai o wneud hynny oedd gwrthod cydnabod y Lleng Prydeinig sydd, meddir, yn gogoneddi rhyfel.
Ond mae hi’n ddadl negyddol. Pa werth gwrthod gwisgo pabi os na fedrwch ddangos pam? Beth yw pwrpas cerdded lawr y stryd heb babi a neb yn deall eich safbwynt?
Gallai gael ei gamgymryd am ddifrawder. Mae arddangos pabi gwyn ar y llaw arall yn ddatganiad positif.
Fel y mynegais droeon o’r blaen, hoffwn yn fawr fedru bod yn heddychwr. Ond fedra’i ddim. Ie, y Rhyfel Mawr oedd y rhyfel a wnâi roi terfyn ar bob rhyfel. Yn hytrach arwain at gychwyn mwy o ryfeloedd a wnaeth.
Ond daliaf i fynnu nad oedd dewis parthed yr Ail Ryfel Byd. Doedd dim modd trafod â Hitler mwy nag y gellir trafod ag IS heddiw.
Mae’r holl fater yn un sy’n arwain at amwysedd. Ac o blith yr holl ddadlau diweddar, erthygl yn y papur hwn wnaeth ddatgan y sylwadau callaf.
Ddim bob amser y byddaf yn cytuno ag Androw Bennett ond yn ei erthygl amlinellodd y ddeuoliaeth sydd ynghlwm wrth y ddadl dros neu yn erbyn y coffau a’r dulliau o wneud hynny.
Y mae yna elfennau milwrol amlwg mewn llawer o’r seremonïau. Ni chafwyd unrhyw o awgrym o hynny yn ein seremoni syml ni.
Yr eiliadau mwyaf ingol eleni oedd gwrando ar fachgen ifanc yn seinio’r Caniad Olaf ar ei gorn arian. Dyma’r tro cyntaf erioed i mi fod yn dyst i hyn yn y Bont. Wrth i’r nodau esgyn a disgyn gwelwn o flaen fy llygaid yr wyneb a arferai hongian mewn ffrâm yn y parlwr. Wyneb llanc 19 oed, a’r wyneb hwnnw fel petai’n gofyn ‘Pam?’
Does gen i ddim ateb i’r cwestiwn. Oes gan unrhyw un ateb? Mae Llywodraeth Prydain Vawr yn dal i wthio’i thrwyn coch i faterion a gwledydd nad oes â wnelon nhw ddim byd â nhw.
Eto dyma’r union Lywodraeth sy’n condemnio Putin am ymyrryd mewn materion sydd ar garreg ei ddrws yn yr Wcrain.
Ond ie, wyneb un gŵr yn arbennig a welwn i ar sgwâr y Bont fore dydd Sul. Ond y tu ôl i’w wyneb ef roedd yna filiynau o wynebau eraill yn disgyn fel dail yr hydref o’r coed o gwmpas yr eglwys gerllaw.
Oes, mae yna amwysedd y tu ôl i goffau lladdedigion rhyfel. Ffin gul sydd rhwng coffau’r bechgyn a choffau rhyfel. Ac oes, y mae yna ar adegau enghreifftiau o groesi’r ffin honno.
Yn amlwg nid fi yw’r unig un i deimlo amwysedd yn fy nheimladau am ryfel.
Dyna’i chi Bob Dylan. Pan gyfansoddodd Blowing in the Wind cafodd ei labelu ar unwaith fel heddychwr.
Ond na, yn gymharol ddiweddar mynegodd mai’r gwneuthurwyr a’r masnachwyr arfau yw’r bwganod mawr. Cred, meddai, mewn hawliau gwlad i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau gan wlad arall. Nid bod Bob Dylan yn amwys. Na, ein cysyniad ni ohono ef sy’n amwys.
Do, fe wisgais fy mhabi coch fore dydd Sul, a hynny nid er mwyn coffau rhyfel ond er mwyn cofio Wncwl Dai, a thrwyddo ef gofio eraill a daflwyd i safn uffern yn gwbl ddiangen.
Yn ôl yr arfer darllenwyd y geiriau cyfarwydd sy’n sôn am lanciau na wnânt fyth heneiddio fel y gwnawn ni heneiddio. Ond geiriau eraill oedd yn corddi yn fy meddwl i, geiriau A.E. Houseman.
Here dead lie we because we did not choose
To live and shame the land from which we sprung;
Life, to be sure, is nothing much to lose
But young men think it is, and we were young.