Colofnwyr

RSS Icon
09 Tachwedd 2016
Gan LYN EBENEZER

Hwyl fawr am nawr i’r ‘hen foi iawn’ Jimmy Young

Rywbryd yn ystod gwanwyn 1958 oedd hi a minnau’n astudio ar gyfer arholiadau Lefel ‘A’. Un o’m tri phwnc oedd celfyddyd, a braint fu cael astudio wrth draed Ogwyn Davies.

Dim ond dau ohonom oedd yn astudio’r pwnc yn y Chweched, Peter Davies o Langeitho a minnau. Ac Ogwyn gafodd y syniad o drefnu i ni’n dau gael mynd lawr i Oriel Glynn Vivian yn Abertawe a’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i weld y paentiadau oedd yn yr orielau.

Yng Nghaerdydd fe wnaeth Peter a minnau aros dros nos mewn tŷ lodjins. A dyma  weld poster yn cyhoeddi fod yna gyngerdd y noson honno yn y Theatr Newydd.

Y seren oedd yn ymddangos yno oedd Jimmy Young. Bu Jimmy farw’r dydd o’r blaen yn 95 oed. Ie, seren, yn wir; prif seren y siartiau ganol y chwedegau.

Ei lwyddiant mawr cyntaf oedd y gân Too Young yn 1951 ac yna Faith Can Move Mountains yn 1953. Dilynwyd hyn gan Eternally ac yna caneuon gwlad fel Chain Gang a Wayward Wind.  Wedyn dyma The Man From Laramie, a ddringodd i rif un, a’i lwyddiant mwyaf oll sef y clasur Unchained Melody, honno hefyd yn cyrraedd y brig yn 1965.

Yn 1958 roedd Jimmy Young yn dal yn seren ond erbyn hyn roedd Elvis wedi creu daeargrynfeydd roc a rôl a doedd dim lle i gantorion hen-ffasiwn fel Jimmy.

Yn dilyn ei lwyddiant yn y byd pop cafodd, wrth gwrs, 30 mlynedd o lwyddiant fel cyflwynydd radio gyda’r BBC. Roedd dywediadau o’i eiddo fel ‘Orf we jolly well go’, ‘BFN.’ (Bye for now) a ‘TTFN’ (Ta-ta for now) ar dafodau miloedd.

Fel cyflwynydd gwrthodai’r syniad o holi caled. Ei athroniaeth oedd, meddai: “Fe wnewch chi ddal mwy o bryfed o ddefnyddio mêl na wnewch chi o ddefnyddio finegr.” 

Yn dilyn y cyngerdd hwnnw yn 1958 fe aeth Peter a minnau at ddrws y llwyfan yn y gobaith o gael cyfarfod â Jimmy. Ac fe wnaethom, a chael ei lofnod.

Buom yn sgwrsio ag ef am tua deng munud. Roedd e’n ŵr hynaws a chyfeillgar.

Cyngerdd Jimmy Young oedd y cyngerdd cyntaf i mi fod ynddo o ran gweld a chlywed unrhyw seren o bwys. Ers hynny gwelais sêr fel Willie Nelson a Chuck Berry, Roy Orbison a Tom Waits, y Kinks a Lindisfarne, Tom Paxton ac Emmylou  Harris. Heb sôn am Ei Fobrwydd, chwedl Twm Morys.

Yn wir, fe wnes i gyfarfod ag amryw ohonyn nhw a dod yn ffrindiau â rhai. Fy uchafbwynt fu cyd-ganu pennill o Fairytale of New York gyda Shane McGowan a gweld Suzi Quatro heb ddim amdani ond blanced bach ysgafn ddim mwy na hances poced. Melys gof!

Ond Jimmy Young oedd y cyntaf. Ac o ddarllen gwahanol deyrngedau iddo ddechrau’r wythnos, wyddwn i ddim am y bywyd caled a dreuliodd cyn cael ei hun yn seren.

Leslie Ronald Young oedd ei enw bedydd, mab i löwr o Swydd Gaerloyw. Bu mewn nifer o swyddi, yn cynnwys hedfan awyrennau. Bu’n chwaraewr rygbi ac yn focsiwr cyn troi at ganu yn 30 oed.

Pan sbubodd roc a rôl drwy’r byd, cafodd Jimmy ei hun ar y clwt. Dioddefodd o iselder ysbryd a bu’n ystyried cyflawni hunanladdiad. Aeth at gyfryngwraig seicig a phroffwydodd honno lwyddiant mawr iddo. Yn wir, aeth honno mor bell â phroffwydo y câi swydd fel holwr ar y radio. Roedd hi’n iawn.

Dros y blynyddoedd fe holodd bawb o bwys yn cynnwys pob Prif Weinidog o Harold Wilson i Tony Blair.  Ef oedd hoff holwr Margaret Thatcher. Fe’i holodd hi 14eg o weithiau. Ef oedd hoff gyflwynydd y Frenhines. 

Daeth yn gyfaill mynwesol i Terry Wogan, y ddau’n tynnu coes ei gilydd yn ddidrugaredd. Disgrifiodd Wogan yr achlysur cyntaf iddo gyfarfod â Jimmy gyda’r geiriau: “The cheeky old blighter wheeled his mobile commode into my studio.”    

Torrodd Jimmy dir newydd gyda’i raglen ddyddiol drwy gychwyn ambell slot fyddai’n cynnig cynghorion. Ceid arbenigwyr ar goginio, trin arian, ffasiwn, swyddi – pob pwnc a allai effeithio ar y gwrandawyr cyffredin. Ar ei fwyaf poblogaidd byddai dros saith miliwn yn gwrando ar ei raglen. 

Pan glywais am ei farw cofiais ar unwaith y noson honno yng Nghaerdydd.

Yn anffodus wn i ddim ble mae’r llofnod. Dydi hynny ddim yn bwysig.

Cofiaf gael sgwrsio ag ef am ddeng munud. Roedd hwnnw’n amser digon hir i mi sylweddoli ei fod e’n hen foi iawn. 

TTFN, Jimmy.

Rhannu |